Agenda item

Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2019/20

Cefnogi Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2019/20 i gael ei atodi i’r Datganiad Cyfrifon ar gyfer ei fabwysiadu.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2019/20 sy'n cyd-fynd â'r Datganiad Cyfrifon.Mae’r adroddiad yn nodi’r broses ar gyfer paratoi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a'r dull arfaethedig nad oedd yn bosibl eleni oherwydd yr argyfwng cenedlaethol.Mae’r adroddiad hefyd yn nodi y byddai mewnbwn y Pwyllgor Archwilio yn rhan hanfodol o broses 2020/21.

 

Siaradodd y Prif Weithredwr am bwysigrwydd y Datganiad Llywodraethu i reoli risgiau o un flwyddyn i'r llall drwy gymryd camau lliniaru i fynd i’r afael â materion strategol arwyddocaol e.e. gwella gallu’r gwasanaeth gofal preswyl i reoli’r argyfwng, cefnogi pobl sy’n cysgu allan a chynyddu gallu'r Cyngor i bennu cyllideb gytbwys er gwaethaf yr heriau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Johnson yngl?n ag adolygu camau lliniaru i ymateb i’r argyfwng cenedlaethol, roedd y Prif Weithredwr yn cydnabod y byddai’r effaith ar 2020/21 yn un sylweddol e.e. ar herio lefelau dyledion Treth y Cyngor ac ôl-ddyledion rhent.Dywedodd y byddai Strategaeth Adfer y Cyngor yn cael ei hargymell i’r Bwrdd Adfer Trawsbleidiol gan geisio cytundeb i gynnal cyfarfod o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ddiwedd mis Medi i asesu’r effaith ar bob portffolio a’r camau lliniaru.

 

Gofynnodd Sally Ellis bod y Datganiad Llywodraethu yn adlewyrchu’r ymrwymiad i fwy o aelodau ddarparu mewnbwn arno, nad oedd yn bosibl eleni oherwydd yr argyfwng. Cytunodd y Prif Weithredwr â hyn a dywedodd y byddai’r broses a’r amserlen i sicrhau’r ymgysylltiad hwn yn Chwarter 4 yn cael ei rhannu gyda’r Pwyllgor yn yr hydref.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ar ganlyniadau yn sgil yr argyfwng, dywedodd y Prif Weithredwr fod gwaith ar y dull rheoli risg yn mynd rhagddo’n dda iawn gydag asesiadau risg cynhwysfawr i gynorthwyo i liniaru risgiau a rheoli’r argyfwng.Bydd y Pwyllgor yn derbyn y chwe chofrestr risgiau adfer, a dybiwyd gan gynlluniau busnes, ar ôl y cyfarfod.Siaradodd y Prif Archwilydd am fuddion perthnasau gwaith effeithiol gyda thimau perfformiad a risg ac am ddiffinio rolau a chyfrifoldebau yn glir.O ran yr angen am gydbwysedd rhwng camau gweithredu rhagweithiol ac ataliol i ymateb i ddigwyddiadau arwyddocaol, dywedodd y swyddogion fod cadernid Cynlluniau Parhad Busnes - gan gynnwys prawf senario pandemig ffug y flwyddyn flaenorol - fel rhan o’r Gwasanaeth Rhanbarthol i Gynllunio Rhag Argyfwng wedi bod yn fuddiol iawn wrth baratoi ar gyfer yr her.

 

Holodd Allan Rainford am wirio meysydd effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu’r Cyngor yn annibynnol. Soniodd y Prif Weithredwr am enw da’r Cyngor wrth weithredu ar adborth gan heriau cyfoedion, fel yr adroddir yn rheolaidd i’r Pwyllgor. Amlygodd fod gweithio mewn partneriaeth ar lefel ranbarthol yn un o gryfderau’r Cyngor ers peth amser bellach, a bod tystiolaeth o hynny i’w gweld yn aml mewn adroddiadau gan bartneriaid fel Archwilio Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru.Mae Llywodraeth Cymru wedi amlygu rôl arweiniol y Cyngor wrth ddarparu prosiect Profi, Olrhain a Diogelu Gogledd Cymru fel enghraifft o arfer da.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Dunbobbin a Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2019/20, sy’n cynnwys yr ymrwymiad i gynyddu cyfranogiad aelodau o’r flwyddyn nesaf, a’i atodi at y Datganiad Cyfrifon er mwyn eu mabwysiadu.

Dogfennau ategol: