Agenda item

Adnewyddu Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau ymgynghori ynghylch adnewyddu’r Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ar yr adolygiad o Orchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPOs). Gall y Gorchmynion hyn bara am uchafswm o dair blynedd cyn bod angen adolygiad. Roedd angen adolygu Gorchmynion y Cyngor erbyn hyn, neu byddent yn dod i ben ar 19 Hydref 2020. I ymestyn PSPO mae’n rhaid i’r Cyngor gynnal ymgynghoriad cyhoeddus i ddechrau ac ymarfer hysbysu yn unol â’r Ddeddf, fel pe bai’n gwneud gorchymyn newydd.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth), o dan ddarpariaethau’r Ddeddf fod Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i Reoli Alcohol yn newid yn awtomatig i PSPO. Byddai’r gorchymyn hwn yn rhoi grym i Swyddogion yr Heddlu ofyn i aelodau’r cyhoedd ildio alcohol pe credid fod aelod o’r cyhoedd yn achosi niwsans mewn lle cyhoeddus. Nid oedd yn waharddiad llwyr ar alcohol mewn ardaloedd cyhoeddus, ac nid oedd yn weithredol i fangre drwyddedig, ond yn annog yfed yn synhwyrol. Roedd angen adolygu’r Gorchymyn hwnnw hefyd.

 

            Ers gweithredu’r Gorchymyn Rheoli C?n, roedd dros 1,100 o gerddwyr c?n wedi cael sgwrs ac wedi cael gwybodaeth a chyngor ar waharddiadau’r Gorchymyn. Roedd cyfanswm o dri Hysbysiad Cosb Benodedig wedi cael eu rhoi am g?n yn baeddu a 45 am g?n yn mynd i mewn i ffiniau caeau chwarae wedi’u marcio.

 

            Y bwriad oedd cynnal yr ymgynghoriad drwy ddau arolwg ar-lein, un i bob Gorchymyn, yn gofyn am farn preswylwyr ac ymgynghoreion statudol ar y PSPOs i gael eu hymestyn ac a oedd gofynion y gorchymyn yn gymesur. Byddent ar wefan  Cyngor am gyfnod o bum wythnos drwy fis Awst 2020 ac wythnos gyntaf Medi 2020. Byddai’r Cyngor yn ystyried yr atebion i’r ymgynghoriad cyn gwneud penderfyniad ar y Gorchmynion terfynol.

 

            Byddai map rhyngweithiol yn cael ei roi ar-lein gyda phob categori tir wedi’i godio’n lliw i ddangos pa gyfyngiad oedd mewn grym ym mha leoliad, yn cynnwys tir perthnasol a fabwysiadwyd gan yr awdurdod lleol ers i’r Gorchymyn gael ei wneud yn 2017, ynghyd â dogfen o gwestiynau cyffredin. O safbwynt ymgynghoriad y PSPO Rheoli C?n, cynigiwyd ysgrifennu at y canlynol gan amlinellu’r cynnig i ymestyn y PSPO a ble a sut roedden nhw’n gallu cymryd rhan:

 

  • Aelodau Etholedig
  • Penaethiaid Ysgol
  • Cynghorau Tref a Chymuned
  • Ysgrifenyddion Clybiau Bowlio
  • Lesddeiliaid tir a effeithir, h.y. clybiau chwaraeon
  • Elusennau a mudiadau fel yr RSPC a’r Kennel Club
  • Heddlu Gogledd Cymru a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Unrhyw gynrychiolwyr cymunedol priodol eraill

 

Eglurodd y Cynghorydd Thomas fod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yn ddiweddar ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd lle y cynigiwyd argymhelliad ychwanegol i roi gerbron y Cabinet “fod sylwadau’n cael eu gwneud drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus i PSPOs gael eu hymestyn am hyd at bum mlynedd”. Awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethiant) eiriad gwahanol sef, “Fod sylwadau’n cael eu gwneud i Lywodraeth y DU drwy’r Gymdeithas Llywodraeth Leol a rhwydweithiau proffesiynol yn gofyn i Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 gael ei newid i ymestyn y cyfnod lle mae angen adnewyddu PSPOs i 5 mlynedd” a chefnogwyd hyn. Dywedodd y Cynghorydd Thomas y byddai hi’n bwydo’n ôl i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am y geiriad y cytunwyd arno i’r argymhelliad ychwanegol.

 

Roedd adborth arall gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd yn cynnwys: cynnwys cyn-filwyr yn yr ymgynghoriad; arwyddion priodol ar byst; a ch?n i gael eu hymarfer ar ymylon caeau chwarae ac ar dennyn bob amser.

 

 Mewn ymateb i sylw gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar PSPO i ddelio â chymryd cyffuriau, esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) nad oedd yr Heddlu’n gweld budd yn hyn gan fod gan yr heddlu y p?er yn barod i ddelio â chymryd cyffuriau gan fod hyn yn weithgaredd troseddol. Byddai’n ysgrifennu at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i ddweud wrthynt am ymateb yr Heddlu. Byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Medi, yn amlinellu canlyniad yr ymgynghoriad, yn barod i’r Gorchymyn newydd ddechrau ym mis Hydref.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo ymgynghori â’r ymgynghoreion statudol gofynnol ac aelodau o’r cyhoedd at ddiben casglu barn i ymestyn y ddau PSPO presennol yn Sir Fflint am gyfnod o dair blynedd;

 

(b)       Cymeradwyo’r dulliau ymgynghori a gynigir i gael barn am ymestyn y ddau PSPO presennol yn Sir y Fflint am gyfnod o dair blynedd; a

 

(c)        Gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU drwy’r Gymdeithas Llywodraeth Leol a rhwydweithiau proffesiynol yn gofyn am newid y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Heddlua 2014 i ymestyn y cyfnod i adnewyddu PSPOs i 5 mlynedd.

Dogfennau ategol: