Agenda item
Fframwaith Byw â Chymorth a chomisiynu gwasanaethau
Pwrpas: Fe hoffai Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ail gomisiynu rhywfaint o’i eiddo byw â chymorth presennol o dan Fframwaith Byw â Chymorth Gogledd Cymru newydd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Jones a eglurodd fod ymarfer caffael electronig wedi cael ei wneud gan Gyngor Sir Ddinbych gyda’r pwrpas o gyflwyno Fframwaith Byw â Chymorth Gogledd Cymru.
Drwy fabwysiadu’r Fframwaith, byddai’n galluogi Sir y Fflint i gomisiynu ei wasanaethau byw â chymorth pan fyddai’n amser eu hadnewyddu, yn effeithiol ac effeithlon tra’n sicrhau cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth ar draws Gogledd Cymru.
Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod gan y Gwasanaethau Cymdeithasol dri gwasanaeth byw â chymorth ar hyn o bryd a oedd angen eu comisiynu/ail-gomisiynu a chynigiwyd defnydd Fframwaith newydd Byw â Chymorth Gogledd Cymru (contract yn ôl y gofyn) i dendro a dewis darparwr newydd
Fel bod y Cyngor yn bodloni’r Rheolau Gweithdrefnau Contractau, roedd angen sêl bendith y Cabinet i symud ymlaen â’r tendr a dyfarnu’r contractau.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, gofynnodd y Cynghorydd McGuill y cwestiynau canlynol, gyda’r atebion a ddangosir wedi’u rhoi cyn y cyfarfod:
C – Gofynnwyd am eglurder yngl?n â hyd y contractau hyn. 35 darparwr i gyd – ddim yn gallu gweld hyd, ydi hyn yn golygu eu bod yn benagored?
A – Contractau penagored ydyn nhw i sicrhau parhad gofal i’r mwyaf bregus. Fel gyda phob contract, caiff ansawdd y gwasanaeth ei fonitro’n gyson gan y tîm contractau a chomisiynu a bydd unrhyw broblemau yn cael eu taclo.
C – Ni soniwyd pwy sy’n gyfrifol am ddarparu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) i’r gweithwyr a allai fod angen ei ddefnyddio yng nghartrefi cleient ayb.
A – Mae gan ddarparwyr rheoledig ddyletswydd i ddarparu PPE at ddefnydd y staff, bydd hyn yn rhan o’u Polisi Iechyd a Diogelwch. Yn ystod y pandemig, fel Darparwyr Gofal Cymdeithasol, byddent yn derbyn darpariaeth LlC o PPE drwy Gydwasanaethau’r GIG, mae hyn ar ben eu harcheb stoc arferol.
C - Nid yw’n dweud ‘erbyn pryd’ pan mae angen i ni gael gwybod am unrhyw newid yn amgylchiadau’r defnyddiwr gwasanaeth h.y. mynd i’r ysbyty - faint cyn y cawn wybod fel y gellir gostwng taliad ayb. - yr un peth gyda marwolaeth.
A – Mae cymal yng nghontract yn ôl y gofyn y Fframwaith Byw â Chymorth sy’n galluogi atal y Gwasanaeth dros dro, wedi’i gynllunio neu heb ei gynllunio, a all ddigwydd oherwydd: mynd i’r ysbyty, absenoldeb, absenoldeb a gynlluniwyd neu farwolaeth. Os caiff y Gwasanaeth ei atal dros dro, rhaid i’r Darparwr a’r Comisiynydd ddilyn y broses a osodir allan yn Atodlen 6 Amrywio a Therfynu.
C – Yn olaf allwn ni sicrhau fod gan y defnyddiwr gwasanaeth lun o’r holl staff maen nhw’n dod i gysylltiad â nhw ar y ffeil portreadau byr?
A - Fel rhan o gomisiynu/ailgomisiynu unrhyw Fyw â Chymorth, mae prosesau cadarn i sicrhau fod unigolion yn gyfarwydd â’r staff sy’n eu cefnogi. Gan sylweddoli pwysigrwydd unigolion yn dod i adnabod y bobl sy’n eu helpu, mae’r contract yn cynnwys offeryn paru staff a thempled ar gyfer proffil un dudalen. O ganlyniad i’r effaith gadarnhaol a gafodd Progress for Providers yng ngwasanaethau preswyl a chartref pobl h?n, mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn bwriadu cyflwyno hwn i’r gwasanaethau anabledd dysgu dros y 12 mis nesaf, gyda phroses wedi’i theilwra’n arbennig i unedau preswyl anabledd dysgu. Yn ogystal, mae pob contract newydd yn cynnwys cyfnod pontio sy’n rhoi cyfleoedd i unigolion a’u teuluoedd ddod i adnabod eu tîm cymorth newydd (cyfnod 6-8 wythnos o ymweliadau a chyfarwyddo â’r cyflwyno gwasanaeth). Mewn rhai lleoliadau gwasanaeth, defnyddir lluniau i ddweud wrth unigolion pwy fydd eu tîm staff y diwrnod hwnnw.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo mabwysiadu’r Fframwaith Byw â Chymorth i bob ymarfer comisiynu byw â chymorth yn y dyfodol; a
(b) Cymeradwyo’r cynnig i ailgomisiynu’r 3 eiddo byw â chymorth y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, fel yn ôl y Rheolau Gweithdrefnau Contract a oedd yn mynnu sêl bendith y Cabinet i ddyfarnu contractau gyda gwerth o dros £2M.
Dogfennau ategol:
- Supporting Living Framework and commissioning of services, eitem 188. PDF 119 KB
- Enc. 1 for Supporting Living Framework and commissioning of services, eitem 188. PDF 513 KB
- Enc. 2 for Supporting Living Framework and commissioning of services, eitem 188. PDF 722 KB
- Enc. 3 for Supporting Living Framework and commissioning of services, eitem 188. PDF 29 KB
- Enc. 4 for Supporting Living Framework and commissioning of services, eitem 188. PDF 139 KB