Agenda item

Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2020/21

Pwrpas:        Cael cytundeb ar gyfer y ffioedd gwresogi arfaethedig mewn eiddo’r cyngor gyda systemau gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2020/21.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd fod y portffolio Tai ac Asedau yn gweithredu wyth cynllun gwresogi cymunedol yn Sir y Fflint ar hyn o bryd. Roedd y Cyngor wedi negodi costau tanwydd o flaen llaw ac roedd y tenantiaid yn elwa ar gyfradd Contract Diwydiannol a Masnachol y Cyngor. 

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod y taliadau gwresogi cymunedol newydd yn seiliedig ar ddefnydd ynni y flwyddyn flaenorol er mwyn sicrhau asesiad mwy cywir o’r costau a’r effeithiau (cadarnhaol a negyddol) ar y gronfa wresogi.

 

            Roedd y newidiadau a gynigiwyd ar gyfer 2020/21 wedi’u gosod allan yn yr adroddiad. Yn y mwyafrif o achosion, roedd yr hyn a godwyd ar y tenantiaid wedi gostwng,  a byddai hyn, fel mewn blynyddoedd eraill, yn caniatáu i Sir y Fflint adennill costau rhagamcnol y taliadau gwresogi tra’n dal i drosglwyddo budd y costau ynni llai i’r tenantiaid.

 

            Roedd Acacia Close yn yr Wyddgrug wedi gweld cynnydd mewn costau gwresogi o 7%, cyfartaledd ar draws y tri math eiddo o £0.59 yr wythnos. Byddai Tîm Ynni Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda’r cyflenwr i osod darllenyddion awtomatig ar y mesuryddion yn Acacia Close a byddai hyn yn helpu i anfon biliau mwy cywir ac amserol gan y darparwr cyfleustodau a byddai hynny wedyn yn caniatáu i’r Cyngor filio’r tenantiaid yn seiliedig ar wybodaeth fwy cywir o hynny ymlaen.

 

            Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai, gwnaeth y Cynghorydd Dunbar y sylw canlynol:

 

“Mae gennym wyth Cynllun Gwresogi Cymunedol yn Sir y Fflint sy’n ymdrin â’r ardaloedd Cymunedol a ddangosir yn Nhabl 1, lle mae’r awdurdod yn talu drwy’r Cyfrif Gwresogi, yna mae’r costau tanwydd yn cael eu dyrannu i bob tenant unigol er mwyn sicrhau fod gennym asesiad cywir o gostau ac effeithiau ar y Cyfrif Gwresogi yn seiliedig ar bob cynllun.

 

Gyda chost ynni yn codi, sy’n rhywbeth y tu hwnt i allu’r awdurdod, nodwyd ym mlwyddyn oerach 2018/19 fod cynnydd bychan wedi’i weld mewn defnydd, ond y gwrthwyneb yn 2019/20 gyda gaeaf mwynach yn gweld gostyngiad yn y rhan fwyaf o gynlluniau. Gyda systemau gwresogi a uwchraddiwyd yn Panton Place Treffynnon ac un ardal yng Nglan-y-Morfa Cei Conna, caiff y tenantiaid eu bilio ar eu darlleniadau eu hunain gyda’r cyflenwr a ddewiswyd ganddynt.

 

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r tâl a ailgodir ar y tenantiaid wedi gostwng ac mae hyn wedi caniatáu i Sir y Fflint adennill costau taliadau gwresogi a’n tenantiaid wedi cael budd o gostau ynni is. Gwelodd un eithriad yn Nhabl 1, Acacia Close, Yr Wyddgrug, gynnydd cyfunol ar draws y tri eiddo o 7%, sef tua £0.59c yr wythnos yn erbyn gostyngiad o 18% i’r ardal hon y llynedd, felly mae’r Tîm Ynni yn gweithio gyda chyflenwyr i osod Darllenyddion awtomatig er mwyn cael darlleniad cywirach, fydd yn golygu fod biliau i’r tenantiaid yn gywir wedi hynny. Bydd hyn yn cael ei wneud hefyd i Glan-y-Morfa Bloc 1 yn ddiweddarach yn 2020/21.

 

Ar y ddealltwriaeth hon ar ôl nifer o gwestiynau, roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ystod ei gyfarfod ar 7 Gorffennaf yn cefnogi adroddiad Taliadau Gwresogi Cymunedol 2020/21.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r newidiadau i’r taliadau gwresogi presennol yn nhai’r cyngor sydd  â chynlluniau gwresogi cymunedol fel yr amlinellir yn y tabl yn yr adroddiad, i ddod i rym o 31 Awst 2020.

Dogfennau ategol: