Agenda item
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG
Pwrpas: Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.
Cofnodion:
Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:
Strydwedd a Chludiant
- Cyngor Sir y Fflint. Adran 23 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Croesfan arfaethedig i gerddwyr ar B5129 Chester Road a Leaches Lane, Mancot
Rhoi gwybod i'r Aelodau am y gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu'r groesfan i gerddwyr (Sebra) arfaethedig ar Leaches Lane, Mancot.
- Cyngor Sir y Fflint. Mancot Lane, Willow Lane, Field View, Mancot Way, Crossways, Hawarden Way, Leaches Lane, Foxes Close, Cottage Lane, Colliery Lane, The Paddock, Wilton Road, Clos Coed, Mancot Royal Close ac Earle’s Crescent, Mancot. Cynnig i Gyfyngu ar Aros a Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg
Rhoi gwybod i’r Aelodau am y gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu’r cyfyngiadau aros arfaethedig ar Mancot Lane, Willow Lane, Field View, Mancot Way, Crossways, Hawarden Way, Leaches Lane, Foxes Close, Cottage Lane, Colliery Lane, The Paddock, Wilton Road, Clos Coed, Mancot Royal Close ac Earle’s Crescent, Mancot.
- Cyngor Sir y Fflint. Leaches Lane, Hawarden Way, Foxes Close, Earle’s Crescent, Field View, Cottage Lane, The Paddock, Colliery Lane, Wilton Road, Willow Lane, Hampton Avenue, Clos Coed, Marnel Drive, Mancot Royal Close, Crossways, Mancot Way, Ashfield Crescent, Maxwell Avenue, Wenlock Crescent, Sunnyside, Deiniol’s Road, Oakley Road, Leaches Close, Oak Court, Orchard Close, Westway a Mancot Lane, Mancot.
Rhoi gwybod i’r Aelodau am y gwrthwynebiadau a gafwyd yn dilyn hysbysebu'r Terfyn Cyflymder 20mya arfaethedig a'r Parth Terfyn Cyflymder 20mya ar Leaches Lane, Hawarden Way, Foxes Close, Earle’s Crescent, Field View, Cottage Lane, The Paddock, Colliery Lane, Wilton Road, Willow Lane, Hampton Avenue, Clos Coed, Marnel Drive, Mancot Royal Close, Crossways, Mancot Way, Ashfield Crescent, Maxwell Avenue, Wenlock Crescent, Sunnyside, Ffordd Deiniol, Oakley Road, Leaches Close, Oak Court, Orchard Close, Westway a Mancot Lane, Mancot.
- Deddf Priffyrdd 1980 Cyngor Sir y Fflint Adran 90C. Rhybudd o Gynnig i Osod Twmpathau Ffyrdd Fflat ar Stryd Yr Eglwys, y Fflint, Sir y Fflint
I hysbysu Aelodau am wrthwynebiad a dderbyniwyd ar ôl hysbysebu’r Twmpathau Ffyrdd Fflat ar Stryd Yr Eglwys, y Fflint.
- Cyngor Sir y Fflint. A548 Chester Street, A548 Chester Road, A548 Holywell Street, A548 Trelawnyd Square, Evans Street, Duke Street, Park Avenue, Castle Dyke Street, Marsh Lane, St Mary’s Walk, Barons Close Borough Grove, Trelawny Avenue, Lower Sydney Street, Church Street, Earl Street, Lower Mumforth Street, Corporation Street, Salusbury Street, Castle Street, Syndey Street, Feather Street, Queen Street and Market Square / Y Farchnad Fflint. Cynnig i Gyfyngu ar Aros a Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg a Chyfyngiad ar Aros.
I hysbysu Aelodau am y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ar ôl hysbysebu’r Cyfyngu ar Aros ar Unrhyw Adeg a Chyfyngiad ar Aros ar yr A548 Chester Street, A548 Chester Road, A548 Holywell Street, A548 Trelawny Square, Evans Street, Duke Street, Park Avenue, Castle Dyke Street, Marsh Lane, St Mary’s Walk, Barons Close, Borough Grove, Trelawny Avenue, Lower Sydney Street, Church Street, Earl Street, Lower Mumforth Street, Corporation Street, Salusbusy Street, Castle Street, Sydney Street, Feather Street, Queen Street a Market Square / Y Farchnad Fflint.
- Contract Trin Arwyneb 2020-2024
Mae Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu ymgymryd â rhaglen gwaith trin arwyneb cerbytffordd a gynhelir yn flynyddol mewn amrywiol leoliadau ar draws y Sir, hyd at £350k y flwyddyn dros gyfnod o bum mlynedd yn ddarostyngedig i arian fod ar gael yn y dyfodol. Bydd gwerth cronnus y gwaith dros y tymor pum mlynedd llawn hyd at £1.75miliwn. Roedd yr adroddiad yn gofyn am benderfyniad ar gaffael cyflenwr allanol i ymgymryd â’r gwaith ar ran y Cyngor.
- A5026 Fron Park Road, Pen Y Ball Street, West Drive, Cae Mefus a A5026 Lloc, Treffynnon. Gwaharddiad Arfaethedig i Aros ar Unrhyw Adeg
I hysbysu’r Aelodau am y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ar ôl hysbysebu’r Cyfyngu ar Aros ar Unrhyw Adeg ar yr A5026 Fron Park Road, Pen Y Ball Street, West Drive, Cae Mefus a’r A5026 Lloc, Treffynnon.
- Cyngor Sir y Fflint. B5121 Stryd Brynffordd, Treffynnon. Traffig Un Ffordd 20-
I hysbysu Aelodau am y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ar ôl hysbysebu’r Unffordd arfaethedig ar y B5121 Stryd Brynffordd, Treffynnon.
- Cyngor Sir y Fflint. Stryd Pen-y-Ball, Treffynnon. Gorchymyn Traffig Un Ffordd 20-
I hysbysu Aelodau am y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ar ôl hysbysebu’r Unffordd arfaethedig ar Stryd Pen-y-Ball, Treffynnon.
Tai ac Asedau
- Rhent y Cyngor – Cais i Ddileu Ôl-ddyledion Tenantiaeth
Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol.
Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â dileu ôl-ddyledion tenant oedd yn destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Mae ôl-ddyledion rhent o £6,761.54 wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled na fyddai modd eu hadennill bellach o ganlyniad i roi'r Gorchymyn.
- Rhent y Cyngor – Cais i Ddileu Ôl-ddyledion Tenantiaeth
Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (adran 5.2) yn nodi bod dyledion drwg a rhai na ellir eu hadennill sydd werth dros £5,000 yn cael eu hystyried i gael eu dileu ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol.
Roedd y penderfyniad hwn yn ymwneud â dileu ôl-ddyledion tenant oedd yn destun Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled. Mae ôl-ddyledion rhent o £7,086 wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled na fyddai modd eu hadennill bellach o ganlyniad i roi'r Gorchymyn.
- Dileu Treth y Cyngor
Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 9.6 - Incwm a Gwariant) yn amodi y dylid rhoi gwybod i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol/Swyddog Adran 151 am unrhyw ddyled unigol sydd werth rhwng £5,000 a £25,000, er mwyn ystyried ei dileu, ar y cyd â'r Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau.
Roedd manylion dau gyfrif Treth y Cyngor wedi eu hamlinellu, gyda’r cyfanswm yn £17,427.90.
- Dileu Trethi Busnes
Mae Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 9.6 - Incwm a Gwariant) yn amodi y dylid rhoi gwybod i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol/Swyddog Adran 151 am unrhyw ddyled unigol sydd werth rhwng £5,000 a £25,000, er mwyn ystyried ei dileu, ar y cyd â'r Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau.
Roedd yr amserlenni, a gafodd eu crynhoi gan y categori o ddileu yn cynnwys 17 cyfrif Trethi Busnes lle roedd dyled gyffredinol ar gyfer pob cwmni yn fwy na £5,000.
- Gwaredu Tir yn Fferm Hope Hall, Yr Hôb
Mae’r gwarediad tir hwn yn ymwneud â gwaredu saith erw o dir oedd yn ffurfio rhan o Fferm Hope Hall yn flaenorol. Mae’r Cyngor yn cynnal budd rhydd-ddaliad yn y tir sy’n ymddangos gydag ymyl coch ar y cynllun. Bydd y Cyngor yn derbyn derbyniad cyfalaf drwy waredu’r tir.
Dogfennau ategol: