Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol

Pwrpas:        Derbyn Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2019/2020.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones yr Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol ac eglurodd ei bod yn ofynnol i’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol lunio’r adroddiad, crynhoi eu barn ar swyddogaethau gofal cymdeithasol yr awdurdod lleol a blaenoriaethau ar gyfer gwella, fel sy’n ofynnol yn gyfreithiol yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 a’r Ddeddf Rheoliadau ac Arolygiadau (Cymru) 2015. 

 

            Diben yr Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol oedd gosod hunanwerthusiad gyda blaenoriaethau ar gyfer gwella.    Bydd yr adroddiad yn ffurfio rhan annatod o werthusiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd y gwerthusiad hefyd yn hysbysu asesiad Swyddfa Archwilio Cymru o’r Cyngor fel rhan o’r adroddiad gwella blynyddol.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod arddull yr adroddiad yr un fath ag adroddiadau blaenorol a byddai’n cael ei gynhyrchu mewn arddull electronig gan Double Click. Byddai’r adroddiad hefyd yn cael ei gyfieithu ac ar gael mewn fformat dwyieithog ar wefan y Cyngor ar ôl ei gymeradwyo. 

 

            Roedd yr adroddiad blynyddol yn amlinellu’r blaenoriaethau gwella a nodwyd ar gyfer 2020/22 ac roeddent wedi eu manylu yn yr adroddiad, gan gynnwys ymestyn Marleyfield a gweithredu ‘Model Mockingbird’ o Faethu.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, gofynnodd y Cynghorydd McGuill nifer o gwestiynau a ymatebwyd yn uniongyrchol iddynt drwy e-bost, fel y manylwyd isod:

 

C – Sawl uned gofal micro sy’n weithredol a faint o gleientiaid sydd yna (llawer o arian yn mynd i mewn i hyn ac amseriad perffaith gyda’r cyfnod clo i ddatblygu’r busnesau hyn)

A – fel y disgrifir o fewn yr adroddiad roedd hwn yn beilot gyda chyllid drwy grantiau Her Economaidd a Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, roedd llawer o waith wedi’i wneud cyn y Coronafeirws, ac roeddem wedi cyrraedd pwynt o gael nifer o ofal Micro yn dangos diddordeb ac yn barod i ddechrau. Fodd bynnag, roedd hyn wedi’i atal oherwydd canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru rheoliadau C19. Rydym yn parhau i ddatblygu a hysbysebu’r gwaith rydym yn ei wneud a byddwn yn barod i symud ymlaen gydag o leiaf dau ofal micro unwaith y bydd cyfyngiadau’r cyfnod clo wedi eu llacio.

 

C – Mae’r defnydd o dechnoleg wedi ymestyn yn sylweddol ar draws pob oed a gallu, beth ydym yn ei wneud i gasglu hyn ac eto datblygu’r math hwn o gyswllt gyda phobl? Mae hyfforddiant yn un maes ond mae yna lawer o feysydd ac nawr yw’r amser i “fynd amdani.”

A – fel rhan o’r prosiectau trawsnewid rhanbarthol, a arweinir gan Sir y Fflint, rydym wedi lansio’r wefan ‘cael eich gwirio’ i bobl ag anabledd dysgu, mae’r wefan yn fyw a bydd yn datblygu wrth i bobl ei defnyddio, byddwn yn gwybod faint o drawiadau a gafwyd ar y wefan.  Mae yna ddefnydd gwych o dechnoleg o fewn gwasanaethau plant ac mae hwn wedi profi’n gyfrwng poblogaidd iawn yn ystod y cyfnod clo, mae staff yn dweud fod pobl ifanc yn cyfrannu felly’n dda i ddysgu ar gyfer y defnydd o dechnoleg yn y maes hwn yn y dyfodol.  Ynghyd â hyn mae ein tîm hyfforddiant yn defnyddio technoleg gan gynnwys Zoom ac adnoddau hyfforddiant ar-lein arall i sicrhau bod staff yn derbyn digon o hyfforddiant a chefnogaeth.  Mae Ipads yn cael eu defnyddio gydag unigolion i’w helpu i gadw mewn cysylltiad gyda theulu a bydd hyn yn parhau.

 

C – Rydym yn nodi mai ein nod yw atal yn hytrach na dibynnu ar wasanaethau iechyd meddwl ond sut? Yn sicr, bydd yna fwy o angen y gwasanaethau hyn yn fuan iawn.

A - Mae gennym raglen waith llwyddiannus iawn i bobl gyda iechyd meddwl parhaus drwy ystod o ddosbarthiadau adferiad a chynlluniau dychwelyd i’r gwaith. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr iechyd a rhan o waith Trawsnewid Iechyd Meddwl Gogledd Cymru i agor canolfannau Ican, bydd un yn cael ei lleoli yn Llyfrgell y Fflint.    Roedd hon i fod i agor yn y gwanwyn, fodd bynnag mae hyn wedi’i ohirio ond unwaith y bydd y rheoliadau’n newid byddwn yn ailddechrau ar y gwaith hwn.  

 

C – Ble rydym yn cynnal profion wythnosol i staff mewn lleoliadau gofal cymdeithasol a’n cartrefi ac rwyf hefyd yn cymryd bod hyn yn cynnwys staff gofal cartref, pa brofion ydym yn eu cynnal er mwyn diogelu ein defnyddwyr?

A – Er nad yw hwn yn gwestiwn ar gyfer adroddiad y Cyfarwyddwr, yn gryno mae yna lawer o waith yn cael ei wneud ar ailbrofi holl staff gofal cymdeithasol ar draws y sector.  Staff gofal preswyl yw canolbwynt y gwaith ar hyn o bryd gan fod y Coronafeirws yn fwy cyffredin mewn cartrefi gofal ac yn llai i’r sawl sy’n derbyn gofal yn y gymuned.  Mae’r manylion i gyd ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. I gadarnhau mae Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint wedi arwain Cell Arian Gogledd Cymru ac yn rhagweithiol iawn yn ein dull o gefnogi’r sector cyfan.    

 

C – mae Arosfa yn cael ei ddefnyddio ers mis Mawrth?Os felly, sut?  Oes yna dal gost i ni?

A – Oes mae’r cyfleuster hwn yn dal i gael ei ddefnyddio ac yn cydymffurfio â rheoliadau Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â niferoedd, cadw pellter cymdeithasol ac anghenion blaenoriaeth i blant anabl. Rydym yn parhau i ariannu Arosfa gan fod y cyfleuster yn agored er ar gyfer llai o bobl ifanc.    Os yw’n agored neu ddim mae yna ganllawiau llywodraeth cenedlaethol ar waith yngl?n â chyllid ar gyfer gwasanaethau, fel rhan o drefniadau ffyrlo’r Llywodraeth.    

 

C – Gwasanaethau dydd fel Hwb Cyfle – ydy o’n cael ei ddefnyddio?Costau ac ati.   

A – Ydy, mae’r cyfleuster hwn yn dal i gael ei ddefnyddio fel yr uchod ac yn blaenoriaethu anghenion pobl ag anabledd dysgu, yn ogystal mae yna waith ar-lein sylweddol a chyswllt rheolaidd gyda’r gr?p hwn.      

 

C – Canolfan Asesu Ewloe – tîm datblygu Gwasanaethau Cymdeithasol – ydy hon yn ganolfan hyfforddiant ymroddedig? Ble mae’r Ganolfan?

A – Mae tîm datblygu'r gweithlu nawr wedi’i leoli yn Nh? Dewi Sant ac mae yna ystafelloedd hyfforddiant yn islawr yr adeilad i ddarparu hyfforddiant yn ogystal â defnydd o’r awditoriwm ar gyfer sesiynau hyfforddiant mwy.

 

Dau wall, un ar dudalen 21 ail golofn, brawddeg gyntaf a hefyd y drydedd golofn.  Hefyd tudalen 37 cipolwg dwywiath.  

Nodwyd a diolch.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr adroddiad blynyddol yn cael ei gymeradwyo a’i fabwysiadu. 

Dogfennau ategol: