Agenda item

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: Mae un wedi cael ei dderbyn ac wedi ei atodi.  Bydd Swyddogion yn cyflwyno trefniadau ar gyfer darpariaeth digartrefedd ar y stryd fel rhan o’r ymateb.

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelodau Rhybudd o Gynnig dan y telerau canlynol, wedi’u cynnig a’u heilio gan y Cynghr. Attridge a Brown.

 

Protocol Argyfwng Tywydd Garw - y Cynghr. Bernie Attridge, Helen Brown, Carol Ellis a George Hardcastle

 

“Rydym ni’n galw ar Sir y Fflint i adolygu'r Protocol Argyfwng Tywydd Garw ar unwaith.

 

Yn dilyn tywydd garw, gan gynnwys storm rybudd uwch, ni lwyddodd Sir y Fflint i ysgogi’r Protocol Argyfwng Tywydd Garw fel awdurdodau cyfagos oherwydd nad oedd hi’n ddigon oer yn ôl y protocol.

 

Gofynnwn fod swyddogion Sir y Fflint yn defnyddio’u disgresiwn pan fo tywydd garw, a pheidio ag aros i’r tymheredd ostwng o dan y rhewbwynt. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod yr holl linellau cyfathrebu ar agor a sicrhau ein bod ni’n estyn allan cymaint â phosibl.

 

Mae’n rhaid i ni fod yn ofalgar a thosturiol tuag at y rheiny yn ein sir sy’n llai ffodus na ni.”

 

Gan siarad o blaid y cynnig, amlygodd y Cyng. Attridge bwysigrwydd mynd i'r afael â digartrefedd drwy ddull amlasiantaeth.Er ei fod yn cydnabod bod y protocol wedi’i ysgogi ar sawl achlysur, roedd yn pryderu nad oedd y meini prawf yn ystyried oerfel gwynt yn ystod y tywydd garw diweddar.Roedd yn cydnabod yr heriau ar ôl i’r darparwr gwasanaeth roi’r gorau i gynnig y lloches nos yn Nhreffynnon ac yn croesawu ymateb y Cyngor i ddiogelu'r cyfleuster newydd yng Nglannau Dyfrdwy.Galwodd am adolygiad brys o’r Protocol Argyfwng Tywydd Garw i sicrhau na fydd y sefyllfa yma’n digwydd eto, ac am ddisgresiwn i ysgogi’r protocol pan nad yw'r tymheredd yn gostwng o dan y lefel a nodwyd.Aeth yn ei flaen i ddiolch i’r Aelod Cabinet Tai, Prif Swyddog (Tai), Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a’r Rheolwr Tîm Digartrefedd a Chyngor a’i thîm.

 

Fel Aelod Cabinet Tai, amlygodd y Cyng. Dave Hughes flaenoriaeth y Cyngor i fynd i’r afael â digartrefedd a gwahodd y swyddogion i rannu trosolwg o’u gwaith yn cefnogi pobl ddigartref ac yn sefydlu’r lloches nos newydd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Rhybudd o Gynnig yn gyfle i rannau’r camau gweithredu ar gyfer sefydlu’r gwasanaeth newydd yng Nglannau Dyfrdwy, fel y nodir yn y nodyn briffio a gylchredwyd. Er bod risg ynghlwm wrth sefydliad partner yn rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaeth, mae’r gwasanaeth newydd mewn adeilad Cyngor yn rhoi mwy o gadernid i ni.Mewn ymateb i bryderon, siaradodd y Prif Weithredwr am geisio paratoi’r lleoliad newydd dan amgylchiadau anodd a rhoi’r trefniadau diogelwch angenrheidiol ar waith er mwyn defnyddio’r cyfleuster fel canolfan argyfwng petai’r Protocol Argyfwng Tywydd Garw yn cael ei ysgogi.

 

Cyflwynwyd y Rheolwr Tîm Digartrefedd a Chyngor (Jenni Griffiths), Arweinydd Tîm Datrysiadau Tai (Deborah Kenyon) a’r Swyddog Contractau ac Adolygu Cefnogi Pobl (Lisa Pearson) a roddodd gyflwyniad manwl ar eu gwaith ac effaith colli’r lloches nos. Oherwydd y gwaith i baratoi’r cyfleuster newydd a chaffael darparwr gwasanaeth newydd - a’r tywydd yn gwaethygu - roedd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r tîm wedi rhannu ymrwymiad i agor y cyfleuster cyn gynted â phosibl yn y ffordd fwyaf priodol. Mae yna lawer o weithgareddau yn rhan o’r gwaith i weithredu’r Protocol Argyfwng Tywydd Gawr a oedd i fod yn fesur dros dro yn ystod y cyfnod, gan ddefnyddio disgresiwn yn absenoldeb diffiniad statudol o dywydd oer. Yn ystod y ddau benwythnos dilynol o dywydd garw, bu i’r tîm adnabod y rheiny a oedd angen cymorth a darparu llety amgen iddynt hyd nes bod y cyfleuster yn barod i gael ei defnyddio fel canolfan argyfwng.

 

Ers agor y cyfleuster mae llawer o swyddogion wedi treulio oriau yn gweithio yn y lloches nos yn ymgymryd â dyletswyddau, ymgysylltu â’r cleientiaid ac yn gweithio’n agos gyda’r darparwr gwasanaeth newydd (Wallich) ar y trefniadau pontio i sicrhau trosglwyddiad ffurfiol llyfn ar 2 Mawrth.Ariannwyd y cyfleuster drwy’r Grant Cymorth Tai, gyda chyfraniad gan y Bwrdd Iechyd tuag at gostau ailwampio’r adeilad.

 

Cipiodd y Rheolwr Tîm y cyfle hwn i ddiolch i bawb a oedd yn rhan o’r prosiect yn ystod y cyfnod heriol hwn, gan gynnwys cydweithwyr Gwaith Cyfalaf, contractwyr a Heddlu Gogledd Cymru. Canmolwyd y defnyddwyr gwasanaeth yn ogystal am eu hamynedd yn ystod y gwaith adeiladu.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y dylai agor lloches nos newydd olygu na fydd angen y protocol fel mesur diogelu. Os felly, bydd lefel y disgresiwn wrth ei weithredu yn ystyriaeth allweddol wrth redeg y cyfleuster presennol. Fel yr eglurir yn y nodyn briffio, mae angen gadael ychydig o amser ar ôl y trosglwyddiad ffurfiol i’r ganolfan setlo cyn dechrau ffurfioli trefniadau gwirfoddoli a rhoddion.Byddwn yn trefnu ymweliad safle ar gyfer Aelodau Etholedig ar adeg briodol, a byddwn yn edrych ar wasanaethau “gofal estynedig” i’w cynnig yn y ganolfan newydd.

 

Diolchodd y Cyng. Brown i’r timau o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn cefnogi pobl ddigartref yn ystod y blynyddoedd diweddar ac awgrymodd y dylid eu gwahodd i ymweld â’r ganolfan newydd. Diolchodd hefyd i’r aelodau o’r cyhoedd a helpodd yn ystod y tywydd garw diweddar. Nid mater i’r Adran Dai yn unig yw digartrefedd meddai, a chroesawodd y dewis i gynnig gwasanaethau estynedig yn y ganolfan newydd.

 

Wrth ddisgrifio digartrefedd fel problem genedlaethol, dywedodd y Cyng. Roberts fod amgylchiadau’r achos hwn yn heriol iawn.Gan groesawu agoriad y ganolfan newydd, diolchodd i’r Rheolwr a’i thîm, ac i’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yn benodol am ei ymroddiad i dreulio cryn dipyn o amser yn y lloches yn ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth.Gofynnodd am nodi gair o ddiolch i swyddogion yr Adran Dai am eu hymdrechion.

 

Croesawodd y Cyng. Thomas y trefniadau pontio ar gyfer trosglwyddo a rhoddodd sicrwydd y bydd yr Adran Dai a’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydweithio i fynd i’r afael â digartrefedd. Mewn ymateb i sylwadau, darparodd y Rheolwr Tîm fanylion gwaith y Cyngor gyda gwasanaeth cydweithredol newydd i gydlynu gweithwyr estyn allan arbenigol i feysydd megis iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.

 

Yn ystod y drafodaeth canmolodd sawl Aelod y Prif Swyddog a’r tîm am eu hymrwymiad i fynd i’r afael â digartrefedd yn Sir y Fflint ac am eu gwaith gyda’r ganolfan newydd.Mewn ymateb i gwestiynau, darparodd y swyddogion eglurhad ynghylch y dull a ddefnyddir i asesu unigolion sy’n defnyddio’r lloches nos.

 

Gan gefnogi cydweithio rhwng yr Adran Dai a’r Gwasanaethau Cymdeithasol, dywedodd y Cyng. Rosetta Dolphin fod modd archwilio’r mater ymhellach yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y Cyd ym mis Mehefin.

 

Roedd y Cyng. Bibby yn siomedig o weld cynnydd yn nifer y bobl ddigartref, a sawl ffactor yn gyfrifol am hynny.Yn ogystal â swyddogion yr Adran Dai, diolchodd i swyddogion y Gwasanaethau Stryd, Heddlu Gogledd Cymru, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a gwirfoddolwyr.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth diolchodd y Cyng. Attridge i’r Aelodau am eu sylwadau ac i’r swyddogion am ddarparu sicrwydd na fydd angen ysgogi’r Protocol Argyfwng Tywydd Garw ar ôl agor y cyfleuster newydd. Ar sail hynny, tynnodd ei Rybudd o Gynnig yn ôl.Cipiodd y cyfle i gydnabod ymdrechion pawb a oedd yn rhan o’r gwaith hwn, gan gynnwys y Prif Swyddog a’r timau ar draws y Cyngor, a chanmolodd waith elusennau megis Community Hands a Help The Homeless.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau am gyflwyno Rhybudd o Gynnig ac i’r tîm am eu cyflwyniad.

 

Gofynnodd y Prif Weithredwr am gefnogaeth yr Aelodau i roi amser i’r gwasanaeth newydd ymsefydlu.Bydd gwybodaeth am wirfoddoli a rhoddion ar gael i’r Aelodau ymhen pythefnos, a bydd cyfarfod y pwyllgor ar y cyd ym mis Mehefin yn cynnwys trafodaeth ar wasanaethau gofal estynedig hirdymor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Tynnu'r Rhybudd o Gynnig ar y Protocol Argyfwng Tywydd Garw yn ôl a nodi’r camau gweithredu.

Dogfennau ategol: