Agenda item

Teyrngedau i'r Diweddar Gynghorydd Ken Iball

Pwrpas:        I alluogi Aelodau i dalu teyrnged i’r diweddar Gynghorydd Ken Iball.

Cofnodion:

Cyn cychwyn y teyrngedau i’r diweddar Gynghorydd Ken Iball, fe soniodd y Cadeirydd am y newyddion trist am farwolaeth ddiweddar Terry Hands a’r Cynghorydd Huw Llewelyn-Jones. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau sefyll am funud o dawelwch fel teyrnged iddynt. 

 

Arweiniodd y Cynghorydd Neville Phillips y teyrngedau i’r Cynghorydd Ken Iball gan Aelodau. Siaradodd am gysylltiadau teulu cryf Cynghorydd Iball â Bwcle, a’i ddiddordebau mewn chwaraeon a’i gyflawniadau mewn pêl-droed a chriced. Fe soniodd y Cynghorydd Phillips am waith y Cynghorydd Iball fel gweithiwr dur lleol ac fel tafarnwr, a dywedodd ei fod wedi fod wedi bod yn Ynad Heddwch ac yn Gadeirydd Mainc Ieuenctid yr Wyddgrug. Siaradodd am yrfa hir y Cynghorydd Iball yng ngwasaneth cymunedol, a chyn iddo fod yn aelod Gyngor Sir y Fflint, fe wasanaethodd ar nifer o Gynghorau, gan enwi Cyngor Cymuned Sealand, Cyngor Gwledig Penarlâg, Cyngor Sir Clwyd a Chyngor Dosbarth Alun a Glannau Dyfrdwy fel enghreifftiau. Dywedodd bod y Cynghorydd Iball wedi cael ei benodi yn Faer Bwcle; ac yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Theatr Clwyd, fe groesawodd Ei Mawrhydi y Frenhines pan ddaeth hi i agoriad swyddogol Theatr Clwyd.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Phillips fod Cynghorydd Iball yn aelod gweithgar o’r Eglwys yng Nghymru a’i fod yn arfer mynychu Eglwys St. Matthews, Bwcle. Siaradodd am deulu’r Cynghorydd Iball a’r gefnogaeth roedd ei ddiweddar wraig wedi rhoi iddo trwy gydol ei yrfa. Fe gydymdeimlodd yn ddiffuant â’r teulu yn eu colled trist.

 

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones ei bod yn adnabod y Cynghorydd Iball ers eu plentyndod, a siaradodd am ei gymeriad da, ei ddigrifwch, ei garedigrwydd a’i ystyriaeth o bobl eraill.  Dywedodd fod y Cyngorydd Iball yn ?r bonheddig ac yn ?r oedd ag uniondeb cymeriad, ac roedd hi’n teimlo’n ddyledus iddo am ei chefnogi pan gafodd hi ei hethol yn Gynghorydd newydd.  Mynegodd ei chydymdeimlad dwys â’r teulu, a dywedodd y byddai colled fawr ar ei ôl.   

 

Fe soniodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson am ei gysylltiad hirdymor â Chynghorydd Iball, fel cydweithiwr ac fel ffrind agos. Fe ailadroddodd sylwadau’r Cynghorydd Neville Phillips yngl?n â diddordeb a chyflawniadau’r Cynghorydd Iball mewn pêl-droed a chyfeiriodd at ei aelodaeth o Gyngor Chwaraeon Cymru a Theatr Clwyd. Fe bwysleisiodd fod y Cynghorydd Iball wedi cael ei ethol yn Faer Bwcle ddwywaith, ac roedd yn cael ei ystyried yn un o hoelion wyth yn y gymuned leol a’r Sir, ac roedd yn uchel ei barch. Mynegodd y Cynghorydd Hutchinson ei dristwch ei fod wedi marw, a mynegodd ei gydymdeimlad diffuant â’r teulu.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Tony Sharps deyrnged i’r Cynghorydd Iball hefyd. Roedd yn ei adnabod ers sawl blwyddyn ac fe soniodd am ei gymeriad, ei brofiad, ei garedigrwydd a’i gefnogaeth.

 

Darllenodd y Cadeirydd deyrnged gan y Cynghorydd Carol Ellis nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. Dywedodd y Cynghorydd fod y Cynghorydd Iball wedi ei chroesawu a’i chefnogi pan gafodd ei phenodi yn Gynghorydd newydd i Gyngor Tref Bwcle. Roedd yn ?r oedd â llawer o feddwl am ei gymuned leol a bu’n llywodraethwr ysgol ar Gorff Llywodraethu Ysgol Uwchradd Elfed. Dywedodd y Cynghorydd Ellis fod ei waith yn y gymuned leol, ei gyfraniad i Ysgol Uwchradd Elfed, a’i gyfraniad weithgar gydag Eglwys St Matthew’s, Bwcle yn cael ei werthfawrogi’n fawr.   Mynegodd ei chydymdeimlad â’i deulu.   

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts ei fod wedi gwasanaethu gyda’r Cynghorydd Iball ers sawl blwyddyn fel Aelod o Gyngor Sir y Fflint ers 1996. Fe ailadroddodd yr hyn a ddywedwyd eisoes gan Aelodau ei fod yn ?r caredig a hael, ac fe ychwanegodd ei fod hefyd yn ?r ‘teg’ a wasanaethodd fel Cadeirydd Pwyllgorau pan gafodd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu eu sefydlu. Mynegodd ei gydymdeimlad a dywedodd fod ganddo atgofion melys o weithio gydag o.