Agenda item

Diweddariad Llywodraethu

Rhoidiweddariad ac argymhellion ar faterion perthnasol i lywodraethu i Aelodau’r Pwyllgor.

 

Cofnodion:

            Dywedodd Mr Latham y cynhelir Cyfarfod Bwrdd Cynghori’r Cynllun ar 3 Chwefror ond nid oes unrhyw nodiadau cyfarfod ffurfiol wedi cael eu cyhoeddi eto. 

                       

            Amlygodd Mr Latham y newid allweddol i’r Polisi Llywodraethu sy’n cynnwys amcan sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch data a seiberdroseddu; nodwyd hyn ar dudalen 141 – Sicrhau bod cyfrinachedd, uniondeb a hygyrchedd data, systemau a gwasanaethau’r Gronfa wedi’u diogelu a’u cynnal.

 

            Atgoffodd Mr Latham y Pwyllgor i gwblhau eu ffurflenni hunan-asesu ac ychwanegodd bod gan Mrs Fielder gopïau caled ar gael i’w cwblhau oes oedd well ganddynt wneud hynny.

           

            Mynychodd y Cyng. Hughes Gynhadledd Llywodraethu CLlL ar 23 a 24 Ionawr.Dywedodd ei fod yn ddigwyddiad defnyddiol iawn gyda thrafodaethau am McCloud ond ni chafwyd eglurhad am y cefndir a fyddai wedi bod yn ddefnyddiol.  

 

            Rhoddodd Mrs Williams drosolwg cryno yn egluro bod McCloud yn achos gwahaniaethu ar sail oed ac roedd dyfarniad yn ymwneud â dynion tân a chynlluniau pensiwn cyfreithiol oedd yn datgan bod pobl iau a roddwyd mewn cynlluniau newydd, dan anfantais. Roedd pobl yn achwyn bod hyn yn gwahaniaethu ar sail oed a chafodd hyn ei gadarnhau, felly roedd angen datrys yr achos.Cytunodd y Llywodraeth bod angen i holl gynlluniau y sector cyhoeddus ystyried hyn, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

            Ar gyfer Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae’n debygol y bydd angen i’r Gronfa weithredu datrysiad, gan olygu gwirio os yw aelodau penodol yn well allan ar yr hen gynllun neu’r cynllun newydd, gan ystyried mai dyma’r dull a ddarparwyd i holl aelodau a oedd yn weithredol o 1 Ebrill 2012 ac o fewn 10 mlynedd o ymddeol. Mae’n bosibl i hyn gael ei ymestyn i holl aelodau a oedd yn weithredol ar 1 Ebrill 2012 waeth beth yw eu hoedran.Er ei bod yn bosibl i hyn gynyddu costau cyllido (fel y trafodwyd mewn eitem cynharach) mae’n debygol o gael llawer mwy o effaith materol ar weinyddiaeth, oherwydd yr angen i ailgyfrifo buddion ar gyfer nifer o aelodau sydd wedi gadael neu ymddeol ers 2012.

 

            Mae hefyd yn effeithio ar gyflogwyr gan fod y Gronfa angen casglu newidiadau oriau rhan amser gan gyflogwyr o Ebrill 2014, a fydd yna’n cael ei ddiweddaru ar system weinyddu’r Gronfa.Eglurodd Mrs Williams, er na fydd y datrysiad yn debygol o gael ei weithredu tan 2022 ar y cynharaf, bydd y tîm gweinyddol yn dechrau diweddaru’r systemau er mwyn i’r system fod yn gyfredol ac i’r tîm fod yn barod.Disgwylir y  bydd angen ailgyfrifo buddion hanesyddol a gwneud taliadau yn unol â hynny (i bensiynwyr presennol).

            Awgrymodd y Cyng. Rutherford y byddai’r gynhadledd dau ddiwrnod wedi gallu cael ei gwblhau mewn un diwrnod, ac roedd hefyd yn cytuno gyda’r Cyng. Hughes mewn perthynas ag eglurder ar McCloud. Awgrymodd Mrs McWilliam y gellir darparu hyfforddiant pellach ar McCloud ar y diwrnod hyfforddiant oedd wedi cael ei drefnu ar gyfer y Pwyllgor a’r Bwrdd ar 18 Mawrth.Croesawodd y pwyllgor y cyfle am hyfforddiant pellach.

 

            Hysbysodd Mrs McWilliam y Pwyllgor bod Seminar Buddsoddi’n Gyfrifol yr Awdurdod Lleol ar 8 Gorffennaf yn Swydd Hertford.

 

PENDERFYNWYD:

(a)  Bod y Pwyllgor wedi ystyried y diweddariad a gwneud sylwadau.Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd eu ffurflenni dadansoddiad o anghenion hyfforddi erbyn 19 Chwefror fel y cyfeiriwyd ym mharagraff 1.07 yr adroddiad.

(b)  Cymeradwyodd y Pwyllgor y Polisi Llywodraethu a’r Datganiad Cydymffurfio, gan gynnwys yr amcan newydd mewn perthynas â seiberdroseddu, y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 1.06 yr adroddiad a’i atodi yn Atodiad 2.

 

Dogfennau ategol: