Agenda item
Ymgynghoriad Strategaeth Amgylchedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, Dydd Iau, 16eg Ionawr, 2020 10.00 am (Eitem 71.)
- View the declarations of interest for item 71.
Derbyn cyflwyniad gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Cofnodion:
Croesawyd cynrychiolwyr Shân Morris a Helen MacArthur (Prif Swyddogion Cynorthwyol) a Stuart Millington (Uwch Reolwr Hyfforddiant a Datblygu) i’r cyfarfod i roi cyflwyniad llafar ar ddatblygiad Strategaeth Cynaliadwyedd ac Amgylchedd Hirdymor ar gyfer 2020 ymlaen gan yr Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (NWFRA.
Er yr amlygwyd yr heriau ariannol yn y flwyddyn flaenorol, ffocws ymgynghoriad eleni oedd datblygu strategaeth trosfwaol yn nodi amcanion ar newid hinsawdd, cyfrifoldebau amgylcheddol a chymdeithasol i helpu gyda chynllunio ar gyfer y dyfodol. Y bwriad fyddai mabwysiadu dull gwahanol i weithio gyda phartneriaid ac i leihau’r effaith ar y gyllideb, a roedd 75% wedi’i dosrannu i gostau gweithwyr. Cynghorwyd yr Aelodau bod y gwasanaethau ymatebol ac ataliol wedi dod i gost o £50 y pen o’r boblogaeth ledled Gogledd Cymru. Rhoddwyd drosolwg ar y rôl ataliol a oedd yn cynnwys gweithgareddau i helpu i gadw pobl yn ddiogel ac i nodi problemau cymdeithasol. Ymysg heriau yn y dyfodol roedd parhad gwasanaeth diffodd tân wrth gefn a gweithio gyda sefydliadau partner i leihau'r risg o lifogydd.
Fel aelod blaenorol o’r Gwasanaeth Tân, roedd y Cynghorydd Cunningham yn adnabod gwerth diffoddwyr tân wrth gefn a’r effaith o weithgareddau atal tân. Yn yr ymgynghoriad, awgrymodd i rannu trefniadau cludo i gyfarfodydd bwrdd.
Amlygodd y Cynghorydd Heesom y perygl o lifogydd a newid hinsawdd fel y prif broblemau, a dywedodd y dylid ymgynghori â’r NWFRA ar geisiadau cynllunio, yn debyg i Gyfoeth Naturiol Cymru fel yr ymgynghorai statudol ar berygl o lifogydd. Eglurwyd dan y deddfwriaeth gyfredol, ymgynghorwyd â'r gwasanaeth ar y ddwy ardal benodol yn unig - mynediad i gerbydau'r gwasanaeth tân a chyflenwadau d?r. Hefyd gofynnodd y Cynghorydd Heesom ynghylch ymgysylltiad gyda phobl ifanc a chynghorwyd ar yr ystod o weithgareddau atal tân ac addysg mewn ysgolion.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, siaradodd y cynrychiolwyr ynghylch cyfrifoldebau amgylcheddol a rennir gan bob corff cyhoeddus megis defnydd cynyddol o gyfarfodydd cynhadledd fideo a mesurau effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau. Gobeithir y bydd newid o ddefnyddio cerbydau offer tân sydd yn rhedeg ar ddiesel yn newid cadarnhaol, ond mae hyn yn dibynnu ar wneuthurwyr yn datblygu dewis amgen addas. Roedd y dull effeithiol gan NWFRA i asesu cyn ymateb, a felly yn lleihau’r nifer o gamrybuddion, yn cael eu nodi fel arferion da.
Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Johnson ar y posibilrwydd am fwy o fesurau atal tân mewn ardaloedd gwledig, nodwyd bod y NWFRA yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i flaenoriaethu meysydd risg ac ymgysylltu â thirfeddianwyr i wella rheoli tir, a bod cyflwyniad o dimau tanau gwyllt yn ystod 2020 yn manteisio.
Rhoddodd y Cynghorydd Bateman sylw ar effaith parcio ar y stryd mewn rhai ardaloedd a allai gyfyngu ar fynediad i gerbydau offer tân. Er nad oedd gan y Gwasanaeth Tân bwerau penodol i ddatrys hyn, roedd cyngor a chymorth ar gael i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol.
Gofynnodd y Cynghorydd Woolley ynghylch risgiau yn y dyfodol a beth ellir ei wneud i helpu. Er bod demograffeg Gogledd Cymru a recriwtio diffoddwyr tân wrth gefn mewn ardaloedd penodol yn heriol, gallai’r cynghorau ar draws y rhanbarth helpu i sicrhau argaeledd o ddiffoddwyr tân wrth gefn drwy annog mwy o fusnesau i ryddhau eu gweithwyr o’u gweithle i gyflawni’r rôl hon.
Rhoddodd y Prif Weithredwr sylw ar safiad Sir y Fflint fel cyflogwr cyfrifol i gefnogi diffoddwyr tân wrth gefn. O ran y strategaeth amgylcheddol, roedd gan bob gwasanaeth cyhoeddus ymrwymiadau a roedd cyflawniadau targedau carbon niwtral yn her genedlaethol sylweddol a oedd yn cael ei flaenoriaethu mewn trafodaethau rhanbarthol. Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar ymateb y Cyngor ar newid hinsawdd – trafodwyd yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd yn ddiweddarach yn yr wythnos – a nodwyd y gallai’r newidiadau mewn arferion caffael gael effaith gadarnhaol ar ôl troed carbon.
Wrth ddiolch i’r cynrychiolwyr am eu presenoldeb a’u cyflwyniad, diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Gwasanaeth Tân ac Achub am gynnal gwiriadau diogelwch rheolaidd yn y fflatiau uchel yn Fflint, a oedd yn rhoi sicrwydd i breswylwyr.
PENDERFYNWYD:
Diolch i gynrychiolwyr o’r Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am fod yn bresennol.