Agenda item

Menter Bwyd Sir Y Fflint ac Ymateb i'r Tlodi Bwyd (Atodiad Cyfrinachol I Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen)

Cofnodion:

Cwestiynau ar y Cynllun Busnes

 

            Roedd y Cynghorydd Geoff Collett yn canmol y tîm ar gyflwyniad da iawn.  Cyfeiriodd at yr amser yr oedd teulu yn ei gymryd i baratoi pryd o fwyd oedd wedi lleihau o ddwy awr a hanner i 6 munud oedd yn amlygu bod yna angen addysgu pobl.  Teimlodd fod hyn yn rhywbeth cenedliadol gan nad oedd plant yn cymryd rhan yn coginio. 

 

            Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad at ymweliad â phrosiect bagiau bwyd gwyrdd yn Yr Wyddgrug lle roeddent yn gorfod rhoi cardiau cyfarwyddyd ar sut i goginio llysiau yn y bagiau.  Cytunodd fod angen addysgu plant sut i baratoi bwyd a philio llysiau ac ati.     

 

            Eglurodd y Rheolwr Budd-daliadau fod y model menter gymdeithasol wedi’i ddylunio ar gyfer pob maes o ansicrwydd bwyd o offer bwyd, gwybodaeth a sgiliau, fforddiadwyedd ac amser coginio.  Darparodd wybodaeth ar fodel Lerpwl a dywedodd nad cymorth bwyd oedd hyn ond newid tymor hir.  Ychwanegodd nad oedd pobl mewn argyfwng oedd yn llwgu yn gallu delio gyda’r materion eraill oedd yn mynd ymlaen yn eu bywydau. 

 

            Cytunodd yr Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau gyda phopeth oedd yn cael ei ddweud ac roedd yn cofio ei blentyndod lle roedd gwyddoniaeth ddomestig yn rhan fawr o’r ysgol a gartref roedd y teidiau a neiniau yn dysgu’r wyrion sut i goginio a phobi.  Mewn cyferbyniad roedd yna ddibyniaeth ar fwydydd parod, cludo bwyd parod i’r cartref ac ati.   

 

            Cytunodd y Cynghorydd Johnson ac roedd yn ffafrio’r agwedd gwerth cymdeithasol ac ychwanegodd fod yna’r mater tlodi tanwydd.  Cyfeiriodd at y siop bwyd cyfleus ar dop Holway lle roedd pobl yn ei chael hi’n anodd cario eitemau mawr tra’n delio gyda chadair wthio neu ffrâm gerdded.  Gofynnodd a oedd yna unrhyw ffordd i gynnwys yr eitemau mwy yn y ddarpariaeth o fewn y gwasanaeth hwn a sicrhau mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus.    

 

            Ymatebodd y Rheolwr Budd-daliadau gan ddweud nad oedd hyn yn rhywbeth a ystyrir ar hyn o bryd ond gallai ddod allan o’r gwaith cydnerthu cymunedol a chyfeiriodd at yr hyn yr oedd y Cynghorydd Mullin yn ei ddweud am deuluoedd neu gymdogion yn edrych allan am ei gilydd.  Efallai y byddai canlyniad y gwaith cydnerthu cymunedol yn gofyn i’r siopau bwyd cyfleus os byddent yn cludo bwyd.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y bwydydd heb unrhyw werth maeth o gwbl a dywedodd am arbrawf yn y 1960au lle roedd y llygod mawr oedd yn bwyta’r bocsys prydau parod yn gwneud yn well na’r llygod mawr oedd yn bwyta’r bwyd parod.  Efallai bod angen amlygu cyn lleied o werth maeth oedd yn y prydau parod hyn. 

 

            Roedd y Cynghorydd Jones yn meddwl beth oedd y gwahaniaeth rhwng gwerth maeth a dietegol.  Cyfeiriodd at y dewis bwyd ar dudalen 75 o’r adroddiad a gofynnodd a fyddai gan y pwyllgor fewnbwn i’r cynhwysion.  Hefyd gofynnodd os oedd yna lai o gadwolion a fyddai’n para am gyfnod byrrach. Gyda phryderon gordewdra dros ddeiet uchel mewn siwgr, uchel mewn carbohydradau, teisennau crwst a chacennau efallai y dylid nodi mai dyma rydym yn ei ddarparu os nad ydych eisiau’r rhain yna ni fyddwn yn eu darparu.  Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau fod yr ocsigen yn cael ei dynnu pan mae prydau parod yn cael eu selio ac yn cadw’n ffres yn yr oergell am 8 i 10 diwrnod felly ni ddefnyddir cadwolion.  Roedd y model yn ymwneud ag ymgysylltu â chymunedau. 

 

            Dywedodd y Cadeirydd fod hon wedi bod yn drafodaeth dda ond nid oeddem yma i graffu yn y ffordd arferol ond i edrych ar syniadau a chyflwyno syniadau.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Jones am benderfyniad y Cadeirydd i drafod ei bryderon gyda’r pwyllgor yngl?n â chanolfannau hamdden.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu torri’r grant nofio am ddim yn ddiweddar a ddarparwyd i Sir y Fflint oedd wedyn yn ei ddosbarthu i’r canolfannau hamdden ac roedd hyn yn effeithio ar holl Ganolfannau Hamdden.  Byddai Canolfan Hamdden Treffynnon yn derbyn £10,000 yn llai y flwyddyn nesaf  ond oherwydd nad oedd yn rhan o Sir y Fflint, roedd hefyd yn golygu y byddai Treffynnon hefyd yn colli £5,000 ym mis Tachwedd.  Effeithir ar Cambrian Aquatics ac Aura hefyd.  Byddai cynllun busnes eleni yn profi’n anodd iawn.    Efallai bod y Gweinidog wedi torri’r grant i Sir y Fflint ond roeddent hefyd yn torri’r cyllid i Gyrff Elusennol hefyd.    

 

            Byddai’r Cynghorydd Jones yn ysgrifennu at y Gweinidog i fynegi pryderon ond roedd eisiau hysbysu’r Pwyllgor  am y sefyllfa.