Agenda item
Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro
Pwrpas: Adrodd ar ganlyniad y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro a gyhoeddwyd ar 16eg Rhagfyr a'r goblygiadau i Gyngor Sir Sir y Fflint.
Cofnodion:
Darllenodd y Cynghorydd Roberts y datganiad canlynol ar ei ran ei hun fel Arweinydd y Cyngor, y Prif Weithredwr, Aelod Cabinet Cyllid a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol:
“Mae Cyngor Sir y Fflint yn croesawu’r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer 2020/21 a gyhoeddwyd ddoe. Tra bod Sir y Fflint yn parhau i wynebu risgiau ariannol, a rhaid i ni barhau gyda stiwardiaeth ariannol gadarn yr Awdurdod, mae’r Setliad hwn yn gam cyntaf pwysig i roi diwedd ar ddegawd o setliadau ariannol cosbol i lywodraeth leol.
Mae Sir y Fflint yn croesawu’r berthynas rhwng llywodraeth ganolog a llywodraeth leol yng Nghymru – perthynas sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch tuag at y naill a’r llall. Mae llais llywodraeth leol - a’r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli - i’w glywed unwaith eto. Mae’r achos dros fwy o gyllid ar gyfer ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus lleol hanfodol eraill wedi’i ennill.
O dan y Setliad hwn bydd Sir y Fflint yn derbyn swm ychwanegol o £10.406M o Gyllid Allanol Cyfun (AEF) yn 2020/21. Mae hyn yn gynnydd o 3.7% ar Setliad y flwyddyn flaenorol. Ar ôl caniatáu ar gyfer costau ychwanegol sylweddol tâl athrawon a chyfraniadau cyflogwr at bensiynau athrawon - sy’n dod i gyfanswm o £3.76M - bydd gennym £6.54M o arian newydd i helpu tuag at gydbwyso ein cyllideb ar gyfer 2020/21. Byddwn hefyd yn gweld cynnydd mewn rhai o’r grantiau penodol yr ydym yn eu derbyn ar gyfer gwasanaethau allweddol fel gofal cymdeithasol ac addysg.
Roedd y bwlch cyllidebol i’w gau ar gyfer 2020/21 – fel yr adroddwyd yn ein cyfarfod o’r Cyngor yr wythnos ddiwethaf – tua £15.630M. Roeddem eisoes wedi derbyn £8.164M o arbedion effeithlonrwydd ac incwm newydd i gyfrannu at y blwch yng ngham cyntaf y gwaith cynllunio cyllideb. Unwaith y byddwn yn cymryd i ystyriaeth yr arian newydd o £6.54M, ac yn cwblhau ein gwaith yn yr ail gam ar yr opsiynau arbedion effeithlonrwydd terfynol, rydym yn hyderus y byddwn mewn sefyllfa i osod cyllideb gytbwys a chyfreithiol. Fel rhan o’r gwaith cydbwyso ceisiwn neilltuo peth arian i’n diogelu rhag rhai o’r pwysau parhaus o ran costau a allai amharu ar ein cyllideb yn ystod y flwyddyn.
Mae hyn o bwys sylweddol o ystyried y risg a’r sefyllfa y mae’r Cyngor wedi bod ynddi am gyhyd. Rydym wedi dal ein tir i ddiogelu gwasanaethau lleol a swyddi lleol, ac rydym wedi bod yn un o’r cynghorau mwyaf amlwg i ddadlau’r achos dros ddod â llymder i ben.
Rydym wedi bod yn arbennig o bryderus yngl?n â chynaliadwyedd ariannol ein hysgolion lleol. Tra ein bod wedi osgoi gwneud y toriadau i gyllidebau wedi’u dirprwyo i ysgolion y gorfodwyd rhai cynghorau eraill i’w gwneud, rydym wedi bod yn ymwybodol iawn pe byddai’n rhaid i ysgolion rannu costau’r cynnydd yn nhâl athrawon a chyfraniadau cyflogwr at bensiynau athrawon, yna efallai byddai rhai’n cyrraedd pen eu tennyn. Mae’n rhyddhad gallu cadarnhau y bydd ysgolion yn cael eu gwarchod rhag y pwysau yma o ran costau, a bydd cynnydd bach yn eu cyllidebau ar gyfer cyfleustodau a chostau eraill. Bellach rydym yn awyddus i gynllunio ymlaen fel y gall ysgolion weld peth twf yn eu cyllidebau yn y blynyddoedd nesaf. Rydym yn ofalus iawn bod angen i’r swm yr ydym yn ei wario y pen ar ddisgyblion yn Sir y Fflint gael ei gynyddu, a bod angen mwy o arian ar rai ysgolion ar gyfer trwsio a chynnal eu hadeiladau.
Rydym wedi dweud ein bod yn erbyn gorfodi’r rhai sy’n talu Treth y Cyngor i dalu mwy o dreth leol i wneud iawn am y gostyngiadau blynyddol mewn cyllid gan y Llywodraeth yn ddiweddar. Nid oedd gennym ddewis ond gosod Treth y Cyngor ar lefel uwch nag yr oeddem wedi bwriadu yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Rhaid i’r duedd bryderus hon o gynnydd blynyddol mawr mewn Treth y Cyngor ddod i ben. Rydym yn bwriadu cadw’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer Sir y Fflint o dan 5% eleni.
Wrth edrych ymlaen, mae angen sicrwydd ar Sir y Fflint a’r holl gynghorau eraill yng Nghymru ynghylch cyllidebau yn y dyfodol. Ni allwn fynd trwy’r cylch cynllunio blynyddol ansicr hwn - gyda’r holl bryder a phoen y mae’n ei achosi i gymaint o bobl sy’n dibynnu arnom.
Galwn ar Lywodraeth newydd y DU i osod rhagolygon tair blynedd ar gyfer cynlluniau gwariant cyhoeddus, i weithio gyda’r gwledydd datganoledig i gytuno ar gynlluniau twf realistig y cyd ar gyfer eu cyllidebau datganoledig, i roi blaenoriaeth i ganfod ateb cenedlaethol i ariannu gofal cymdeithasol, ac i osod strategaeth genedlaethol ar gyfer ariannu dyfarniadau tâl blynyddoedd y sector cyhoeddus.
Rydym yn gwahodd Llywodraeth Cymru i weithio hyd yn oed yn agosach â llywodraeth leol i ddiogelu a thyfu’r gwasanaethau cyhoeddus sy’n allweddol i ddyfodol Cymru fywiog, iach a ffyniannus.
Bydd y Cyngor yn adolygu sefyllfa’r gyllideb yn ei gyfarfod llawn ar 28 Ionawr. Yna bydd yn cymeradwyo ei gyllideb derfynol yn ffurfiol ac yn gosod Treth y Cyngor 2020/21 yn e gyfarfod ar 18 Chwefror”.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod nifer o risgiau y mae’r Cyngor yn dal i’w hwynebu, yn cynnwys y manylion y disgwylir amdanynt ar gyfer grantiau penodol. Dywedodd hefyd ei fod yn bwysig ystyried cyllidebau yn y dyfodol ac ailadroddodd y cais yn natganiad yr Arweinydd i Lywodraeth Cymru osod rhagolygon tair blynedd ar gyfer cynlluniau gwariant cyhoeddus. Byddai datganiadau’n cynnwys manylion pellach ar gael yn y Flwyddyn Newydd. Hefyd, roedd nifer fach o atebion o fyddai’n defnyddio arian corfforaethol yn cael eu hystyried, fel faint y gellid ei gael o adolygiad actiwaraidd Cronfa Bensiwn Clwyd, a chyfraniadau’r cyflogwr.
Roedd aelodau’n croesawu’r adroddiad, a chyfeiriwyd at y canlyniad cadarnhaol o weithio ar draws y pleidiau wrth lobïo. Diolchwyd i bob swyddog am y gwaith a wnaed ar y gyllideb. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai’n edrych ar y grant cynnal ffyrdd ac yn darparu ymateb iddi.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad llafar.