Agenda item
Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020/21 a Diweddariad Chwarter 3 2019/20
- Cyfarfod Pwyllgor Archwilio, Dydd Mercher, 29ain Ionawr, 2020 10.00 am (Eitem 52.)
- Cefndir eitem 52.
Argymell Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020/21 a Datganiad Polisi, Arferion a Rhaglenni Rheoli Trysorlys 2019/20-2021/22 i’r Cabinet a’r Cyngor. Rhoi’r diweddariad chwarterol ar faterion sy’n ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor 2019/20.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg Dechnegol) y Strategaeth ddrafft ar Reoli’r Trysorlys yn 2020/21 i’w adolygu a’i argymell i’r Cabinet. I baratoi er mwyn i’r Cyngor Sir fabwysiadu’r Strategaeth ym mis Chwefror, gwahoddwyd holl aelodau i sesiwn hyfforddi ym mis Rhagfyr 2019. Hefyd fe gyflwynwyd y wybodaeth ddiweddaraf yn y chwarter ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli’r Trysorlys y Cyngor 2019/20.
Nid oedd unrhyw newidiadau i’r Datganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys trosfwaol ar gyfer 2020/21 a dim ond mân newidiadau a wnaed i Arferion ac Amserlenni Rheoli’r Trysorlys. Roedd yr adroddiad yn crynhoi adrannau o ddiddordeb o’r Strategaeth a gafodd eu cynnwys fel rhan o’r sesiwn hyfforddi. O ganlyniad i’r canllawiau buddsoddi diwygiedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC), mae’r diffiniad o fuddsoddiadau yn y Strategaeth wedi cael ei ehangu i gynnwys buddsoddiadau nad ydynt yn rhai rheoli’r trysorlys, megis benthyciadau a buddsoddiadau arenillion heb fod yn ariannol. Dull Sir y Fflint i’r gofyniad ychwanegol hwn oedd atodi’r buddsoddiadau nad oeddent yn rhai Rheoli’r Trysorlys i’r Strategaeth.
Fel rhan o’r wybodaeth ddiweddaraf Rheoli’r Trysorlys yn Chwarter 3 2019/20, nodwyd anghywirdeb yng nghyfanswm llog blynyddol ar ddadansoddiad benthyca hirdymor ar Randaliad Cyfradd Sefydlog y Prif Fenthyciadau gan Fwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB).
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Collett ar effaith chwyddiant ar ofynion benthyca yn y dyfodol, dywedodd y Rheolwr Cyllid bod y rhagolygon yn cael eu llywio gan y Rhaglen Gyfalaf lle'r oedd rhai cynlluniau yn rhedeg dros nifer o flynyddoedd gyda phris contract sefydlog. Dywedodd nad oedd pryderon am effaith chwyddiant ar y rhaglen dreigl o fuddsoddiad.
Gofynnodd Sally Ellis am oruchwyliaeth ar waith ychwanegol i fodloni gofynion newydd LlC. Siaradodd y Rheolwr Cyllid am yr heriau o gydymffurfio â datgeliadau o amgylch sgiliau, diwylliant a newid hinsawdd ar draws y Cyngor, yn arbennig ar fuddsoddiadau rheoli’r trysorlys lle roedd diogelwch a hylifedd yn cael eu blaenoriaethu. Byddai trafodaeth fanwl yn digwydd gyda Phrif Swyddogion i gytuno ar y dull a gaiff ei adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Archwilio tuag at ddiwedd y flwyddyn galendr.
Ar y gofynion ychwanegol ar gyfer buddsoddiadau moesegol cyfrifol, siaradodd y Prif Weithredwr am newid disgwyliadau a thynnodd sylw tuag at yr adroddiadau ar gael ar agendâu Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd.
Gofynnodd Sally Ellis am y paratoadau ar gyfer y posibilrwydd o fenthyca o ffynonellau ar wahân i PWLB. Dywedodd y Rheolwr Cyllid bod Ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys y Cyngor yn gyfforddus gyda hyd at 20% o’r portffolio yn cael ei fenthyca ar sail benthyca tymor byr, gan ganiatáu digon o gapasiti er mwyn ystyried dewisiadau manwl ar gyfer benthyca hirdymor. Er fod benthyciadau PWLB yn parhau i fod yn opsiwn hyfyw, byddai cyfleoedd i fenthyca o ffynonellau amgen, megis cronfeydd pensiwn neu gwmnïau yswiriant yn cael ei archwilio gydag ymgynghorwyr rheoli’r trysorlys.
Gofynnodd Allan Rainford am y dangosydd darbodus ar gyfer y gymhareb o gostau cyllido i gyfrif refeniw net, a chafodd wybod bod y cyfraddau ychydig o dan 5% ar gyfer Cronfa'r Cyngor ac o dan 25% ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai. Cafodd y ffigyrau eu cynnwys yn y Strategaeth Gyfalaf, a’u cymeradwyo gan y Cyngor y diwrnod blaenorol, a byddent yn cael eu hanfon i’r Pwyllgor. Pan ofynnwyd am addasu i fodloni’r gofynion newydd, siaradodd y Rheolwr Cyllid am y cynlluniau i gryfhau hyfforddiant ar weithgarwch nad oeddent yn rhai rheoli’r trysorlys. Ar fuddsoddiadau mewn gwledydd tramor, rhoddodd y Rheolwr Cyllid sicrwydd ar y mesurau diogelu a dywedodd mai ond mewn sterling all y Cyngor fuddsoddi.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y nifer o gynghorau ar y portffolio benthyca tymor byr a gofynnodd am enghraifft lle'r oedd Sir y Fflint yn gyd-barti i gyngor arall. Cytunodd y Rheolwr Cyllid i ystyried rhannu enghraifft flaenorol ac eglurodd y dull i fenthyca tymor byr er mwyn rheoli sefyllfa llif arian ar y pwynt hwnnw mewn amser.
PENDERFYNWYD:
(a) Ar ôl adolygu’r Strategaeth ddrafft ar gyfer Rheoli’r Trysorlys yn 2020/21, nad oedd gan y Pwyllgor unrhyw faterion penodol i’w hadrodd at y Cabinet ar 18 Chwefror 2020; a
(b) Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â Rheoli’r Trysorlys yn Chwarter 2019/20.
Dogfennau ategol:
- Treasury Management Strategy 2020/21, Treasury Management Policy Statement, Practices and Schedules 2019/20-2021/22, eitem 52. PDF 158 KB
- Enc. 1 - Draft TM Strategy 2020-21, eitem 52. PDF 321 KB
- Enc. 2 - Investment portfolio as at 31-12-19, eitem 52. PDF 20 KB
- Enc. 3 - Long-term borrowing as at 31-12-19, eitem 52. PDF 136 KB
- Enc. 4 - Short-term borrowing as at 31-12-19, eitem 52. PDF 21 KB