Agenda item

Y Diweddaraf ar Adfywio Canol Trefi

Pwrpas:        Rhoi’r diweddaraf i aelodau ar y dulliau i adfywio canol trefi.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) yr adroddiad a roddodd ddiweddariad ar y gwaith a wnaed ers mis Chwefror 2019. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnig cynnydd yn y raddfa weithredu i hwyluso'r newid i ddefnyddiau tir mwy cynaliadwy yng nghanol trefi.

 

                        Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio fod canol trefi yn genedlaethol yn wynebu amgylchiadau economaidd heriol oherwydd ymddygiad newidiol gan siopwyr a'r diwydiant manwerthu. Roedd y Cyngor bob amser wedi cefnogi canol trefi gyda'r Cyngor, yn y gorffennol, yn gallu tynnu cyllid cyfalaf i lawr yn rheolaidd ar gyfer gwelliannau amgylcheddol ac i eiddo gan Lywodraeth Cymru (LlC) ac Asiantaeth Datblygu Cymru.  Crynhowyd rhestr o raglenni a phrosiectau a gefnogwyd ac a gyflwynwyd trwy'r pecynnau cyllido yn yr adroddiad.

 

                        Tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio sylw'r Aelodau at y dull mwy uchelgeisiol a gymerir gan y Cyngor i gynorthwyo cynghorau tref, yng nghyd-destun y dull strategol y cytunwyd arno gan y Cabinet ym mis Mai 2019, fel y manylwyd yn yr adroddiad.      

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ron Davies ynghylch yr angen am adolygiad o oleuadau traffig a lôn fysiau yn Shotton, cytunodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad i roi gwybodaeth i'r Cynghorydd Davies yn dilyn y cyfarfod ar y cynigion i wella'r gyffordd a goleuadau traffig yn Shotton fel rhan o osod gwelliannau cyffyrdd ar hyd Shotton a Queensferry.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd a oedd unrhyw gynnydd wedi’i wneud o ran datblygu’r tir lle roedd swyddfeydd y Cyngor yn arfer bod yng Nghei Connah a safle Somerfield. Dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y bu sgyrsiau gweithredol gyda'r Cyngor ar y defnydd o’r safle yn y dyfodol ac er nad oedd llyw clir ar hyn o bryd, y gobaith oedd gweld uned siop yno.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Ted Palmer sylwadau ar gau adeiladau mawr ar stryd fawr Treffynnon, ers yr astudiaeth gwirio iechyd a gynhaliwyd yn 2008, fel banciau, nad oeddent yn addas ar gyfer adeiladau manwerthu a gofynnodd a ellid addasu'r adeiladau hyn i ddarparu tai ond cadw ychydig o le at ddibenion manwerthu. Gwnaeth y Cynghorydd Dave Wisinger sylwadau hefyd ar nifer yr unedau manwerthu gwag, ar gyrion canol trefi, a oedd yn aros yn wag am gyfnod hir a’I fod yn teimlo mai'r defnydd gorau ohonynt fyddai eu trawsnewid yn dai, a fyddai'n cynorthwyo gyda chynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol trefi. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio, yn dilyn yr astudiaeth gwirio iechyd flaenorol, y byddai canol trefi yn cael eu hailystyried a'u hadolygu yn unol â hynny. Gwnaeth y Prif Swyddog sylwadau ar newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru a oedd yn anelu at wneud canol trefi yn lleoedd cynaliadwy i fyw ynddynt, gan ystyried cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Patrick Heesom sylwadau ar y Polisi Canol Trefi a oedd, yn ei farn ef, wedi bod o fudd i rai ardaloedd o'r Sir ond nid pob un. Dywedodd fod angen i'r Aelodau gofio am Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a fyddai'n pennu dyfodol canol trefi a dywedodd bod angen buddsoddiad teg ym mhob canol tref ar draws y Sir. Amlinellodd rywfaint o amheuaeth o ran y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a gwnaeth sylwadau ar nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yn Sealand a oedd wedi bod yn ardal risg llifogydd. Ymatebodd y Prif Swyddog fod y dull a ddefnyddir i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu canol trefi yn unol â gwaith Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. O ran adeiladu tai ym Mhorth y Gogledd yn Sealand, roedd y tir wedi'i amddiffyn rhag llifogydd trwy fuddsoddiad gan LlC a ddiogelodd y safle am 100 mlynedd.    

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Dennis Hutchinson sylwadau ar y dad-bedestreiddio arfaethedig yng nghanol tref Bwcle a gofynnodd pen na fyddai'r cyhoedd yn cefnogi'r cynnig a fyddai hyn yn rhwystro gwelliannau arfaethedig eraill sy'n parhau yn y dref.  Gofynnodd hefyd am gefnogaeth i wella ac ailagor adeilad hanesyddol Baddonau Bwcle. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio y gallai cynlluniau arfaethedig eraill barhau pe na bai'r dad-bedestreiddio yn cael ei gefnogi. 

 

            Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad fod nifer o gynlluniau i wella canol trefi yn cael eu hystyried ac wedi cael eu rhoi ar waith megis gwelliannau i gysylltu canol trefi trwy drafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau Teithio Llesol newydd, a thrwy hynny’n eu cynnal fel hybiau trafnidiaeth.Gwnaeth sylwadau hefyd ar yr awydd i ganol trefi ddod yn wyrdd gyda phlannu coed lled aeddfed gan ddefnyddio pyllau coed sy'n gwella draeniad, creu ymdeimlad o les a gwella'r amgylchedd naturiol.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin ynghylch cyllid yn y dyfodol, esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio y byddai'r Cabinet yn gwneud penderfyniad ar gyllid wrth ystyried yr adroddiad ym mis Mawrth, 2020, fodd bynnag, dywedodd y byddai cael y buddsoddiad cywir a’r dull cywir yr un mor bwysig â'r cyllid. Gwnaeth y Prif Swyddog sylwadau ar sefydlu ardal Gwella Busnes ar gyfer canol trefi, er mwyn i gymunedau busnes allu rheoli beth i'w wella.

 

Dywedodd y Cynghorydd Davies fod cyngor tref Shotton yn enghraifft o dref lewyrchus gyda llawer o siopau ond nad oedd pobl yn cael eu hannog i ymweld â hi oherwydd y problemau traffig a oedd wedi bod yn mynd rhagddynt ers nifer o flynyddoedd. Gwnaeth sylwadau hefyd ar yr hen Bargain Stores yng Nghei Connah a oedd wedi dadfeilio ers nifer o flynyddoedd a gofynnodd beth ellid ei wneud i wella hyn. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad y byddai traffig yn Shotton yn cael ei wella fel rhan o'r Gwelliannau Lôn Bysiau. Esboniodd y Prif Swyddog fod y Cyngor eisioes yn edrych i brynu'r hen Bargain Stores fel rhan o Orchymyn Prynu Gorfodol ond nad oedd hwn wedi'i gwblhau. Dywedodd fod yr adeilad hwn yn enghraifft o adeilad a esgeuluswyd yn cael effaith niweidiol ar estheteg ardal. 

 

PENDERFYNWYD:

 

a)         Cefnogi'r cynnydd a wnaed o ran adfywio yng nghanol trefi yn Sir y Fflint a'r dull o ail-ganolbwyntio sy'n cael ei gynnig ar gyfer 2020 a thu hwnt; a

 

 (b)     Bod y Pwyllgor yn argymell i'r Cabinet yr adnoddau ychwanegol sy'n ofynnol ar gyfer swydd Uwch Swyddog.

Dogfennau ategol: