Agenda item

CYFLWYNIADAU

Cydnabyddiaeth Gwobrau Prentis y Flwyddyn APSE

 

Cofnodion:

Cydnabyddiaeth Gwobrau Prentis y Flwyddyn APSE

 

Eglurodd y Cadeirydd bod Gwobrau Prentis y Flwyddyn APSE yn agored i bob awdurdod lleol er mwyn cydnabod cyflawniadau prentisiaid mewn gwasanaethau rheng flaen a’r gefnogaeth a dderbyniwyd ganddynt gan Gynghorau a sefydliadau sy’n bartneriaid. Cyflwynwyd y Gwobrau hyn, sy’n fawr eu bri, i brentisiaid sydd wedi profi eu hunain i fod yn arloesol ac sy’n hoelio sylw ar gynhyrchu rhagoriaeth yn eu maes gwasanaeth. Yn cystadlu gyda chymheiriaid ledled y Deyrnas Unedig, roedd yn gyflawniad arwyddocaol i brentis gael ei roi ar y rhestr fer derfynol. Roedd yn bleser gan y Cadeirydd hysbysu bod tri o brentisiaid Cyngor Sir y Fflint wedi cyrraedd rownd derfynol Cydnabyddiaeth Gwobrau Prentis y Flwyddyn APSE yn 2019.

 

Aeth y Cadeirydd ymlaen i groesawu a chyflwyno Gareth Allen, Prentis Paentio ac Addurno, Rheoli Asedau Tai, a gyrhaeddodd y rhestr fer yn y categori ‘Sgiliau Adeiladu’; Matthew Evans, Prentis Gweithredol Strydwedd, a gyrhaeddodd y rhestr fer yn y categori ‘Strydwedd’; ac Adam Cook, Prentis Gweithredol Strydwedd, sef yr enillydd dros bawb yn y categori ‘Strydwedd’.

 

Eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod Matthew ac Adam wedi ymuno â’r Cyngor ym Medi 2018 fel Prentisiaid Gweithredol Strydwedd ac roeddynt yn dechrau eu hail flwyddyn o’r rhaglen. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, buont yn gweithio ochr yn ochr â staff gweithredol ar waith cynnal priffyrdd, cynnal tiroedd, a gwasanaethau glanhau a gwastraff ac ailgylchu, wrth gwblhau NVQ mewn Gwasanaethau Amgylcheddol yng Ngholeg Cambria. Enwebwyd Matthew ac Adam ar gyfer Gwobrau Prentis y Flwyddyn APSE 2019 ar ôl derbyn adborth cadarnhaol am eu hagwedd, eu brwdfrydedd a’u cynnydd gan eu mentoriaid a thiwtor y coleg. Roedd y ddau yn gystadleuwyr cryf a chawsant eu rhoi ar y rhestr fer. Yn dilyn proses gyfweld drylwyr yn erbyn cystadleuwyr eraill ledled y DU, gwobrwywyd Adam fel yr Ennillydd Dros Bawb yn y Categori Strydwedd.

 

Siaradodd y Cynghorydd Thomas am ei chefnogaeth i’r cynllun prentisiaid a ddarparwyd gan y gwasanaeth Strydwedd dros y pum mlynedd diwethaf, a dywedodd ei fod yn darparu cyfle gwerthfawr i bobl ifanc gael dysgu ystod o sgiliau newydd a sut i weithredu peiriannau. Roedd prentisiaid yn gweithio mewn sawl maes ar draws y Gwasanaeth Strydwedd i gael blas cyffredinol ar y gwahanol feysydd ac i ganfod pa rai sydd orau ganddynt. Eglurodd y Cynghorydd Thomas bod y Gwasanaeth hefyd yn cynnig ystod o hyfforddiant ardystiedig sydd wedi’i achredu’n genedlaethol oedd yn cael ei ddarparu’n ‘fewnol’. Mynegodd ei llongyfarchiadau i Matthew ac Adam a diolchodd i’w tiwtoriaid a’u mentoriaid.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Ian Dunbar Gareth am gyrraedd y rhestr fer yn y categori ‘Sgiliau Adeiladu’. Eglurodd bod Gareth wedi dechrau ei brentisiaeth gyda’r Cyngor fel paentiwr ac addurnwr ym Medi 2018 a’i fod wedi profi ei hun i fod yn ased i’r Gwasanaeth. Yn ogystal â chyrraedd y rhestr fer yn y Gwobrau APSE, gwobrwywyd Gareth hefyd yn ddiweddar gyda Thystysgrif Cydnabyddiaeth yng “Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru” yn dilyn ei enwebu gan ei diwtor coleg. Yn yr adborth gan y beirniaid APSE dywedwyd: “Roedd Gareth wedi cyfleu ei hun fel rhywun brwdfrydig am ei brentisiaeth, a rhoddodd gipolwg ardderchog ar ei werth iddo ef yn bersonol ynghyd â’i uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol”.

 

Llongyfarchodd y Cadeirydd Gareth, Matthew ac Adam am eu cyflawniadau a chyflwynodd eu Gwobrwyon APSE iddynt. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Ian Peters a Denise Price, Rheolwyr Tîm – Tai ac Asedau, a  Gemma Boniface, Wayne Jones a Russell Broughton, Strydwedd a Chludiant, am eu gwaith a chymorth.