Agenda item

Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2020/21

Pwpras:        Galluogi’rpwyllgor i dderbyn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2020/21, sy’n pennu taliadau i aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig am y flwyddyn nesaf.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2020/21, sy’n pennu taliadau i aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig am y flwyddyn nesaf.Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi anfon yr Adroddiad Blynyddol drafft at y Cynghorau Sir ar 15 Hydref a gofyn bod sylwadau yn cael eu cyflwyno erbyn 10 Rhagfyr 2019. Roedd gofyn i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ystyried y sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â’r drafft cyn cyflwyno’r fersiwn derfynol o’r adroddiad ym mis Chwefror 2020. 

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi gwneud 51 o Benderfyniadau ar gyfer 2020/21, ac roedd 18 ohonynt yn uniongyrchol berthnasol i Gyngor Sir y Fflint. Dywedodd bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi cynnig y dylid cynyddu’r cyflog sylfaenol yn 2020/21 o £350 ar gyfer aelodau etholedig o brif gynghorau i gyfanswm o £14,218,  yn weithredol o 1 Ebrill 2020. Er mwyn rhoi hyn mewn cyd-destun, roedd y Panel wedi cynnal dadansoddiad o gyflogau Aelodau sylfaenol ac wedi nodi bod cyflogau ‘aelodau meinciau cefn y Cyngor’ wedi gostwng yn sylweddol is na chwyddiant.  Dywedodd nad oedd unrhyw newid, ar wahân i’r cynnydd i gyflog sylfaenol, wedi’i gynnig ar gyfer cyflogau uwch neu ddinesig. Ymgynghorwyd ag arweinwyr grwpiau gwleidyddol a dirprwyon ar yr adroddiad mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2019. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Mike Peers adborth ar gyfarfod Arweinwyr Gr?p a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd a dywedodd mai’r argymhelliad a gododd ar ôl ystyried adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol oedd ei nodi. Cynigodd felly bod y Pwyllgor yn nodi’r penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn ei Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2020/21.

 

Tynnodd y Cynghorydd Peers sylw at dudalen 17, adran 6, o’r rhaglen, a oedd yn cyfeirio at y ddarpariaeth yn y fframwaith i ad-dalu Aelodau am gostau gofal. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd nad oedd gofyn i Gynghorau ddatgelu derbynyddion y costau gofal ac roedd ganddynt y cyfleuster i gydgrynhoi’r costau. Dywedodd bod yr Awdurdod wedi mabwysiadu’r ddarpariaeth hon fel arfer da ers sawl blwyddyn bellach, fodd bynnag, roedd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol unwaith eto wedi rhoi pwyslais ar Gynghorau yn mabwysiadu’r elfen hon o’r fframwaith fel nad oedd Aelodau dan anfantais yn ariannol.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cynnig bod y cynnydd o ran cyflog yn dod i rym ar 1 Ebrill 2020, fodd bynnag, awgrymwyd y dylai’r Pwyllgor ystyried a fyddai’n fwy ymarferol i’r cynnydd i daliadau Aelodau ddod i rym wedi cyfarfod blynyddol yr Awdurdod yn hytrach nag ar ddechrau’r flwyddyn ariannol. Dywedodd y byddai hyn hefyd yn mynd i’r afael ag unrhyw newid i swyddi’r Aelodau a oedd yn digwydd ar ôl y Cyfarfod Blynyddol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Chris Bithell am rôl a chyfrifoldebau newidiol a chynyddol yr Aelodau Etholedig ac Aelodau Cabinet a dywedodd ei bod ond yn deg bod Aelodau yn cael eu talu’n briodol am eu gwaith.  Cyfeiriodd at bresenoldeb mewn cyfarfodydd a dywedodd er bod presenoldeb yn ystod y mwyafrif o gyfarfodydd y Cyngor yn cael ei gofnodi, roedd nifer sylweddol o gyfarfodydd ychwanegol, yr oedd yr Aelodau Etholedig yn eu mynychu fel rhan o’u dyletswyddau, nad oedd yn cael eu cofnodi, gan gyfeirio at gyfarfodydd sefydliadau a chyrff allanol fel enghreifftiau. Pwysleisiodd yr angen i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ofynion y ‘swydd’ a’r oriau anghymdeithasol oedd yn gysylltiedig â hi.

 

Roedd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn cydnabod y pwyntiau a wnaed gan y Cynghorydd Bithell. Dywedodd bod presenoldeb mewn gweithdai a digwyddiadau hyfforddi a oedd yn cael eu darparu gan y Cyngor bellach yn cael ei gofnodi ar systemau’r Cyngor, fodd bynnag, nid oedd y Cyngor yn gallu cofnodi presenoldeb mewn cyfarfodydd / digwyddiadau ychwanegol eraill yr oedd Aelodau Etholedig yn eu mynychu. Anogodd yr Aelodau i gymryd mantais o’r cyfleuster i lunio Adroddiad Blynyddol y gallai pob Aelod ei ddefnyddio i nodi ei weithgareddau a’i ddyletswyddau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at y posibilrwydd o rannu swydd a gofynnodd a fyddai’r Cyngor yn gallu datblygu hyn. Ceisiodd eglurhad ynghylch taliadau ar gyfer Aelodau Etholedig yn ystod salwch neu absenoldeb teuluol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod y taliadau yn cael eu gwneud yn ôl disgresiwn lleol. 

 

Ategodd y Cynghorydd Arnold Woolley y sylwadau a fynegwyd gan y Cynghorydd Bithell ynghylch cofnodi presenoldeb mewn cyfarfodydd ar wahân i gyfarfodydd y Cyngor ac fe soniodd am y llwyth gwaith ychwanegol o ganlyniad i aelodaeth sefydliadau a chyrff allanol. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Johnson a fyddai modd cynnwys yr Adroddiadau Blynyddol a gynhyrchwyd gan Aelodau unigol ar wefan yr Awdurdod ar ffurf dolen gyda’r wybodaeth a ddarperir ar dudalen ‘Eich Cynghorydd’.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at dudalen 30 o’r adroddiad yngl?n â thaliadau i Benaethiaid Dinesig a Dirprwyon. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd wybodaeth gefndir ynghylch lefelau tâl Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer Penaethiaid Dinesig a Dirprwyon ac fe ymatebodd i’r cwestiynau a’r sylwadau pellach a godwyd. Esboniodd hefyd bod cyllideb fach ar gael i dalu costau cludiant a mân dreuliau bychain eraill sy’n codi gan Gadeirydd ac Is-Gadeirydd yr Awdurdod.

 

Cynigodd y Cynghorydd Mike Peers yr argymhellion, a chafodd eu heilio gan y Cynghorydd David Healey. 

 

PENDERFYNWYD: 

 

Hysbysu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn ei Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2020/21;

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi Penderfyniad 41 (Ad-Dalu Costau Gofal) a chadarnhau mai polisi’r Cyngor yw anhysbysu hawliadau fel ffigwr wedi’i gydgrynhoi yn hytrach na’n unigol;

 

 (c)      Bod y Pwyllgor o’r farn y byddai’n fwy ymarferol i unrhyw gynnydd o ran taliadau Aelodau ddod i rym o gyfarfod blynyddol yr awdurdod ar ddechrau blwyddyn y Cyngor yn hytrach na’r flwyddyn ariannol; a

 

(d)      Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei awdurdodi i wneud ymateb ar ran y Cyngor i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, yn adlewyrchu’r penderfyniadau yn y cyfarfod.

Dogfennau ategol: