Agenda item

Adolygiad Etholiadol Sir y Fflint

Pwrpas:  Ymateb i gynigion drafft o Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad mewn ymateb i Adolygiad o Drefniadau Etholiadol Sir y Fflint - Cynigion Drafft gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (CFfDLC). Byddai’r cyfnod ymgynghori ar gyfer ymatebion gan y Cyngor a phartïon eraill sydd â diddordeb yn y cynigion yn dod i ben er 27 Tachwedd 2019. 

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau am eu gwaith a’u cydweithrediad o ran cyflawni consensws lleol yn y mwyafrif o achosion ac am gyrraedd y dyddiad cau ar gyfer Cam 2 o broses yr adolygiad. Cyfeiriodd at yr ymgynghoriad cychwynnol rhwng Tachwedd 2018 ac Ionawr 2019 pryd y gwnaeth Aelodau gynigion i CFfDLC ar gyfer newidiadau i wella cynrychiolaeth leol. Fel atodiad i’r adroddiad, cafwyd ymateb drafft y Cyngor i Gam 2 o gynigion drafft CFfDLC ar gyfer Sir y Fflint. Eglurodd y Prif Weithredwr mai’r ymagwedd tuag at yr ymateb cychwynnol fu rhoi statws coch/oren/gwyrdd (RAG) sydd wedi’i gario ymlaen i’r ail ymateb (gyda rhai Gwyrdd yn gynigion a gefnogwyd gan CFfDLC neu’n gynigion amgen oedd yn destun consensws ymhlith Aelodau lleol; roedd rhai Oren yn gynigion lleol nad oeddynt yn cael cefnogaeth o ran consensws llawn; ac roedd Coch yn nodi na fu cytundeb lleol yn bosibl).

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad. Eglurodd bod cynigion drafft CFfDLC ar gyfer Sir y Fflint, a gyhoeddwyd yn Ebrill 2019, wedi newid trefn wardiau etholiadol i gyflawni “gwelliant sylweddol” yn lefel y cydraddoldeb etholiadol ar draws Sir y Fflint. Byddai hyn yn golygu Cyngor o 65 Aelod gyda chymhareb gyfartalog arfaethedig yn y Sir o 1,836 o etholwyr yr Aelod, ynghyd â gostyngiad i 30 o wardiau etholiadol yn lle’r 57 presennol. Dywedodd unwaith eto bod manylion y cynigion drafft a gyflwynir i CFfDLC, yn seiliedig ar ymgynghori helaeth gydag Aelodau, wedi’u cynnwys yn yr atodiad i’r adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod gan Aelodau ddealltwriaeth unigryw o’r ardaloedd a gynrychiolwyd ganddynt ynghyd â gwybodaeth am anghenion lleol a chysylltiadau yn y gymuned a oedd yn darparu cydlyniant cymunedol a chynrychiolaeth effeithiol. Dywedodd efallai na fyddai rhai o gynigion y Cyngor yn cyflawni gofynion CFfDLC o ran cydraddoldeb etholaethol ond eu bod yn cyflwyno opsiynau hyfyw a fyddai’n cael cefnogaeth leol. Adroddodd am y prif ystyriaethau mewn perthynas â’r cynigion a oedd wedi ffurfio ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad. Eglurodd bod cyfle’n dal i fod cyn y dyddiad cau ar 27 Tachwedd 2019 i Aelodau gyflwyno rhagor o sylwadau personol neu i annog sylwadau gan grwpiau. Yn dilyn cwblhau proses Cam 2, byddai’r Comisiwn yn paratoi Adroddiad ar y Cynigion Terfynol (Cam 3) a gyflwynir i Lywodraeth Cymru. Rhybuddiodd y byddai gwneud newidiadau yng Ngham 3 yn anodd.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod ymateb y Cyngor yn amlygu’r meysydd, fel y nodwyd yn yr adroddiad, lle teimlwyd fod y Comisiwn wedi gwyro gormod oddi wrth ei reolau ei hun. Dywedodd unwaith eto bod angen darparu’r ymateb gorau bosibl i’r cynigion yng Ngham 2, gan na fyddai newidiadau efallai’n cael eu derbyn yn nes ymlaen.

 

Wrth gynnig yr adroddiad diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i’r Gwasanaethau Democrataidd a’r Tîm Etholiad am eu gwaith a’u cymorth i helpu Aelodau i ffurfio ymateb i’r cynigion. Diolchodd hefyd i’r Arweinwyr Grwpiau am eu gwaith a soniodd am wrthwynebiad unedig y Cyngor i’r cynnig i gael wardiau tri aelod. Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai ymateb y Cyngor yn pwysleisio ei wrthwynebiad i greu wardiau a chanddynt dri aelod.                    

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at yr enghraifft yn yr adroddiad y byddai’r cynnig ar gyfer cyfuno tair ward bresennol Treffynnon yn ward tri aelod yn golygu y byddai disgwyliad i bob Aelod unigol gynrychioli nid cymhareb CFfDLC o 1 aelod:1,836 o bobl ond 1 aelod:4,634 o bobl, a dywedodd y byddai hyn yn gynnydd o 1 aelod:6,900 o bobl ar gyfer aelod ward Bwcle. Awgrymodd y dylid cynnwys ail enghraifft yn yr ymateb i amlygu’r amrywiaeth o ran niferoedd.            

 

Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers bod cynigion drafft CFfDLC a dderbyniwyd ym mis Awst wedi achosi pryder mewn rhai cymunedau yn Sir y Fflint yng nghyswllt cyflwyno wardiau tri aelod, ynghyd ag achosion lle byddai wardiau’n cael eu huno. Cefnogodd y barnau a fynegwyd gan y Cynghorydd Ian Roberts ac Arweinwyr Grwpiau nad oedd angen wardiau tri aelod yn Sir y Fflint. Diolchodd i’r Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Llywodraethu) am eu gwaith ar ymateb y Cyngor i CFfDLC a dywedodd ei fod yn croesawu’r cynnig i gyflwyno sylwadau ychwanegol cyn y dyddiad cau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at ymateb drafft y Cyngor oedd wedi’i atodi i’r adroddiad. Dywedodd bod yr ail golofn ar y ward arfaethedig, nifer yr Aelodau ac ati wedi dod yn uniongyrchol gan y Comisiwn yng nghynigion mis Awst. Dywedodd bod y sylwadau gwyrdd, mewn rhai achosion, yn nodi nifer yr etholwyr i’w symud o un ward i un arall, ond teimlodd bod angen gwneud nifer y wardiau mewn tref yn fwy eglur, er enghraifft, lle lleihawyd 4 ward i 2, yn y sylwadau dylid nodi bod angen cadw’r 4 ward. Dywedodd hefyd bod angen gwneud nifer yr aelodau arfaethedig ym mhob ward yn gliriach yn y cynigion diweddaraf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Clive Carver at wardiau Ewloe, Penarlâg, Aston a Mancot a dywedodd mai awgrym a gytunwyd gan bob un o gynghorwyr presennol y wardiau oedd bod Penarlâg yn cael ei gynnwys yn yr ardaloedd eraill, byddai gan yr ardaloedd eraill elfen ‘dwyrain/gorllewin’ neu ‘gogledd/de’, er enghraifft Dwyrain Penarlâg, neu Gorllewin Penarlâg, a dywedodd nad oedd yn gweld cyfeiriad at hyn yn yr atodiad. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i gynnwys y sylw yn ymateb y Cyngor i CFfDLC. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai e-bost yn cael ei hanfon at bawb dan sylw - i’r perwyl hwnnw - ac y byddai cyfeiriad yn cael ei wneud yn yr ymateb at y consensws o ran y cynigion.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Neville Phillips at etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gynhelir y flwyddyn nesaf, a dywedodd ei fod yn deall efallai y bydd pleidlais yn cael ei gyflwyno ar gyfer rhai 16/17 oed a fyddai’n effeithio’r cyfrifiadau o ran cymarebau aelodau:etholwyr yn y wardiau presennol yn Sir y Fflint. Roedd y Prif Weithredwr yn cydnabod y pwynt a wnaed gan y Cynghorydd Phillips ac eglurodd mai newydd ei gyhoeddi oedd y Bil Llywodraeth Leol, a phe byddai’n cael ei ddeddfu, byddai’n weithredol y flwyddyn nesaf. Eglurodd bod y CFfDLC yn ei ddiystyru yn eu briff cyfreithiol presennol, a’i gyngor fyddai na ellid dibynnu arno yn ymateb y Cyngor ar hyn o bryd.

 

Roedd y Cynghorydd Chris Bithell yn cymeradwyo’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a’i dîm am eu cymorth o ran cefnogi’r Aelodau wrth ymdrin â materion cynhwysfawr a sensitif. Dywedodd ei fod yn gwbl gefnogol i’r barnau a fynegwyd ar y gwrthwynebiad i gyflwyno wardiau tri aelod mewn rhai ardaloedd. Siaradodd am y cysylltiadau cryf rhwng Aelodau a’u cymunedau lleol a oedd yn hanfodol bwysig.

 

Wrth grynhoi, eglurodd y Prif Weithredwr y byddai’r Cyngor, mewn llythyr ysgrifenedig gyda thystiolaeth, yn herio CLlDCL i gydbwyso cysylltiadau cymunedol a chymhareb artiffisial.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Ian Roberts a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn cytuno i gyflwyno’r cynigion a nodwyd yn Atodiad 1 gydag amrywiad.

Dogfennau ategol: