Agenda item

Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas:        Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gails am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan y panel, eglurodd yr ymgeisydd yr amgylchiadau y tu ôl i’w euogfarn flaenorol, oedd wedi arwain ar y dedfrydau a ymddangosodd ar daflen euogfarnau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yr Heddlu. Yn benodol, cododd y panel bryderon am nifer y dedfrydau’r oedd yr Heddlu wedi’u gosod o’i gymharu â’r drosedd.

 

Yn dilyn cwestiynau gan y Cyfreithiwr, rhoddodd yr ymgeisydd ragor o fanylion am y digwyddiad oedd yn ymwneud ag alcohol a arweiniodd at ei euogfarnu, gan egluro nad oedd hyn yn rhan o batrwm ymddygiad rheolaidd gan nad oedd alcohol yn nodwedd amlwg yn ei fywyd. Dywedodd nad oedd yr hyn a ddigwyddodd adeg y digwyddiad yn rhywbeth oedd yn digwydd yn rheolaidd. Aeth yn ei flaen i ddisgrifio ei ymateb i’r Swyddogion Heddlu a arweiniodd at ei arestio, gan ddweud ei fod yn difaru'r hyn a wnaeth yn yr un digwyddiad hwn, a'i fod wedi dysgu ohono.

 

Ymatebodd yr ymgeisydd i gwestiynau gan y Cadeirydd ar yr effaith ar ei fywyd personol, yr oedd yn ceisio ei ailsefydlu. Pan wahoddwyd ef i wneud unrhyw sylwadau pellach, ymddiheurodd i’r panel bod rhaid i’r gwrandawiad gael ei gynnal, gan fynegi ei obaith am ail gyfle.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi’u gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn dod i benderfyniad. 

 

5.1       Penderfynu ar y Cais

 

Wrth benderfynu ar y cais, ystyriodd y panel yr holl sylwadau ysgrifenedig a llafar, gan dalu sylw arbennig i ganllawiau’r Cyngor ar ymdrin ag euogfarnau, yn benodol yn adran 4.  Wrth geisio penderfynu, ond cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud, gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl i egluro rhai elfennau ar daflen euogfarnau’r DBS.

 

 Wrth ystyried y wybodaeth a ddangosir ar y cofnod euogfarnau, yr amser sydd wedi mynd heibio a sylwadau’r ymgeisydd a’i edifeirwch am yr un digwyddiad hwn, teimlai’r panel - o bwyso a mesur - ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd). Oherwydd rhai amheuon yngl?n ag ystod y ddedfryd a osodwyd gan y Llys Ynadon, bu iddynt gytuno i ganiatáu’r Drwydded am 12 mis, yn amodol ar gyfnod prawf o chwe mis.

 

Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod.

 

5.2       Penderfyniad

 

Hysbysodd y Cadeirydd fod y panel wedi cytuno, ar ôl ystyried y sylwadau a wnaed, rhoi Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni i’r ymgeisydd am 12 mis, yn amodol ar gyfnod prawf o chwe mis.

 

Nododd y Cyfreithiwr y byddai’r ymgeisydd yn atebol am unrhyw gostau allai godi o’r cyfnod prawf ac/neu’r Drwydded, ac y byddai’n rhaid iddo ddatgelu unrhyw arestiadau/euogfarnau pellach ar unwaith ac yn ôl telerau ei Drwydded pa un bynnag. Hysbyswyd yr ymgeisydd y byddai, ar ôl y cyfnod o 12 mis, yn rhydd i wneud cais am Drwydded tair blynedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, ac y dylid caniatáu iddo gael Trwydded o’r fath am 12 mis, yn amodol ar gyfnod prawf o 6 mis.    Yr ymgeisydd fydd yn ysgwyddo unrhyw gostau allai godi o’r cyfnod prawf ac/neu’r Drwydded. Rhaid iddo roi gwybod i'r Awdurdod Trwyddedu ar unwaith am unrhyw arestiadau ac/neu gyhuddiadau ac/neu euogfarnau neu gosb arall sy’n codi yn ystod y cyfnod prawf (er gwaethaf unrhyw delerau ar drwydded yr ymgeisydd), ac yn dilyn hynny, bydd angen pennu o’r newydd p'un ai yw’r ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded o’r fath ai peidio.