Agenda item

Adeilad Unedol

Pwrpas:        Derbyn adroddiad ar y cysyniad a’r opsiynau a oedd ar gael o ran defnyddio cartrefi unedol i gynyddu cyflenwad o eiddo'r Cyngor.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn am y defnydd o Ddulliau Adeiladu Modern yn Sir y Fflint. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Rhaglenni Tai bod cyfuniad o alw gwirioneddol am dai a methiant y farchnad yn nhermau cost, nifer ac ansawdd, yn gorfodi diwydiannau i edrych ar Ddulliau Adeiladu Modern fel datrysiad. Cyflwynwyd argymhellion manwl yn dilyn Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy yng Nghymru, sydd wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru (LlC). Mae LlC wedi paratoi adroddiad ymgynghori 'Ailddychmygu'r ffordd y caiff tai cymdeithasol eu hadeiladu yng Nghymru, Strategaeth Gweithgynhyrchu Oddi ar y Safle i Gymru', a chafodd y Strategaeth hon ei hanelu at ddarparwyr tai fforddiadwy a chymdeithasol yng Nghymru er mwyn annog sefydliadau i ailystyried adeiladu tai cymdeithasol newydd, ac ystyried cyfuno dulliau adeiladu traddodiadol gyda thechnolegau newydd a dulliau adeiladu tai.

 

Croesawodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson yr adroddiad a soniodd am yr ansawdd uchel a welwyd yn y rhandy yn y feddygfa flaenorol ym Mwcle, a oedd wedi cael ei gwblhau yn ddiweddar gan ddefnyddio dulliau gweithgynhyrchu oddi ar y safle. Awgrymodd y Rheolwr Gwasanaeth Rhaglenni Tai bod y Pwyllgor yn mynd ar ymweliad safle i’r rhandy ym Mwcle er mwyn gweld y gwahanol ddulliau adeiladu. Awgrymodd hefyd bod y Pwyllgor yn ail-ymweld â’r safle yn Eglwys St Andrew, Garden City, gan bod y gwaith o ddatblygu'r rhandai bron â gorffen. Cefnogodd y Pwyllgor yr awgrymiad am gynnal ymweliadau safle.

 

Cododd y Cynghorydd Paul Shotton bryderon am y diffyg o ran crefft ledled Cymru gan ddweud ei fod yn dangos yr angen i sicrhau cynnydd gyda phrentisiaethau. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Rhaglenni Tai bod nifer o fentrau ar gael fel rhan o’r Rhaglen Adfywio a Thai Strategol a'r gwaith ar y cyd â’r Ganolfan Byd Gwaith a Choleg Cambria i gynnig cyfleoedd gwaith a hyfforddiant.   

 

Mewn perthynas â chwestiynau am Garchar Berwyn, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Rhaglenni Tai bod trafodaeth wedi cychwyn yn ddiweddar o ran yr egwyddor o weithio gyda Charchar EM Berwyn a noddwr sector preifat i adeiladu adeiladau gyda ffrâm bren neu bodiau ar gyfer prosiectau cyfredol neu ar gyfer gwaith adnewyddu sy’n cael ei gynllunio. Gallai’r prosiect gefnogi tai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu gan y dynion yng ngharchar Berwyn gan roi'r cyfle iddynt gael gwaith yn y dyfodol o’r herwydd. Dywedodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin bod angen sicrhau bod y myfyrwyr yn cael yr un cyfleoedd a blaenoriaeth i gael mynediad at hyfforddiant.

 

Holodd y Cynghorydd Helen Brown a oedd y prentisiaid yn cael y cyfle i weithio ar ddatblygiadau adeiladu er mwyn cael profiad ar y safle. Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod y prentisiaid yn cael y cyfle i weithio mewn eiddo gwag er mwyn gwella eu sgiliau. Dywedodd hefyd y dylai’r Cyngor fod yn falch o’i brentisiaid mewnol fel plymwyr, seiri coed, trydanwyr a phaentwyr.  

 

            Yn dilyn awgrymiad gan y Rheolwr Gwasanaeth – Rhaglenni Tai i rannu adroddiad SHARP am Fantais Gymunedol gyda’r Pwyllgor, awgrymodd y Prif Weithredwr bod y Manteision Cymunedol sy’n cael eu darparu fel rhan o'r rhaglen SHARP yn cael eu hychwanegu at Raglen Gwaith I'r Dyfodol y Pwyllgor i’w hystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cefnogodd y Pwyllgor yr awgrymiad hwn.

 

            Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth – Rhaglenni Tai i edrych am safleoedd posib ym Mwcle a Threffynnon i gael datblygiadau Dulliau Adeiladu Modern yn y dyfodol, fel a awgrymwyd gan y Cynghorwyr Hutchinson a Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dull sy’n cael ei weithredu i brofi ac ymchwilio i Ddulliau Adeiladu Modern ac Adeiladau Modiwlar i ategu'r rhaglenni adeiladu tai cyfredol.

Dogfennau ategol: