Agenda item
Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 9) a Rhaglen Gyfalaf (Mis 9)
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, Dydd Iau, 13eg Chwefror, 2020 10.00 am (Eitem 83.)
- Cefndir eitem 83.
Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 9 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Darparu gwybodaeth ar Fis 9 y Rhaglen Gyfalaf.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a Phen Gyfrifydd adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, a diweddariad ar Raglen Gyfalaf 2019/20 ym Mis 9 cyn i’r Cabinet ei ystyried.
Monitro Cyllideb Refeniw
O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i ostwng pwysau costau a gwella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd - yn ddiffyg gweithredol o £1.666 miliwn. Roedd y symudiad ffafriol hwn o £0.226 miliwn o Fis 8 yn bennaf oherwydd gostyngiad pellach mewn cyfraniadau pensiwn (a drafodwyd yn gynharach yn y cyfarfod) a ffawdelw TAW o £0.130 miliwn. Roedd gwaith yn parhau i leihau’r sefyllfa gorwario gyffredinol a ragwelwyd erbyn diwedd y flwyddyn, yn cynnwys rhai meysydd penodol a amlygwyd yn yr adroddiad. Gallai’r posibilrwydd o ddyfarniadau grant hwyr hefyd gyfrannu’n gadarnhaol at y sefyllfa diwedd y flwyddyn. Arhoswyd am eglurhad am y cyfraniad o’r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen y gaeaf hwn.
Disgwyliwyd i’r gyfradd gyflawni ar arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn aros yn 91%.
Fe wnaeth crynodeb o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd adrodd balans clo a ragwelwyd o £9.6 miliwn. Roedd y balans a ragwelwyd ar Gronfa Hapddigwyddiad ar ddiwedd y flwyddyn yn £3.203 miliwn, gan ystyried y gorwariant cyfredol a ragwelwyd yn ystod y cyfnod hwn.
O ran safle’r Cyfrif Refeniw Tai a ragwelwyd, roedd gorwariant o £0.103 miliwn gan adael balans heb ei glustnodi o £1.220m ar ddiwedd y flwyddyn, a oedd yn uwch na’r lefel isaf a argymhellwyd.
Mynegodd y Cynghorydd Heesom bryderon am y pwysau ar gyllidebau ysgol, yn enwedig ar lefel uwchradd. Dywedodd y Prif Weithredwr fod sefyllfa diffyg dirywiol rhai o’r ysgolion wedi’i adlewyrchu fel risg agored yn adroddiad y gyllideb sydd angen ei ystyried gan y Cyngor, a dangoswyd yr annigonolrwydd o fodel y fformiwla ariannu yn Sir y Fflint. Siaradodd am y Protocol Diffyg Trwyddedig diwygiedig yn cynnwys cyfres o gamau cadarn a’r effaith ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod yna nifer o ffactorau sy’n cyfrannu, gan arwain at ddiffyg yn sefyllfa’r gyllideb, yn cynnwys yr effaith o ddata amddifadedd disgyblion. Dywedodd fod y mater yn peri gofid mawr a rhoddodd sicrwydd bod y Cyngor yn blaenoriaethu’r rhai hynny sydd angen cefnogaeth.
Rhaglen Gyfalaf
Roedd newidiadau i’r rhaglen ddiwygiedig o ganlyniad i gyflwyno ffrydiau ariannu grant amrywiol, ail-broffilio benthyca darbodus ar y Rhaglen SHARP ac ail-broffilio’r gyllideb ar y grant Cyfalaf Cynnig Gofal Plant. Roedd crynodeb o’r sefyllfa am wariant cyfalaf ym Mis 9 yn dangos tanwariant a ragwelir o £4.372 miliwn ar Gronfa'r Cyngor a sefyllfa o fantoli'r gyllideb ar y Cyfrif Refeniw Tai.
Ceisir cymeradwyaeth Cabinet ar gyfer symiau i’w dwyn ymlaen, gan ddod i gyfanswm o £4.034 miliwn ar gyfer y cyfnod 2020/21. Manylwyd ynghylch defnyddio’r grant Ysgogiad Economaidd ar gyfer y cynlluniau a nodwyd a oedd yn yr adroddiad.
Dangosodd gyllid o gynlluniau a gymeradwywyd ddiffyg o 0.693 miliwn dros y cyfnod o dair blynedd, a fyddai’n alwad gyntaf ar dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at ymarfer hanesyddol a dywedodd y byddai symiau sy’n cael eu dwyn ymlaen ond yn cael eu hymrwymo lle’r oedd contractau eisoes wedi’u llofnodi i gydbwyso prosiectau yn erbyn blaenoriaethau. Eglurodd y Swyddogion, tra byddai cynlluniau yn y rhaglen yn cael eu hail-arfarnu yn y dull hwn, nid oedd gofyniad i gontractau gael eu llofnodi, gan y byddai gwaith yn digwydd dros nifer o flynyddoedd.
Cynigodd y Cynghorydd Cunningham yr argymhellion, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.
PENDERFYNWYD:
(a) Ar ôl ystyried adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 9), cadarnhaodd y Pwyllgor y dylid codi’r pryder ynghylch pwysau ar gyllidebau ysgolion uwchradd gyda’r Cabinet; ac
(b) Ar ôl ystyried adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2019/20 (Mis 9), nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw faterion penodol roeddent yn dymuno eu codi yn y Cabinet.
Dogfennau ategol:
- Revenue Budget Monitoring Reports 2019/20 (Month 9 ) and Capital Programme (Month 9), eitem 83. PDF 78 KB
- Enc. 1 - Cabinet report Revenue Budget Monitoring, eitem 83. PDF 2 MB
- Enc. 2 - Cabinet report Capital Programme Monitoring, eitem 83. PDF 477 KB