Agenda item

Cyrhaeddiad Addysgol Plant sy'n Derbyn Gofal yn Sir y Fflint

Pwrpas:        Derbyn Adroddiad Cyrhaeddiad Blynyddol Plant sy’n Derbyn Gofal.

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) yr adroddiad a chyfeiriodd at y crynodeb gweithredol a oedd yn cynnwys manylion y canlyniadau. Darparwyd y diffiniad gan Lywodraeth Cymru a’r dyddiad cau oedd 16eg Ionawr, 2019.  Os oedd unigolyn ifanc yn derbyn gofal erbyn y dyddiad hwn, yna roedd y canlyniadau hynny yn berthnasol iddo.  Yna, cyfeiriodd Aelodau at bwynt 1.02 yn yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion am y mannau lle’r oedd disgyblion yn cael eu lleoli (gan gadw cynifer â phosibl mewn ysgolion prif ffrwd gyda 110 o’r 140 o ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd). Yna, rhoddodd wybodaeth am y canlyniadau, cyfraddau presenoldeb a gwaharddiadau ynghyd â dyraniad y grant datblygu disgyblion sy’n cael ei ddyrannu i’r plant er mwyn i’r ysgol gael cyllid ar gyfer bwrseriaethau neu er mwyn cydweithio er budd rhagor o blant.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 198 lle’r oedd 5 o’r plant sy’n derbyn gofal heb ennill cymwysterau cyfnod allweddol 2 a gofynnodd pa fesurau gafodd eu rhoi ar waith i gynorthwyo’r plant hyn. Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) fod gwahanol fathau o gymorth yn cael eu darparu, er enghraifft llythrennedd a chymorth therapiwtig.

 

            Nododd y Cynghorydd Dave Mackie fod y canlyniadau yn well na’r hyn a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac roedd yn gobeithio y byddai hyn yn parhau. Roedd yn credu bod y pwyllgor wedi cytuno i edrych ar hyn ar sail “Gwerth Ychwanegol” oherwydd roedd yn teimlo byddai rhoi esboniad ehangach o’r rhesymau pam nad oedd y canlyniadau mor dda yn rhoi gwell esboniad.  Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) mai’r fformat hwn a ddefnyddiwyd y llynedd ond y gellid cyflwyno’r adroddiad gan gynnwys “gwerth ychwanegol” yn y dyfodol. Roedd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yn deall pwynt y Cynghorydd Mackie ac awgrymodd y gellid darparu ffigyrau cyffredinol yn y dyfodol ynghyd â rhai astudiaethau achos a oedd yn tynnu sylw at bwynt cychwynnol a therfynol er mwyn cyflwyno gwybodaeth ar y gwerth ychwanegol. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Dave Healey wrth y Pwyllgor fod Shaun Hingston, aelod cyfetholedig o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a chynrychiolydd Cyngor Ieuenctid Sir y Fflint, wedi gwneud cais i gyflwyno’r datganiad canlynol yn ei absenoldeb.

 

“Mae’r datganiad canlynol yn amlinellu ei farn ar yr eitemau ar yr agenda yn ymwneud â Phlant sy’n Derbyn Gofal a’u cyrhaeddiad addysgol. Dywed: ‘Rwyf yn credu’n gryf fod y Strategaeth Cymorth a Lleoliad Ddrafft 2019-2020 yn strategaeth sy’n amlinellu’n glir yr hyn mae angen i’r Awdurdod Lleol hwn ei wneud er mwyn parhau i wneud gwaith rhagorol o ran sicrhau diogelwch, a chyrhaeddiad academaidd plant sy’n derbyn gofal. Mae’r ffigyrau a gyflwynir yn y strategaeth yn adlewyrchu gallu’r Cyngor hwn i gwrdd â’r safonau uchel mae’n eu gosod ar gyfer ei hun ac y mae’n rhaid iddo eu dilyn yn unol â’r ddeddwriaeth.

 

‘Yr hyn sydd wedi gwneud argraff fawr arnaf yw lefel yr ymgynghori sydd wedi bod gyda phobl ifanc a’r pwyslais clir a fynegwyd gan yr Awdurdod i ofalu am y bobl ifanc hyn a sicrhau eu bod yn cael yr un cyfleoedd â’r rhai mwy ffodus.  Yr unig gwestiwn yr hoffwn ei ofyn yw a fyddai’n bosibl i data’r ymgynghoriad yn ymwneud â phobl ifanc, yn Atodiad Un, gael eu dosbarthu ymhlith Aelodau’r ddau Bwyllgor. Hoffwn i’r datganiad hwn gael ei gofnodi hefyd.’

 

            Cytunwyd y byddai’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’r Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) yn ymateb i Shaun Hingston yn dilyn y cyfarfod. 

 

            Cyfeiriodd Mr David Hytch at y cymariaethau blynyddol a dywedodd nad oedd yn teimlo eu bod yn darparu gwybodaeth ynghylch a oedd y plant wedi gallu cyflawni eu potensial llawn, y byddai’n cyfateb i 30 o blant y flwyddyn yn y cyfnod allweddol. Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) fod hyn wedi cael ei ystyried, er enghraifft, faint o blant oedd wedi llwyddo yng nghyfnod allweddol 2 a 3, ac i edrych ar eu taith drwy’r system addysg, gyda dangosyddion i nodi a oedd y cyfnod pan gwnaethant gael eu rhoi mewn gofal wedi cael effaith ar eu haddysg. Awgrymodd y gellid cynnwys gwybodaeth debyg yn yr adroddiad y flwyddyn nesaf.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Tudor Jones at yr eirfa ac yn benodol at y grant datblygu disgyblion a oedd yn cynnwys cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim; roedd yr eirfa yn cyfeirio at ‘eFSM’ a gofynnodd am esboniad o’r term. Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) mai ystyr ‘eFSM’ yw dysgwyr sy’n gymwys am brydau am ddim gyda’r arian yn mynd i’r ysgolion ar sail bob disgybl. Cadarnhaodd fod hyn yn cyfeirio at gymhwysedd yn hytrach na nifer y plant oedd yn derbyn prydau am ddim. Hefyd, roedd swm ychwanegol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Cytunwyd y byddai hyn yn cael ei wirio yn erbyn yr wybodaeth a oedd ar gael yn y data budd-daliadau. Roedd y Cynghorydd Jones yn pryderu bod rhai plant a oedd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim ond nad oedd y rhieni yn ymwybodol o hyn.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Mackie am ragor o wybodaeth ynghylch a fyddai prydau ysgol am ddim yn cael eu hatal oherwydd Credyd Cynhwysol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) os oedd y teulu yn bodloni’r meini prawf yn ymwneud â gwahanol fudd-daliadau, gan gynnwys Credyd Cynhwysol, yna byddai’r plant yn dal i fod yn gymwys i dderbyn prydau am ddim. Esboniodd fod y tîm Refeniw a Budd-daliadau yn ceisio gwneud pethau mor hawdd â phosibl i deuluoedd gael eu cofrestru os oeddynt yn gymwys.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylai’r Aelodau fynd ati i ymgysylltu fel Rhieni Corfforaethol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal, gan hybu ymwybyddiaeth a herio’r ddarpariaeth gyda lleoliadau addysgol Sir y Fflint; ac

 

(b)       Y dylai’r Aelodau fynd ati i annog yr holl staff addysgol i hybu lles addysgol Plant sy’n Derbyn Gofal o fewn sefylliadau Sir y Fflint ar lefel ‘ysgol gyfan’.

Dogfennau ategol: