Agenda item

Gwasanaeth teledu cylch caeëdig y Cyngor a gwasanaeth ar y cyd â Wrecsam

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Aelodau am gynigion i gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn perthynas â chyfuno gwasanaeth monitro teledu cylch caeëdig y Cyngor Sir â'r gwasanaeth yn Wrecsam.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad i roi gwybod i’r Aelodau am gynigion i gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn perthynas â chyfuno gwasanaeth monitro teledu cylch caeedig Cyngor Sir y Fflint â'r gwasanaeth yn Wrecsam.

 

Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir gan ddweud bod yr adroddiad yn ystyried nifer o opsiynau o ran gosod teledu cylch caeedig fel y nodwyd yn yr adroddiad. Byddai ail-leoli’r gwasanaeth teledu cylch caeedig i Wrecsam yn darparu gwasanaeth teledu cylch caeedig ar y cyd sy’n cael ei reoli gan Wrecsam. Byddai Sir y Fflint yn dal yn gyfrifol am gostau ffibr a chynnal a thrwsio camerâu. Mae cyfleuster Wrecsam yn Nh?r Rhydfudr yn fodern gyda chynllun sydd yn rhagweld partneriaid ychwanegol. Byddai’r dewis i uno gwasanaethau yn darparu gwytnwch ac yn rheoli costau'n fwy effeithiol.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, mewn perthynas â gwasanaeth teledu cylch caeedig y Cyngor a’r angen am newid. Esboniodd bod nifer o fanteision ychwanegol a ellid eu datblygu o fabwysiadu dull ar y cyd â Wrecsam, yn cynnwys darparu gwasanaeth cadw allwedd a gwasanaeth monitro larwm.

 

Yn ystod trafodaeth, ymatebodd y Prif Swyddog i’r sylwadau a’r cwestiynau a godwyd gan yr Aelodau mewn perthynas â’r wybodaeth a ddarparwyd o ran y costau gwasanaeth gwirioneddol a’r costau arfaethedig a rennir rhwng yr Awdurdodau, fel sydd wedi’u hatodi i’r adroddiad. Ymatebodd y Prif Swyddog hefyd i’r cwestiynau pellach a’r pryderon a fynegwyd mewn perthynas â chostau ail-leoli, y goblygiadau o ran trefniadau staffio a thelerau ac amodau, a darpariaeth barhaus o wasanaeth teledu cylch caeedig yng Nghynghorau Tref a Chymuned. Gofynnodd y Cynghorydd Janet Axworthy bod y Pwyllgor yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf o ran goblygiadau staffio / trafodaethau. Cytunwyd y byddai adroddiad diweddaru yn cael ei gynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w ystyried yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor ymhen 6-8 mis.

 

Soniodd y Cynghorydd Sean Bibby am werth gwasanaethau teledu cylch caeedig i Heddlu Gogledd Cymru a gofynnodd a oedd cyfraniad ariannol yr Heddlu yn cael ei adolygu. Cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’n rhaid codi’r mater hwn â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru. Dywedodd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam eisoes wedi codi’r mater o gyllid â Heddlu Gogledd Cymru gan nodi y byddai’n rhaid archwilio i fodel cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau teledu cylch caeedig yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dave Wisinger fod Aelodau’r Pwyllgor yn cael cyfle i weld y cyfleuster newydd pan yn weithredol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai hyn yn cael ei drefnu drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi i’r trefniadau gael eu sefydlu yn Wrecsam.  

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhelliad i uno’r swyddogaeth monitro teledu cylch caeëdig gyda Wrecsam ar ôl derbyn sicrwydd o ran parhad gwasanaeth;

 

 (b)     Bod y Pwyllgor yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf o ran goblygiadau staffio / trafodaethau gydag adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ymhen 6/8 mis; a

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi swyddogion sy’n ystyried dechrau trafodaethau â Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd am gyfraniadau uwch i gostau teledu cylch caeedig yn y dyfodol.

Dogfennau ategol: