Agenda item
Cael gwared ar Anghysonderau o Ran Cludiant i’r Ysgol
- Cyfarfod Cabinet, Dydd Mawrth, 14eg Mai, 2019 9.30 am (Eitem 6.)
- View the declarations of interest for item 6.
- Cefndir eitem 6.
Pwrpas: Ceisio cyngor y Cabinet ynghylch dod ag anghysonderau cludiant i’r ysgol a nodwyd yn adolygiad gwasanaeth 2019 i ben yn fuan.
Cofnodion:
Cyflwynodd yCynghorydd Thomas adroddiad cael gwared ar anghysonderau o ran cludiant i’r ysgol sydd, o ystyried yr heriau ariannol sylweddol sy’n wynebu’r Cyngor, yn opsiwn ar gyfer cael gwared ar yr anghysonderau hanesyddol o ran cludiant ym mis Gorffennaf 2019, yn lle Gorffennaf 2020 fel y cytunwyd yn flaenorol, i sicrhau arbedion yn y gyllideb.
Cwblhawyd ymarferiad optimeiddio llwybrau cludiant ac ail-gaffael ym Medi 2017, gyda’r ymarferiad yn sicrhau’r budd gorau i’r gwasanaeth drwy sicrhau bod cerbydau’n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithlon ynghyd â llwybrau a chapasiti cerbydau mwyaf cost effeithlon ar gyfer y nifer gofynnol o deithwyr cymwys. O ganlyniad i’r adolygiad, nodwyd nifer o drefniadau cludiant anstatudol hanesyddol oedd yn ychwanegol at y Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol presennol gyda chyfleoedd am wasanaeth arall ac arbedion effeithlonrwydd posibl.
Cyflwynwyd adroddiadau i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd yng Ngorffennaf a Thachwedd 2018 lle cytunwyd ar opsiwn i gefnogi parhad anghysonderau tan fis Gorffennaf 2020 gyda chefnogaeth y Cabinet ar 20 Tachwedd 2018. Fodd bynnag, o ystyried yr heriau ariannol sylweddol sy’n wynebu’r awdurdod, cyflwynwyd opsiwn o gael gwared ar yr anghysonderau hanesyddol o ran cludiant o fis Gorffennaf 2019.
Opsiwn 1 oedd cael gwared ar yr anghysonderau ym mis Gorffennaf 2020. Byddai hyn yn cael effaith ar y gyllideb cludiant ysgolion ond byddai’n caniatáu i’r Uned Drafnidiaeth Integredig gynnal cyfnod ymgynghori ehangach gyda disgyblion i ystyried trefniadau cludiant eraill.
Opsiwn 2 oedd cael gwared ar yr anghysonderau ym mis Gorffennaf 2019. Byddai hyn yn sicrhau arbediad ariannol i’r awdurdod ond byddai’n cael effaith sylweddol ar y disgyblion hynny sy’n defnyddio’r gwasanaethau gan nad oes unrhyw opsiynau cludiant cyhoeddus eraill ar hyn o bryd ar hyd y llwybrau hynny.
Argymhellodd y Cynghorydd Thomas fod opsiwn 1 yn cael ei gefnogi yn unol â’r penderfyniad blaenorol gan y Cabinet a gefnogwyd.
Eglurodd Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai’r garfan o blant oedd wedi mynychu Ysgol Uwchradd John Summers yn flaenorol yn parhau i gael cludiant am ddim i’r ysgol i Ysgol Uwchradd Cei Conna nes bod eu cyfnod yn yr ysgol wedi dod i ben. Croesawyd hyn gan y Cynghorydd Jones.
Mewn ymateb i gwestiwn, eglurodd y Prif Weithredwr pe byddai cael gwared ar yr anghysonderau cludiant i’r ysgol wedi cael ei ddwyn ymlaen flwyddyn y byddai wedi cael effaith gadarnhaol ar y gyllideb, £229,000. Deallwyd a derbyniwyd nad oedd arbediad pellach am gael ei sicrhau fel penderfyniad yn seiliedig ar werthoedd ar sail risg i ddysgwyr a theuluoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod y Cyngor yn gweithredu polisi o ddewis i rieni a phwysleisiodd yr angen i rieni ddewis yn ofalus. Eglurodd Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod y ffurflen derbyniadau ysgolion yn egluro’r polisi cludiant i’r ysgol a bod angen ticio blwch i ddweud eu bod yn deall. Roedd cydweithwyr o Strydwedd hefyd yn bresennol mewn nosweithiau agored ysgolion uwchradd i ailadrodd manylion y polisi er mwyn i rieni a gofalwyr fod yn ymwybodol ohonynt. Os oeddent yn dewis peidio ag anfon eu plant i’r ysgol agosaf atynt, yna, y rhieni a’r gofalwyr fyddai’n talu am gostau cludiant.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn nodi effaith ariannol darparu anghysonderau cludiant hanesyddol a pharhau i gefnogi’r anghysonderau tan fis Gorffennaf 2020.
Dogfennau ategol:
- Removal of School Transport Anomalies, eitem 6. PDF 83 KB
- Appendix 1 - Removal of School Transport Anomalies, eitem 6. PDF 123 KB
- Appendix 2 - Removal of School Transport Anomalies, eitem 6. PDF 123 KB
- Appendix 3 - Removal of School Transport Anomalies, eitem 6. PDF 58 KB