Agenda item

Incwm Rhent Tai

Pwrpas:        I ddarparu diweddariad gweithredol ar gasglu rhent a lefelau ôl-ddyledion presennol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y diweddariad chwarterol ar gasglu rhent gan gynnwys y sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, yn dilyn yr adroddiad diweddaru diwethaf ym mis Chwefror 2019.

 

Dywedodd y Rheolwr Refeniw fod ôl-ddyledion rhent yn £1.88m ar ddiwedd y flwyddyn 2018/19 a oedd yn ostyngiad o £0.26m ers mis Chwefror. Roedd hyn yn adlewyrchu sefyllfa lle'r oedd ôl-ddyledion rhent yn dechrau sefydlogi ac yn dangos effaith ymyrraeth gynnar gan y tîm i ymgysylltu â thenantiaid sy'n dioddef anawsterau. Dangosodd dadansoddiad o fandiau ôl-ddyledion rhent a gylchredwyd fod mwyafrif yr achosion â symiau is o ôl-ddyledion yn ddyledus. Dangosodd dadansoddiad o'r ffigurau fod Diwygio Lles yn ffactor allweddol i denantiaid sy'n mynd i ôl-ddyledion ac roedd y rhan fwyaf o'r cartrefi sy'n derbyn Credyd Cynhwysol yn cael eu cyflymu i daliadau a reolir er mwyn osgoi’r sefyllfa rhag gwaethygu. Mae'n anochel bod y cynnydd mewn symud o Fudd-dal Tai i Gredyd Cynhwysol wedi creu problemau llif arian wrth i daliadau a reolir gael eu talu i'r Cyngor mewn ôl-ddyledion gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Oherwydd amseriad y taliadau hynny, roedd yn fwy tebygol bod ôl-ddyledion rhent oddeutu £1.69m a oedd fwy neu lai yr un sefyllfa â'r flwyddyn flaenorol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog, er bod ôl-ddyledion rhent yn sefydlogi, y byddai effaith llif arian ac oedi taliadau yn anochel yn dylanwadu ar y ffigur terfynol.

 

Rhannodd y Cynghorydd Dave Hughes ei siom ynghylch canlyniad achos llys diweddar yn ymwneud ag adennill rhent na dalwyd am gyfnod hir.

 

O ran y band ôl-ddyledion, dywedodd y Cynghorydd Brown nad oedd y wybodaeth yn peri gormod o bryder gan fod rhai o'r lefelau is yn cynnwys taliadau debyd uniongyrchol misol ac nad oeddent yn dechnegol mewn ôl-ddyledion. Cefnogodd yr adnoddau ychwanegol i reoli llwythi achosion cynyddol ac ar reoli risg, awgrymodd y gellid archwilio cynllun cymhelliant teyrngarwch tenantiaid ymhellach i leihau ôl-ddyledion rhent a diogelu buddsoddiad tai y Cyngor. Dywedodd y Prif Swyddog fod hyn yn cael ei ystyried. O ran adnoddau, rhoddodd ddiweddariad byr ar swyddi gwag uwch reolwyr ac ailstrwythuro'r tîm. Mewn ymateb i gwestiwn pellach, cytunodd y Rheolwr Refeniw i ddarparu gwybodaeth am gyfanswm colli incwm rhent o'r 30 dadfeddiant am beidio â thalu rhent yn ystod 2018/19.

 

Wrth ganmol ymdrechion y tîm, croesawodd y Cynghorydd Shotton gyflwyno meddalwedd tai a fyddai’n helpu i fonitro patrymau talu a nodi achosion risg posibl.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin at daliadau a reolir mewn ôl-ddyledion ac awgrymodd y gellid gofyn i denantiaid newydd dalu o leiaf hanner y swm sy'n ddyledus fel cyfraniad cychwynnol. Nodwyd bod rhai landlordiaid yn gwrthod taliadau a reolir a bod angen i aelwydydd flaenoriaethu biliau eraill.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Lloyd am y rhent cyfartalog a delir gan denantiaid y Cyngor o'i gymharu ag eraill, ac a oedd y wybodaeth am fandiau ôl-ddyledion rhent yn berthnasol i denantiaid newydd neu denantiaid presennol. Dywedodd y Rheolwr Refeniw ei fod yn gyfuniad o'r ddau a bod y Tîm Ymyrraeth Tai yn canolbwyntio'n bennaf ar ôl-ddyledion lefel isel trwy ymgysylltu'n gynnar â thenantiaid.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Shotton ac eiliwyd gan y Cynghorydd Dolphin.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn o £1.87m ar gyfer ôl-ddyledion rhent yn 2018-19 sy'n dangos bod casglu rhent yn dechrau sefydlogi; a

(b)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r mesurau parhaus sy'n cael eu cymryd i wella casglu rhenti yn ystod 2019-20.

Dogfennau ategol: