Agenda item
YMARFER PWERAU DIRPRWYEDIG
Pwrpas: Darpau manylion y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig.
Cofnodion:
Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Dyma oedd y camau a gymerwyd:
Addysg ac Ieuenctid
- Rhaglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop - TRAC 11-24. Cefnogi pobl ifanc 11-24 sy'n ymddieithrio o fyd addysg, ac sydd yn wynebu'r mwyaf o risg o beidio bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
Pwrpas y cyllid a ddarperir drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, a elwir yn TRAC 11-24, yw cefnogi datblygiad gweithlu ystwyth a gwydn a chanddo'r sgiliau priodol. Mae hyn yn gyson â gofynion y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. Bydd y rhaglen yn darparu cymorth penodol wedi'i gynllunio'n arbennig i bobl ifanc sydd mewn perygl o beidio bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), oherwydd heriau a allai achosi iddynt ymddieithrio o ddarpariaeth addysg brif ffrwd. Mae'r adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i Gyngor Sir y Fflint dderbyn y cyllid grant hwn fel bo modd cynnig darpariaeth wedi'i chynllunio'n arbennig i ddysgwyr sy'n agored i niwed, er mwyn iddynt allu derbyn y gefnogaeth angenrheidiol i barhau mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, a gwella eu cyfleoedd bywyd.
Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth
- Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffordd Neuadd Brychdyn, Brychdyn) (Traffig Un Ffordd) 20-
Hysbysu'r Aelodau am sylwadau a gafwyd yn gwrthwynebu'r hysbyseb ynghylch y Gorchymyn Rheoli Traffig Un Ffordd ar Ffordd Neuadd Brychdyn, Brychdyn.
- Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffordd Carmel, Pentref Gorsedd a Phant y Waco a ffyrdd cyfagos) (Terfyn Cyflymder 30mya) 201x
Hysbysu'r Aelodau am sylw a gafwyd yn gwrthwynebu'r terfyn cyflymder 30mya arfaethedig ar Ffordd Carmel, Pentref Gorsedd a Phant y Waco.
- Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffordd Cymau, Abermorddu) (Terfyn Cyflymder 30mya a 40mya) 201x
Hysbysu'r Aelodau am sylw a gafwyd yn gwrthwynebu'r hysbyseb ynghylch y terfynau cyflymder 30mya a 40mya arfaethedig ar Ffordd Cymau, Abermorddu.
- Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffordd Ddienw, Lonydd Dienw Amrywiol a Threm y Foel, Rhes y Cae, Treffynnon) (Terfyn Cyflymder 30mya) 201x
Hysbysu'r Aelodau am wrthwynebiad a gafwyd ar ôl hysbysebu'r terfyn cyflymder arfaethedig o 30mya ar ffyrdd dienw, lonydd dienw a Threm y Foel, Rhes y Cae, Treffynnon.
- Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Ffordd yr Orsaf, Sandycroft) (Terfyn Cyflymder 40mya) 201x
Hysbysu'r Aelodau am wrthwynebiad a gafwyd ar ôl hysbysebu'r Terfyn Cyflymder 40mya ar Ffordd yr Orsaf, Sandycroft.
- Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint (Yr A5026 a'r A5151 ac Ystâd y Goron, Lloc, Treffynnon) (Terfyn Cyflymder 50mya) 201-
Hysbysu'r aelodau am wrthwynebiad a gafwyd ar ôl hysbysebu'r Terfyn Cyflymder 50mya arfaethedig ar yr A5026 a'r A5151 ac ar Ystâd y Goron, Lloc.
Tai ac Asedau
- Gordaliad Budd-dal Tai - Dileu Dyled
Adroddodd y cwsmer fod ei hamgylchiadau wedi newid yn 2014, ddwywaith mewn ysgrifen ac unwaith dros y ffôn. Ni chafodd y swm o fudd-dal tai ei ddiwygio i adlewyrchu'r newid hyd 2019. Gan mai gwall ar ran yr Awdurdod Lleol a arweiniodd at y gordaliad, a chan na fyddai disgwyl yn rhesymol i'r cwsmer wybod am y gordaliad, mae'r gordaliad yn anadferadwy yn unol â'r Rheoliadau Budd-dal Tai.
Llywodraethu
- Gwasanaethau Darparydd Datrysiadau Trwyddedu Microsoft
Dyma gontract ar gyfer cyflenwr i ddarparu Trwyddedau Microsoft, gan gynnwys cyngor ac arweiniad er mwyn sicrhau bod gan yr Awdurdod y trwyddedau cywir, a'r trwyddedau gorau. Caffaelwyd y darparydd gwreiddiol drwy fini-gystadleuaeth drwy lot 2 o Gytundeb Fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer Cynnyrch a Gwasanaethau TGCh. 3 blynedd oedd hyd y contract gwreiddiol. Ym mis Mawrth 2019, bydd angen i Sir y Fflint lofnodi contract 3 blynedd newydd gyda Microsoft, a fydd yn galluogi'r Cyngor i barhau i ddefnyddio cynnyrch Microsoft. Os nad yw'r Cyngor yn llofnodi ym mis Mawrth, bydd y trwyddedau yn costio £70,000 yn ychwanegol dros gyfnod o dair blynedd.
Dogfennau ategol: