Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwyr

Pwrpas:  Ystyried Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwyr ar gyfer Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol 2018/19

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad am Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ar gyfer 2018/19. Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd mai pwrpas Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd nodi’r daith tuag at welliant a gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth ddarparu gwasanaethau i bobl sydd yn hybu eu lles ac yn eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol.

 

   Atodwyd yr adroddiad i Adroddiad Blynyddol drafft y Gwasanaeth Cymdeithasol 2018/19, gyda’r bwriad o roi darlun gonest o wasanaethau yn Sir y Fflint i’r cyhoedd, y rheoleiddiwr a budd-ddeiliaid ehangach, a dangos dealltwriaeth glir o’r cryfderau a’r heriau a wynebir. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r adroddiad yn ffurfio rhan bwysig o werthusiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGGCC) o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint. Roedd y gwerthusiad hefyd yn hysbysu asesiad Swyddfa Archwilio Cymru o Gyngor Sir y Fflint fel rhan o’r adroddiad gwella blynyddol. 

 

Eglurodd y Prif Swyddog y paratowyd yr Adroddiad Blynyddol yn dilyn adolygiad trylwyr o berfformiad presennol gan Uwch Dîm Rheoli Gwasanaethau Cymdeithasol, Rheolwr Gwasanaeth a Swyddogion Perfformiad.  Roedd y blaenoriaethau gwella o fewn yr adroddiad yn alinio â'r blaenoriaethau sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Busnes y Portffolio, Cynllun Gwella’r Cyngor a chynlluniau effeithlonrwydd cysylltiedig.  Fe soniodd y Prif Swyddog am y blaenoriaethau gwella a nodwyd ar gyfer 2019/20, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad.

 

Diolchodd y Cynghorydd David Healey i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith ac am adroddiad cynhwysfawr. Fe soniodd am yr argyfwng ym maes gofal iechyd parhaus mewn rhai ardaloedd o’r Deyrnas Unedig a’r risg i ddarpariaeth gwasanaethau gofal yn y sector preifat oherwydd diffyg cyllid. Gofynnodd a oedd yr Awdurdod hefyd mewn perygl a pha gefnogaeth oedd yn cael ei ddarparu i gynorthwyo pobl i aros yn annibynnol a pharhau i fyw yn eu cartrefi ac yn benodol, cleifion oedd yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty.  Fe awgrymodd y dylid edrych ar y meini prawf i fod yn gymwys am ofal yn y cartref i alluogi rhagor o bobl i dderbyn cefnogaeth gan ddarparwyr gofal er mwyn gwneud addasiadau i’w cartrefi.  Diolchodd y Prif Swyddog i’r Cynghorydd Healey am ei sylwadau cadarnhaol ac wrth ymateb i’w gwestiynau dywedodd fod y risg i wasanaethau gofal sy’n cael eu darparu yn y sector ehangach oherwydd diffyg cyllid yn real i’r Awdurdod ac yn genedlaethol. Fe soniodd am yr achos diweddar o lobïo gan y Prif Weithredwr a’r Aelodau i Lywodraeth Cymru  i ofyn am ragor o gyllid ar gyfer gwasanaethau  allweddol i awdurdodau lleol gan ddweud nad oedd y cyllid presennol yn gynaliadwy.    

 

Wrth grynhoi, rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd yngl?n â darpariaeth gwasanaethau gofal cymdeithasol yn Sir y Fflint. Ymatebodd yr Uwch-reolwr, Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion i gwestiwn gan y Cynghorydd Healey yngl?n â chefnogaeth i helpu pobl aros yn annibynnol a pharhau i fyw gartref a chyfeiriodd at ail-alluogi pan fydd pobl yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty, ailgylchu cymhorthion a chyfarpar i gynorthwyo ag annibyniaeth, a grantiau cyfleusterau i'r anabl.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi gofyn bod eitem ar y gyllideb gofal iechyd barhaus yn cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a fydd yn cael ei gynnal ar 18 Gorffennaf, a dywedodd y byddai’r ymgynghoriad yn cael ei anfon i’r Pwyllgor cyn y cyfarfod er gwybodaeth.

 

Siaradodd y Cynghorydd Martin White am yr angen am wasanaethau gofal a chefnogaeth a’r gwaith ataliol a allai gael ei gyflawni gyda chyllid digonol. Siaradodd hefyd i gefnogi’r gwasanaethau gofal ardderchog sy’n cael eu darparu yn Sir y Fflint a soniodd am safon uchel y gofal a’r cyfleusterau y mae rhai aelodau o’i deulu wedi’u profi.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Wisinger pa gefnogaeth oedd ar gael i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Roedd y Prif Swyddog yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Wisinger yngl?n â’r angen i bobl chwilio am gefnogaeth ar frys y tu allan i oriau swyddfa. Rhoddodd sicrwydd bod yr Awdurdod yn gwneud y cyfan y gallai i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl a chyfeiriodd at y gwasanaethau a’r mentrau yn y dyfodol a fyddai’n cael eu cefnogi. Dywedodd y gellir cael trafodaeth bellach ym prosiect gweddnewid Gwasanaeth Iechyd Meddwl Gogledd Cymru. Rhoddodd yr Uwch-Reolwr, Diogelu a Chomisiynu ragor o wybodaeth am y Gwasanaeth a’r rhaglen. Gofynnodd y Cadeirydd pa gysylltiadau oedd gan yr Awdurdod gyda’r Samariaid.    Cytunwyd y byddai’r Uwch-reolwr, Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion yn gwneud ymholiadau i benderfynu a oes gan yr Awdurdod gysylltiadau ffurfiol rhwng ei wasanaethau iechyd meddwl a’r Samariaid ac a oedd yn darparu unrhyw gyllid.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey yn ymwneud â lleoliadau y tu allan i’r sir ar gyfer pobl ifanc, dywedodd y Prif Swyddog bod cyfleusterau gofal preswyl bychan newydd yn cael eu datblygu yn ardal Glannau Dyfrdwy, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda sefydliad gwirfoddol profiadol. Fe soniodd y Prif Swyddog am brosiect Mockingbird hefyd sydd yn darparu lleoliadau maethu arbenigol i bobl ifanc sydd ag ymddygiad heriol.  Aeth y Prif Swyddog ymlaen i ddweud bod yna nifer o wasanaethau a mentrau sy’n cael eu defnyddio i gefnogi pobl ifanc. Cyfeiriodd hefyd at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) a dywedodd er bod y rhestr aros ar gyfer CAMHS wedi lleihau, roedd rhestrau aros am wasanaethau eraill wedi cynyddu.

 

Fe soniodd y Cynghorydd Cindy Hinds am seibrfwlio. Dywedodd y Prif Swyddog fod yna fenter yn ymwneud â seibrfwlio o fewn Bwrdd Rhanbarthol Diogelu Plant ac fe soniodd am y gwaith y mae'r Bwrdd Iechyd ac asiantaethau eraill ac awdurdodau lleol yn ei wneud i drechu camdriniaeth trwy gyfryngau cymdeithasol. Fe soniodd yr Uwch-reolwr, Diogelu a Chomisiynu am ddiogelu a’r angen i fod yn ymwybodol o arwyddion cynnar a siaradodd am waith pellach i’w wneud yn y maes yma er mwyn amddiffyn pobl ifanc a phobl ddiamddiffyn.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol drafft y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ategol: