Agenda item

Cofnodion

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 20 Rhagfyr 2018 a 31 Ionawr 2019.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2018 a 31Ionawr 2019.

 

20 Rhagfyr 2018

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at yr ail argymhelliad fel y dangosir ar dudalen 7 y cofnodion a gofynnodd a oedd gweithdy ar waith atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion wedi’i drefnu. Cadarnhaodd yr Hwylusydd fod y gweithdy hwn wedi’i drefnu ar gyfer 12 Ebrill am 10.00am. Roedd gwahoddiad ar ffurf e-bost wedi’i anfon at yr holl Aelodau ac fe gytunwyd i ail gylchredeg hyn i’r Cynghorydd Heesom.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at ei sylwadau ar dudalen 7 y cofnodion a gofynnodd am gynnwys y canlynol ar ddiwedd y trydydd paragraff:-

 

 ‘sydd yn ffurf ar Gynllun Ariannu Preifat a daeth astudiaeth fanwl, a gynhaliwyd gan Swyddfa Archwilio Genedlaethol y Deyrnas Unedig i’r casgliad bod y model menter cyllid preifat wedi bod yn ddrytach ac yn llai effeithlon wrth ddarparu ysbytai, ysgolion ac isadeiledd cyhoeddus eraill nag arian cyhoeddus. Bellach dim ond 10% o wahaniaeth oedd o ran cost i'r Awdurdod o gyllid cyfalaf yn erbyn Model Buddsoddi Cydfuddiannol, ac anogodd na ddylid ystyried y Model hwn.’ Yn flaenorol, roedd 50% o wahaniaeth ond yn yr adroddiad ym mhwynt 3.10 roedd wedi newid i 35% ac felly dim ond 10% o wahaniaeth oedd yn bod erbyn hyn a dyma’r rheswm pam y gofynnodd am y diwygiad hwn. Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Mackie ac roedd o’r farn y dylid cofnodi ei bwynt ond gwahoddodd yr Aelod Cabinet a’r Prif Swyddog i ddiweddaru’r Pwyllgor ar y mater.

 

Darparodd yr Aelod Cabinet Addysg y wybodaeth ddiweddaraf am y Model Buddsoddi Cydfuddiannol a dderbyniwyd gan CLlLC ac esboniodd y byddai 81% o’r gost yn cael ei thalu gan Lywodraeth Cymru a 19% gan Awdurdodau Lleol ar y Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ian Smith a oedd unrhyw wybodaeth am y cyfraddau llog a godir mewn perthynas â benthyca’r Cyngor.Mewn ymateb, eglurodd y Prif Swyddog bod y sefyllfa yn newid yn gyson gydag ansicrwydd gan Lywodraeth Cymru ar y manylion mewn perthynas â’r llwybr Model Buddsoddi Cydfuddiannol ar gyfer cyllid ynghyd â Band B a Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif.

 

Cynigodd y Cynghorydd Dave Mackie, yn amodol ar y diwygiadau uchod, y dylid cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Geoff Collett..

 

31 Ionawr 2019

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2019.

 

Materion yn Codi

Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 12 y cofnodion a gofynnodd am y wybodaeth ddiweddaraf ar y cyfraniad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Chostau Pensiynau Ysgol.Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod y costau wedi’u talu gan y Llywodraeth Ganolog, roedd 85% wedi’i drosglwyddo i Lywodraeth Cymru a fydd yn darparu’r 15% arall. Cadarnhawyd y byddai'r ysgolion yn derbyn y swm llawn o’r cynnydd pensiynau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ond roedd ansicrwydd o ran y dyfodol. Dywedodd y Cadeirydd fod hyn yn newyddion da a'i fod yn gobeithio y bydd modd ariannu bargeinion tâl yn genedlaethol.

 

Ar dudalen 16, dywedodd y Cynghorydd Heesom ei fod wedi mynegi diddordeb mewn bod yn aelod o’r Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion ond nid oedd unrhyw un wedi cysylltu ag ef yn dilyn y cyfarfod. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog bod cyfres o gyfarfodydd wrthi’n cael eu cwblhau ac y byddai diweddariad ar gael yn fuan.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiadau uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ategol: