Agenda item

Swyddogaeth a phroses Oedi wrth Drosglwyddo Gofal o leoliad ysbyty

Pwrpas:        Diweddaru aelodau mewn cysylltiad â pherfformiad Sir y Fflint o ran oedi wrth drosglwyddo gofal.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad ar rôl a swyddogaeth y broses Oedi Wrth Drosglwyddo Gofal, strwythur gwaith cymdeithasol yn yr ysbyty a’i gydweithrediad â chydweithwyr Iechyd.  Roedd oedi wrth drosglwyddo gofal yn digwydd pan fo claf yn barod i gael ei ryddhau o’r ysbyty i leoliad arall tu hwnt i’r dyddiad y cytunwyd gan y clinigydd arweiniol.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi amrywiaeth o weithgareddau i leihau oedi o ran rhyddhau o’r ysbyty a oedd yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y gwasanaeth. Er bod cynnydd bychan wedi bod yn niferoedd oedi wrth drosglwyddo gofal ers y llynedd ar gyfer pobl dros 75 mlwydd oed, roedd perfformiad Sir y Fflint yn dda ar draws cynghorau Gogledd Cymru. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod dadansoddiad o gategorïau oedi wrth drosglwyddo gofal ar gael ar gais.

 

Darparodd yr Uwch Reolwr, Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion fanylion am y cyfrifiad misol yn cynnwys casglu data gan dri ysbyty aciwt lleol a fyddai’n cynnwys data o Ysbyty Iarlles Caer o fis Ebrill.  Roedd y cynnydd bychan i ffigyrau oedi wrth drosglwyddo gofal eleni o ganlyniad i’r nifer cynyddol o atgyfeiriadau a’r materion cymhleth cysylltiedig.

 

Cyflwynwyd yr Aelodau i'r Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cyswllt Cyntaf ac Ardal Leol (Janet Bellis) a eglurodd fod y mwyafrif a oedd yn mynd i’r ysbyty bellach yn oedrannus gyda llawer iawn o gyflyrau iechyd a rhwydwaith cymorth teulu a oedd yn lleihau. Roedd y timau Gwaith Cymdeithasol ar draws y tri ysbyty yn cael eu cylchdroi yn ôl galw uchel, fodd bynnag roedd y tri ysbyty yn aml ar rybudd coch. Roedd y protocol rhyddhau o’r ysbyty yn cynnwys dull amlasiantaeth i gwrdd â disgwyliadau pobl i aros gartref am gyn hired â phosib.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y codau oedi wrth drosglwyddo gofal a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad a gofynnodd am ddadansoddiad o’r rhesymau dros y 44 achos o oedi wrth drosglwyddo unigolion yn ystod y flwyddyn bresennol.    Esboniodd y Swyddogion, ymhlith yr holl godau oedi wrth drosglwyddo gofal, bod y mwyafrif yn ymwneud â’r rheiny yng nghategori 2, ‘trefniadau gofal yn y gymuned’, er enghraifft, problemau yn ymwneud â thai neu ofal yn y cartref, trefniadau lleoliadau gofal preswyl ac ati. Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y Pwyllgor wedi derbyn diweddariad ar addasiadau Grant Cyfleusterau i’r Anabl ers peth amser.  Dywedodd y Swyddogion fod lleoliadau ‘camu i lawr’ yn cael eu darparu pan fo oedi wrth drosglwyddo wedi digwydd achos bod unigolyn yn aros am addasiadau o’r fath. 

 

Canmolodd y Cynghorydd Mackie wybodaeth y swyddogion ar y mater. Dywedodd bod y ffigyrau a adroddwyd gan Ystadegau Cymru yn dangos bod y rhan fwyaf o achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn ymwneud â phroblemau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ac y dylid tynnu sylw at ymagwedd ragweithiol y Cyngor. Awgrymodd y dylid cynnwys eitem ar weithgareddau a oedd o gymorth i gadw unigolion o’r ysbyty ar y rhaglen yn y dyfodol. 

 

Mewn ymateb i bryderon gan y Cynghorydd McGuill am heriau rhyddhau o’r ysbyty drwy’r Gronfa Gofal Canolraddol, esboniodd y swyddogion rôl y timau gwaith cymdeithasol yn yr ysbyty i hwyluso rhyddhad o’r ysbyty nes bod yr unigolyn yn ddiogel mewn man arall. Lle'r oedd angen gofal pellach, roedd yr unigolyn yn cael ei gefnogi gan weithiwr cymdeithasol yn y gymuned.  Ar hyn o bryd, roedd timau gwaith cymdeithasol yr ysbyty ond ar gael yn ystod oriau swyddfa, yn unol â gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol eraill, er roedd gwasanaeth y tu allan i oriau yn cael ei ddarparu gan y timau Cyswllt Rhyddhau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hinds at yr anhawster o ran cael cwmni gofal preifat i ddarparu dau ofalwr wedi i glaf gael ei ryddhau o’r ysbyty. Roedd y Rheolwr Gwasanaeth yn ymwybodol o sawl pecyn gofal ar y cyd a oedd yn cael eu rhedeg yn llwyddiannus. Aeth ymlaen i rannu manylion am brosiect yn cynnwys Therapyddion Galwedigaethol i sefydlu a fyddai modd darparu lefel briodol o ofal i unigolyn gan ofalwr unigol gyda chymorth offer arbenigol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Bateman bryderon am y broses o drosglwyddo claf i’r Therapydd Galwedigaethol Cymunedol cyn ei ryddhau o’r ysbyty. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth fod cyfarfodydd cynllunio yn cael eu cynnal yn yr ysbyty gyda’r claf a’i deulu cyn iddo gael ei ryddhau, er mwyn trafod y broses o drosglwyddo i therapi parhaus. Cytunodd i fynd ar drywydd achos penodol gyda’r Cynghorydd Bateman y tu allan i’r cyfarfod.

 

Siaradodd y Cynghorydd Peers o blaid awgrym y Cynghorydd Mackie am adroddiad yn y dyfodol a dywedodd y byddai siart yn dangos llif a throsglwyddiadau cleifion drwy gydol y broses yn ddefnyddiol. Siaradodd yr Uwch Reolwr am yr angen i asesu fesul achos yn ôl anghenion pob unigolyn. Yn dilyn sylwadau am y nod i ryddhau unigolion o’r ysbyty a’u hanfon yn ôl i’w cartrefi, esboniodd y swyddogion fod hyn yn galluogi iddynt wneud penderfyniadau pwysig mewn amgylchedd cyfarwydd yn hytrach na mewn ysbyty.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at drefniadau gyda phartneriaid o fewn Iechyd i sicrhau bod y system yn gweithio’n effeithiol ac effeithlon i leihau nifer y bobl sy’n cael eu heffeithio gan oedi wrth drosglwyddo gofal. Hwyluswyd hyn, nid yn unig drwy argaeledd lleoliadau 'camu i lawr’ ond  drwy ddatblygiad Marleyfield hefyd a fyddai’n darparu cefnogaeth bellach.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Aelodau yn ymwybodol o broses Oedi Wrth Drosglwyddo Gofal a sut gaiff hynny ei fonitro a’i reoli bob mis.

Dogfennau ategol: