Agenda item
Ymateb Cyngor Sir y Fflint i Bapur Gwyn Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd, Dydd Mawrth, 26ain Chwefror, 2019 10.00 am (Eitem 51.)
- Cefndir eitem 51.
Pwrpas: Derbyn sylwadau’r Pwyllgor Craffu ar Bapur Gwyn “Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus” Llywodraeth Cymru.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad ar Bapur Gwyn Cludiant Llywodraeth Cymru (LlC) ‘Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus’. Dywedodd fod LlC wedi cyflwyno Papur Gwyn i ymgynghori arno ym mis Rhagfyr 2018, ar gynlluniau i wella cludiant cyhoeddus yng Nghymru. Pwrpas yr ymgynghoriad oedd ceisio barn ar gynigion deddfwriaethol LlC ar gyfer ad-drefnu'r broses o gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru, ynghyd â thrwyddedu tacsis a cherbydau preifat eraill. Y dyddiad cau i ymateb i’r ymgynghoriad oedd 27 Mawrth 2019.
Dywedodd y Prif Swyddog bod 10 cynnig o fewn y Papur Gwyn a oedd wedi’u crynhoi yn yr adroddiad. Eglurodd fod cynigion 1 i 6 yn ymwneud â chludiant cyhoeddus a gwahoddodd y Rheolwr Uned Cludiant Integredig a Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio i adrodd ar bob cynnig a'r ymatebion arfaethedig cyffredinol. Roedd cynigion 7 i 10 yn cyfeirio'n benodol at drwyddedu tacsis ac roedd ymateb y Cyngor wedi'i drafod gan y Pwyllgor Trwyddedu. Roedd yr ymateb arfaethedig i’r cwestiynau a oedd yn ymwneud â’r cynigion hyn i’w gweld yn atodiad 1 i’r adroddiad.
Mynegodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bryderon ynghylch y diffyg eglurder o ran cynnig 1 yn yr adroddiad a'r aelodaeth o Awdurdod Cludiant ar y Cyd a threfniadau ariannu. Eglurodd ei bod wedi codi’r materion hyn gyda LlC ac roedd wedi cael gwybod y gallai papur manylach ddod yn fuan. Dywedodd hefyd nad oedd y Papur Gwyn yn crybwyll sut y byddai Trafnidiaeth Cymru’n cyd-fynd â hyn.Ychwanegodd fod yr Awdurdod ar hyn o bryd yn darparu cyllid LlC ar ran awdurdodau eraill Gogledd Cymru, e.e. tocynnau bws a’r grant cynnal gwasanaethau bysiau. Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas hefyd at y cynllun lliwiau newydd y byddai Sir y Fflint yn ei roi ar fysiau a chytunodd y Prif Swyddog i anfon gwybodaeth am hyn at aelodau’r Pwyllgor.
Dywedodd y Cynghorydd Joe Johnson ei fod yn gwrthwynebu’r cynnig i gynyddu'r oed i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun tocynnau teithio rhatach gorfodol er mwyn iddo gyd-fynd ag oed pensiwn merched. Dywedodd y dylai tocynnau bysiau barhau i fod ar gael o 60 oed ymlaen a soniodd am yr angen i leihau’r ôl-troed carbon. Teimlai y gallai’r newidiadau arfaethedig gael effaith negyddol.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y byddai pobl dan 65 oed a oedd eisoes wedi derbyn tocyn bysiau am ddim yn parhau i fod yn gymwys i'w ddefnyddio.
Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at ymatebion awgrymedig yr Awdurdod i Bapur Gwyn LlC ar gludiant, a oedd ynghlwm â'r adroddiad. Gan sôn am gwestiynau 18 a 19 a oedd ill dau wedi'u hateb ag 'Ydw/Ydym', dywedodd nad oedd hyn yn ateb y cwestiynau. Cefnogodd y Cynghorydd Evans y farn y dylai'r oedran i docynnau bws rhatach barhau'n 60. Roedd yn teimlo y gallai tocynnau teithio rhatach gynnal gwasanaethau bysiau mewn sawl achos, gan awgrymu y gallai newidiadau wneud llwybrau'n anymarferol yn y dyfodol. Cyfeiriodd hefyd at yr ôl-troed carbon a dywedodd nad oedd rhaid i bobl a oedd yn defnyddio gwasanaeth bysiau ddefnyddio eu ceir a chyfeiriodd hefyd at fanteision cymdeithasol trwy gwrdd â phobl eraill, mynd am dro a chael mynediad at weithgareddau cymdeithasol a gwasanaethau iechyd a lles. Ymbiliodd ar y Cyngor i ddiwygio’r Ymateb i’r Ymgynghoriad ynghlwm â thocynnau bysiau rhatach i barhau fel ag y maent.
Soniodd y Cynghorydd David Evans am nifer y tocynnau bysiau a oedd yn cael eu rhoi ond nad oeddent yn cael eu defnyddio ac, wrth gyfeirio at y broses ailymgeisio, dywedodd fod angen sicrhau bod pobl a oedd yn cael tocynnau bysiau newydd yn eu defnyddio.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin bod tocynnau bysiau’n boblogaidd ond yn ddrud. Pwysleisiodd pa mor bwysig oedd dibynadwyedd ac amserlenni cyfredol a dywedodd fod angen sicrhau bod gwasanaethau bysiau’n cael eu trefnu fel bod gan ddefnyddwyr y gwasanaeth ddigon o amser i ymweld â chanol trefi a threulio o leiaf 2 awr yno, a fyddai’n cynyddu nifer y cwsmeriaid ac yn hwb i fusnesau lleol yr ardal.
Cydnabu'r Cynghorydd Thomas bod mwy o waith i’w wneud mewn perthynas ag amserlenni bysiau, a oedd yn parhau'n her o ran yr adnoddau yr oedd eu hangen i sicrhau bod newidiadau i wasanaethau ac amserlenni, ac ati, yn gyfredol.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gyllideb ar gyfer trefniadau teithio lleol, dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod cyllideb o tua £500,000 ar gyfer cludiant cyhoeddus yn Sir y Fflint. Cyfanswm o £1 miliwn ar gyfer y sir gyfan, gan gynnwys tua £500,000 gan LlC.
Cefnogodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin yr angen am gadw oedran y tocyn bysiau rhatach yn 60 a chyfeiriodd at iechyd a lles pobl, gan ddweud eu bod angen ymweld â meddygfeydd ac ysbytai, fel enghraifft. Ychwanegodd y gallai codi oedran y tocynnau bysiau gael effaith negyddol ar gyllidebau gofal cymdeithasol ac iechyd yn y dyfodol.
Croesawodd y Cynghorydd Dunbobbin yr awgrym y gallai Cynghorau weithredu gwasanaethau a gofynnodd a fyddai hyn yn plethu â chynlluniau cludiant cymunedol, trefniadau cludiant ysgol, ac ati.
Roedd y Cynghorydd Carolyn Thomas yn cydnabod bod angen cynnal gwasanaethau cludiant a pha mor bwysig oedd gallu cael cludiant ar gyfer anghenion iechyd a lles.
Mynegodd y Cynghorydd Ray Hughes bryder ynghylch cludiant cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig a dywedodd fod posib' i bobl fod yn unig pe na allent ddefnyddio bysiau. Pwysleisiodd mor bwysig oedd sicrhau bod gwybodaeth amserlenni'n gyfredol a'r angen i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’i gilydd gan sôn am enghraifft lle’r oedd newid diweddar i wasanaeth wedi arwain at orfod aros am 45 munud am gysylltiad â’r gwasanaeth nesaf.
Diolchodd y Cynghorydd Kevin Hughes i'r swyddogion am eu gwaith. Ategodd farn y Cynghorydd David Evans nad oedd pawb a oedd yn gwneud cais am docyn bysiau rhatach yn ei ddefnyddio. Dywedodd y dylai tocynnau bysiau gael eu rhoi i’r rhai a oedd eu hangen ac awgrymodd y gellid cyflwyno math o brawf modd i sicrhau system sy'n fwy seiliedig ar angen.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) at y sefyllfa bresennol ynghlwm â chynigion LlC ar drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat eraill fel mae’r adroddiad yn eu nodi. Dywedodd fod y Pwyllgor Trwyddedu wedi trafod ymateb y Cyngor ac roedd yr ymatebion arfaethedig i'r cynigion wedi'u hatodi i'r adroddiad.
Soniodd y Cynghorydd Jane Johnson am y rheoliadau yn Sir y Fflint lle na ellid ond darparu trwyddedau cerbydau hacni i gabiau duon, ond mewn rhannau eraill o Ogledd Cymru, roedd modd cael trwydded ar gyfer ceir sal?n a bysiau mini arferol. Dywedodd fod hyn yn broblem gan fod cabiau duon yn hynod ddrud.
Eglurodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu bod yr Awdurdod wedi’i enwebu fel awdurdod cam cyntaf ynghlwm â Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd i sicrhau bod pob cerbyd hacni'n hygyrch ac roedd y Cyngor wedi mabwysiadu cabiau duon. Cadarnhaodd nad oedd ond 2 drwydded cerbydau hacni wedi’u cofrestru yn Sir y Fflint.
Ychwanegodd y Cynghorydd Johnson bod hyn yn dangos nad oedd y system bresennol yn gweithio, gydag ond 2 dacsi ar gael yn Sir y Fflint gyfan i bobl eu stopio ar y stryd, gan na all cerbydau hurio preifat ond derbyn archebion ymlaen llaw.Erfyniodd y Cynghorydd Johnson ar y Cyngor i ystyried hyn ymhellach.
Awgrymodd y Cynghorydd Kevin Hughes y dylid gosod camerâu mewn tacsis i warchod y gyrrwr a chwsmeriaid. Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) bod defnyddio camerâu teledu cylch caeedig a safonau ar eu cyfer mewn cerbydau, fel roedd Cwestiwn 23, tudalen 30 yn yr adroddiad yn ei nodi, yn cael ei gefnogi.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell y dylid cefnogi cyflwyno safonau cenedlaethol a’u bod o fantais o ran gwarchod y cyhoedd. Dywedodd ei fod yn erbyn canoli a soniodd am bwysigrwydd gwybodaeth leol a rhannu gwybodaeth hanfodol o ran materion gwarchod y cyhoedd.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi Ymgynghoriad LlC; a
(b) Cynnwys sylwadau’r Pwyllgor ynghylch tocynnau bysiau rhatach yn ymateb y Cyngor.
Dogfennau ategol:
- Response to Welsh Government’s Transportation White Paper, eitem 51. PDF 77 KB
- Appendix 1 - Response to Welsh Government’s Transportation White Paper, eitem 51. PDF 112 KB