Agenda item

Llwybrau Peryglus Cyngor Sir y Fflint

Pwrpas:        Hysbysu’r Pwyllgor Craffu ynghylch y meini prawf ar gyfer diffinio llwybr ysgol peryglus a diffinio’r llwybrau peryglus sydd yn y sir.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad ar y meini prawf i ddiffinio llwybr peryglus ysgol a diffinio llwybrau peryglus i'r ysgol o fewn y sir.  Darparodd wybodaeth gefndir a gwahoddodd y Rheolwr Cludiant i gyflwyno’r adroddiad.

 

                        Trafododd y Rheolwr Cludiant y prif ystyriaethau, fel maent wedi’u nodi yn yr adroddiad, a dywedodd fod dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i asesu anghenion teithio dysgwyr a oedd yn cerdded i ac o'r ysgol. Roedd Polisi Cludiant y Cyngor, a oedd ynghlwm â’r adroddiad, yn dweud y byddai cludiant i'r ysgol yn cael ei ddarparu am ddim i'r safle addysg cymwys, agosaf dan yr amgylchiadau canlynol:

 

  • bod y plentyn yn byw mwy na 2 filltir (i ddisgyblion cynradd) a 3 milltir (i ddisgyblion uwchradd) o’r ysgol briodol agosaf atynt; neu

 

  • bod y llwybr yn cael ei ystyried yn 'beryglus'

 

                        Eglurodd y Rheolwr Cludiant, yn unol â Darpariaeth Statudol Teithio gan Ddysgwyr, na ellir ond diffinio llwybr fel un ‘derbyniol’ (h.y. nad yw'n beryglus) os oedd y meini prawf fel maent wedi’u nodi yn adran 1.02 yn yr adroddiad yn cael eu bodloni.  

 

Pwysleisiodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) na fyddai’r polisi llwybrau peryglus ond yn berthnasol i’r ysgol agosaf. Eglurodd na fyddai cludiant yn cael ei gynnig am ddim os nad oedd i’r ysgol agosaf.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Haydn Batman a oedd cyflwr y ffordd yn cael ei ystyried.  Cadarnhaodd y Rheolwr Cludiant y byddai asesiad yn ystyried cyflwr llwybrau cerdded ac wyneb ffyrdd.

 

Mynegodd y Cynghorydd Dave Hughes ei siomedigaeth nad oedd y llwybr o Lanfynydd i Abermorddu wedi’i restru.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin at ffordd yn Llaneurgain ac awgrymwyd y dylid codi materion penodol ynghylch llwybrau gyda swyddogion y tu allan i'r cyfarfod.

 

Roedd y Pwyllgor yn teimlo y byddai'n fwy priodol oedi cyn hysbysebu'r llwybrau ar wefan y Cyngor nes bod y llwybrau roedd aelodau'n pryderu yn eu cylch wedi'u hadolygu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Marion Bateman at y rhestr o lwybrau peryglus a gofynnodd a oedd cynlluniau i wella rhywfaint ohonynt ac, felly, eu tynnu oddi ar y rhestr yn y dyfodol. Eglurodd y Rheolwr Cludiant bod y llwybrau’n cael eu hadolygu'n gyson a bod cyfle bob blwyddyn i wneud cais am gyllid ar gyfer cynlluniau a allai arwain at wneud gwaith gwella a thynnu rhai llwybrau oddi ar y rhestr fel rhai peryglus.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bateman a ellid darparu'r sgôr i lwybrau peryglus.  Gofynnodd hefyd a ellid darparu gwybodaeth i ysgolion o ran eu sefyllfa nhw mewn perthynas â llwybrau peryglus.Dywedodd y Rheolwr Cludiant bod matrics ar gael a gellid ei anfon at aelodau’r Pwyllgor.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Chris Bithell nad oedd y polisi ond yn berthnasol i’r ysgol agosaf ac roedd angen gweithredu’r rheolau’n llym i osgoi costau ychwanegol.Dywedodd fod rhai achosion lle nad oedd rhieni am i’r llwybr gael ei wneud yn ddiogel gan y byddai hyn yn golygu na fyddai cludiant i'r ysgol ar gael am ddim. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi dyletswydd statudol y Cyngor i asesu anghenion teithio disgyblion ysgol dan Ganllawiau Teithio gan Ddysgwyr a’r broses a ddefnyddir i ddiffinio Llwybrau Peryglus i’r Ysgol; a

 

 (b)      Nodi’r rhestr gyfredol o Lwybrau Peryglus i’r Ysgol.

 

 

Dogfennau ategol: