Agenda item
Hunanwerthusiad o Wasanaethau Addysg Llywodraeth Leol
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid, Dydd Llun, 20fed Mai, 2019 2.30 pm (Eitem 6.)
- Cefndir eitem 6.
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar berfformiad gwasanaeth gan gynnwys Canlyniadau Dysgwr ar gyfer 2018.
Cofnodion:
Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y Cyngor yn cynnal hunanwerthusiad blynyddol gan fesur ei hun yn erbyn gofynion fframwaith arolygu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol a gyhoeddir gan Estyn. Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r hunanwerthusiad hwnnw ac yn amlygu cryfderau allweddol a'r rhesymau dros ddatblygu o fewn y ddarpariaeth gwasanaethau addysg bresennol.
Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad a chyfeiriodd at yr ystyriaethau allweddol. Eglurodd y cyflwynwyd y fframwaith newydd ar gyfer arolygu gwasanaethau addysg awdurdodau lleol yn 2018 yn dilyn cyfnod peilot ac roedd yn canolbwyntio ar ddeilliannau, ansawdd gwasanaethau addysg, arweinyddiaeth a rheolaeth. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai Gwasanaethau Addysg pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cael eu harolygu erbyn 2022 ac y byddai 10 wythnos o rybudd yn cael ei roi cyn arolygiad.Roedd yr Awdurdod wedi cael gwybod y byddai’n cael ei arolygu gan d?m o Estyn ac Arolygwyr SAC rhwng 3-7 Mehefin 2019. Byddai ymweliad rhagarweiniol dros ddeuddydd yn digwydd ar 22 a 23 Mai. Eglurodd y Prif Swyddog mai’r adroddiad hunanwerthuso a gynhyrchir gan yr Awdurdod fydd y ddogfen allweddol a ddefnyddir gan yr arolygwyr i hysbysu eu trywydd ymholi a'u dyfarniadau yn ystod yr ymweliad, wedi'i gefnogi gan ddadansoddiad o amrywiaeth o ddata ac ymweliadau gydag uwch swyddogion a rhanddeiliaid allweddol. Tynnodd y Prif Swyddog sylw at y pum cwestiwn lleol a nodir yn yr adroddiad ac y creffir arnynt yn ychwanegol at y fframwaith arolygu cyffredinol.
I gloi dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r adroddiad ar Wasanaethau Addysg Sir y Fflint yn cael ei gyhoeddi ar 9 Awst 2019. Crybwyllodd y safonau uchel y mae ysgolion Sir y Fflint yn eu cyrraedd gan ddweud fod deilliannau dysgwyr ymhell dros y cyfartaledd cenedlaethol ac yn rhai o'r gorau yn y rhanbarth.
Llongyfarchodd y Cynghorydd Kevin Hughes y Prif Swyddog a'i thîm a’r ysgolion am eu hymroddiad i barhau i wella safonau addysgol. Talodd deyrnged hefyd i’r gwaith rhagorol y mae Claire Sinnot, Ymgynghorydd Dysgu, Iechyd a Lles yn ei wneud i sicrhau bod pobl ifanc yn cael ei diogelu, ac er bod yr Awdurdod yn gweithio’n adeiladol gyda rhieni mae’n her os gwrthodir mynediad i swyddogion i aelwydydd lle caiff plant eu haddysgu yn y cartref. Dywedodd y Prif Swyddog bod adolygiad o bolisi cenedlaethol yn y maes hwn ar y gweill ar hyn o bryd.
Mewn ymateb i sylwadau Mr David Hytch am yr effeithiau a’r heriau sy’n wynebu ysgolion oherwydd diffyg cyllid, eglurodd y Prif Swyddog bod buddsoddiad mewn addysg wedi parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor er gwaethaf cyni cyllidol parhaus, fodd bynnag ni fyddai’n caniatáu i lefelau cyllido gwael ddylanwadu ar safon gwasanaethau addysgol gan gyfeirio eto at y safonau uchel a'r perfformiad da a gyflawnwyd gan ysgolion Sir y Fflint yn wyneb adnoddau cyfyngedig.
Llongyfarchodd y Pwyllgor y Prif Swyddog am adroddiad cynhwysfawr ac am ehangder a gwerth y gwasanaeth a ddarperir. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n trosglwyddo sylwadau’r Pwyllgor i’w Th?m.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi cynnwys yr hunanwerthusiad; a
(b) Bod y Pwyllgor yn llongyfarch yr adran am natur gynhwysfawr yr adroddiad ac am ehangder a gwerth y gwasanaeth a ddarperir.
Dogfennau ategol:
- Self-Evaluation of Education Services, eitem 6. PDF 149 KB
- Appendix 1 - Estyn Framework for the Inspection of Local Government Education Services 2018, eitem 6. PDF 580 KB
- Appendix 2 - Self-Evaluation Report 2019, eitem 6. PDF 1 MB