Agenda item

Welsh Government Consultation: Improving Public Transport

Dylai’r Aelodau ystyried yr ymateb drafft i gwestiynau 22 i 38 yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru – Gwella Cludiant Cyhoeddus, sy’n ymwneud â thacsis a cherbydau hurio preifat.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru:Adroddiad Gwella Cludiant Cyhoeddus a oedd yn gofyn am ystyriaeth yr ymateb drafft i gwestiynau 22 hyd at 38 yr ymgynghoriad.

 

Paratôdd Llywodraeth Cymru (LlC) Bapur Gwyn, gyda’r teitl ‘Gwella Cludiant Cyhoeddus’ sy’n gosod newidiadau i sut y dylai gludiant cyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethau tacsi eu darparu yn y dyfodol.

 

Pwrpas yr ymgynghoriad oedd ceisio barn ar gynigion deddfwriaethol LlC ar gyfer ad-drefnu'r broses o gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru, ynghyd â thrwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat eraill.  Bwriad y cynigion oedd:

 

·         Darparu hyblygrwydd i ymateb yn well i anghenion cludiant cyhoeddus lleol; a

·         Sicrhau cysondeb a chydlyniant i ddarpariaeth y gwasanaeth bws, gyd ffordd llawer mwy modern o weithio i drwyddedu tacsis/cerbydau preifat.

Nododd LlC bod eu dewis a ffefrir yn cynnwys gweithredu'r pedwar cynnig canlynol, a elwir hefyd yn 'Dewis A'.

 

·         Cynnig 1: Safoni safonau tacsis a cherbydau hurio preifat rhwng y dau ddeg dau awdurdod lleol yng Nghymru;

·         Cynnig 2: Yr anallu i gymryd camau gorfodiyn erbyn cerbydau sy’n gweithredu ‘tu allan i’r ardal’;

·         Cynnig 3: Anawsterau rhannu gwybodaeth berthnasol o ran diogelu; a

·         Cynnig 4: Y dylid cyfeirio swyddogaethau trwyddedu presennol tacsis a cherbydau hurio preifat dau ddeg dau awdurdod lleol Cymru i un awdurdod trwyddeducenedlaethol. Byddai'r awdurdod cenedlaethol yn gyd-awdurdod cludiant.

 

Mae LlC wedi cynnig 'Dewis B’ hefyd i’w ystyried, a fyddai’n cynnwys gweithredu cynigion 1-3 uchod, heb gynnig 4. 

 

Cynnig 1 – Roedd cwestiynau 22-27 yr ymgynghoriad yn cyfeirio at gyflwyniad safonau cenedlaethol.Roedd y Cyngor yn cytuno y byddai gosod safonau cenedlaethol o fudd i’r drefn drwyddedu bresennol, ac roedd yr ymateb yn adlewyrchu’r farn honno.

 

Cynnig 2: Roedd cwestiynau 28-30 yn cyfeirio at orfodi, a’r cynnig i ganiatáu awdurdod trwyddedu i gymryd camau gorfodi yn erbyn cerbyd gweithredol yn ei ardal.Roedd y Cyngor yn cytuno y byddant yn croesawu’r p?er i atal cerbyd dros dro rhag gweithredu yn ei ardal pan roedd yn achosi bygythiad uniongyrchol i ddiogelwch y cyhoedd, ond mai'r awdurdod cartref y dylai cymryd unrhyw gamau pellach. Drwy wneud hyn, byddai’r Cyngor yn tynnu’r risg uniongyrchol hwnnw i'r cyhoedd ac yn adrodd y mater yn ôl i'r awdurdod cartref.

 

Cynnig 3: Roedd cwestiynau 31 a 32 yn cyfeirio at rannu gwybodaeth er pwrpas diogelu, yr oedd y Cyngor o’r farn oedd yn hollbwysig.

 

Cynnig 4: Roedd cwestiynau 33-38 yn cyfeirio at gynnig LlC i arallgyfeirio pob swyddogaeth tacsi o awdurdodau lleol ac i awdurdod trwyddedu cenedlaethol.Nid oedd y Cyngor yn cytuno â’r cynnig.Nid oedd tystiolaeth i gefnogi’r angen i arallgyfeirio’r swyddogaeth o’r awdurdodau lleol, ac nid oedd manylion yn y Papur Gwyn o esbonio sut fyddai’r cyd-awdurdod cludiant yn mynd i’r afael â'r swyddogaeth drwyddedu. 

 

Cynigodd y Cynghorydd White ei sylwadau bod LlC yn nodi problemau gyda’r drefn bresennol, megis safonau anghyson ar draws awdurdodau lleol. Esboniodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu bod safonau Sir y Fflint yn uchel ac yn gadarn.

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Chris Dolphin, dywedodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu na fyddai costau i’r mater o ddiogelu, yn hytrach roedd yn berthnasol i beidio cael y gallu i rannu gwybodaeth ar draws awdurdodau lleol gwahanol a chael mecanwaith yn ei le i alluogi i hynny ddigwydd.

 

Croesawodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a dywedodd bod yr ymatebion a amlinellwyd yn synnwyr cyffredin y byddai'n gobeithio y bydd LlC yn gwrando arnynt.

 

Roedd Aelodau’n cefnogi’r ymateb drafft i gwestiynau 22-38 yr ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cefnogi’r ymateb drafft i gwestiynau 22-38 yr ymgynghoriad; a

 

 (b)      Nad oedd gan Aelodau unrhyw beth pellach yr hoffant ei ychwanegu i’r ymateb drafft.

Dogfennau ategol: