Agenda item

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20

I dderbyn diweddariad ar lafar ar y gwaith sy’n cael ei wneud yn dilyn y Cyngor Sir ar 29 Ionawr ac i gynghori ar osod y gyllideb yn y Cyngor Sir ar 19 Chwefror (gan nodi’r holl weithdai Aelodau sydd i’w cynnal ar ôl cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol).

Cofnodion:

Darparodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol ddiweddariad ar y gwaith a wnaed mewn ymateb i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 29 Ionawr yn dilyn y penderfyniad i ohirio’r broses o bennu’r gyllideb ar gyfer 2019/20.  Byddai adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 19 Chwefror yn gofyn am ateb ar y gyllideb i’w ail-argymell i’r Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw a chyn y penderfyniad ffurfiol i bennu’r Dreth Gyngor ar 28 Chwefror a fyddai’n dilyn.

 

Roedd pob Aelod wedi derbyn gwahoddiad i fynychu cyfarfod briffio yn syth ar ôl y cyfarfod er mwyn i swyddogion adrodd yn ôl ar eu canfyddiadau a chyflwyno nodyn briffio ar y prif faterion a godwyd:

·      Ffyrdd amgen o ddefnyddio derbyniadau cyfalaf i leihau’r cyfrif Darpariaeth Isafswm Refeniw (MRP);

·      Y rhesymeg dros ddiogelu’r lefel o gronfeydd wrth gefn ar £5.8 miliwn (amcanestyniad diwedd y flwyddyn);

·      Adolygiad o gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi na ddisgwylir iddynt gael eu defnyddio yn 2019/20;

·      Agweddau technegol arbed arian drwy aildrefnu benthyciadau;

·      Y defnydd o lif arian dros ben ar gyfer y gyllideb.

 

Yn dilyn y briffio, byddai’r holl wybodaeth yn cael ei hanfon drwy e-bost at bob Aelod er mwyn cynorthwyo’r drafodaeth ar 19 Chwefror.  Roedd y Cynghorydd Richard Jones wedi’i friffio ar wahân ar y materion a godwyd ganddo, am na allai fynychu’r cyfarfod.

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr bwysigrwydd cyngor technegol amrywiol, y dylid ei ddilyn, a barn broffesiynol ar risg, y dylid ei dilyn, ac y dylid darparu’r cyngor a’r farn hon er mwyn galluogi’r Aelodau i wneud penderfyniad ar y gyllideb.  Dywedodd bod yr amserlen yn hollbwysig, nid yn unig er mwyn cyflawni’r gofynion statudol i bennu cyllideb gytbwys ond hefyd er mwyn caniatáu proses megis cyflwyno gofynion y Dreth Gyngor a gweithredu newidiadau i’r cyfnodau rhandaliadau.

 

Wrth groesawu’r wybodaeth a roddwyd gan Swyddog A151, mynegodd y Cynghorydd Heesom ei bryderon bod arweinyddiaeth y Cyngor wedi creu cyllideb ddiffygiol, er gwaethaf y canllawiau deddfwriaethol, ac na fyddai’r argymhelliad i ddatrys y gyllideb drwy gynyddu’r Dreth Gyngor yn cael ei gymeradwyo gan y mwyafrif o Aelodau.  Cyfeiriodd at restr o ‘opsiynau’ a rannwyd gan swyddogion y Cyngor Sir ac, oherwydd y diffyg opsiynau i leihau’r gyllideb, dywedodd bod yn rhaid i’r arweinwyr edrych ar wariant unwaith eto er mwyn nodi cyllideb gyfreithiol gytbwys.

 

Eglurodd y Cynghorydd Aaron Shotton nad oedd y gyllideb wedi’i phennu eto ac mai cyfrifoldeb y corff o Aelodau etholedig oedd gwneud hynny.  Dywedodd nad oedd pennu ‘cyllideb ddiffygiol’ yn ddatganiad o ffaith oherwydd ni fyddai’n cyflawni dyletswydd statudol y Cyngor.  Argymhellion y swyddogion a’r swyddogion statudol yw’r rhain a dywedodd mai ei gynnig ef yng nghyfarfod y Cyngor Sir ym mis Ionawr oedd cydnabod yr angen i gynyddu’r Dreth Gyngor pe na roddwyd unrhyw gymorth pellach gan Lywodraeth Cymru.  Yn y cyfarfod hwnnw, roedd yr Aelodau wedi cytuno i ohirio’r eitem hyd nes y byddai dirprwyaeth drawsbleidiol wedi cwrdd â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru i geisio Setliad Llywodraeth Leol gwell ar gyfer 2019/20.  Canlyniad yr ymweliad hwnnw oedd nad oedd Llywodraeth Cymru’n bwriadu cynnig unrhyw setliad gwell a phwysleisiwyd pryderon yngl?n â’r sefyllfa ar gyfer 2020/21.  Byddai’r cyfarfod briffio a gynhelir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw yn cynorthwyo’r Aelodau i ystyried yr unig opsiynau sy’n weddill - a’r risgiau cysylltiedig - yn seiliedig ar gyngor technegol gan swyddogion.  Aeth y Cynghorydd Shotton ymlaen i gyfeirio at y cynnydd i’r Dreth Gyngor a gynigiwyd gan gynghorau eraill yng Nghymru, mewn ymateb i’r hinsawdd ariannol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y wybodaeth a fyddai’n cael ei rhannu yn y cyfarfod briffio yn ganlyniad gwaith technegol helaeth a oedd yn ymgorffori barn broffesiynol swyddogion, Swyddfa Archwilio Cymau a chynghorwyr Rheoli’r Trysorlys.  Mewn ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Heesom, nid oedd y rhestr a ddarparwyd yn flaenorol yn cynnwys yr opsiynau a argymhellir ond ei bod yn dangos y gwasanaethau dewisol y gallai Aelodau eu hail-adolygu a’u hail-ystyried (yn dilyn asesiadau craffu a risg blaenorol) ar gyfer y dyfodol.  Ni allai’r Cyngor bennu cyllideb ddiffygiol na gohirio cyllideb gytbwys yn rhesymol ar ôl mis Chwefror, fel yr adlewyrchwyd yn argymhellion Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ar y broses o bennu’r gyllideb, a fabwysiadwyd yn ffurfiol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf.  Roedd yr argymhellion hynny’n cydnabod (i) yr angen i gael dyddiad cau priodol (a oedd wedi mynd heibio) ac na fyddai’n ymarferol i swyddogion ymateb i geisiadau Aelodau am wybodaeth ar ôl y dyddiad hwn, (ii) yr angen i aros am gyngor swyddogion proffesiynol a (iii) y dylai’r wybodaeth fod yn destun asesiad risg.

 

Fel Swyddog Adran 151, esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod cyllideb ddiffygiol yn bodoli pan fydd Cyngor wedi cytuno ar wariant sy’n uwch na’r gyllideb, ac nid oedd hyn yn arfer cyfreithiol.  Nid yw hyn yn wir yn yr achos hwn oherwydd nid yw’r Cyngor wedi cymeradwyo’r gyllideb eto a byddai’r adroddiad ar gyfer 19 Chwefror yn nodi ffyrdd y gellir cydbwyso’r gyllideb yn gyfreithiol.

 

Er bod y Cynghorydd Heesom yn cytuno nad oedd y gyllideb wedi’i phennu eto, dywedodd bod toriadau i wariant yn parhau i fod yn broblem wirioneddol oherwydd roedd y cynnydd arfaethedig i’r Dreth Gyngor yn annerbyniol.  Dywedodd bod cwestiwn o atebolrwydd o ran sefyllfa’r bwlch yn y gyllideb.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Shotton mai cyfrifoldeb y Cyngor llawn oedd pennu’r gyllideb, yn dilyn argymhelliad gan y Cabinet, yn seiliedig ar ystyriaeth fanwl gan bob un o’r chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu a oedd wedi derbyn yn gyffredinol nad oedd unrhyw arbedion maint pellach i gydbwyso’r gyllideb, heb i hynny gael effaith andwyol ar wasanaethau.  Dywedodd y byddai’r pwyntiau a godwyd yng nghyfarfod y Cyngor Sir ym mis Ionawr yn cael eu trafod yn y cyfarfod briffio a’i bod yn bwysig i Aelodau gael cyfle i drafod gyda swyddogion proffesiynol.  Dywedodd na fyddai’n bosibl rhoi sylwadau ar ‘gwtogi’r gyllideb heb nodi cynigion penodol o faint digonol.

 

Mewn ymateb i’r pwyntiau a wnaed, dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd y cynnydd i’r Dreth Gyngor yn argymhelliad ond yn anghenraid ar y pwynt hwn – er mwyn cyflawni’r gofyniad o ran y gyllideb – a bod angen i swyddogion gynghori ar sut i gau’r bwlch sy’n weddill yn y gyllideb.  Cafodd yr Aelodau eu hysbysu yn y cam Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro, yn absenoldeb cymorth pellach gan Lywodraeth Cymru, y gallai’r bwlch yn y gyllideb achosi cynnydd o hyd at 15.2% i’r Dreth Gyngor, ffigur a oedd wedi’i leihau yn dilyn Setliad Terfynol gwell.  O ran amserlenni, esboniodd y Prif Weithredwr y risgiau a’r gwaith sy’n gysylltiedig ag asesu cyfreithlondeb a goblygiadau unrhyw opsiynau neu gynigion newydd ar raddfa fawr ar y cam hwyr hwn.  Roedd y broses a’r dyddiadau cau ar gyfer adolygu’r holl opsiynau o ran y gyllideb wedi’u hesbonio’n glir yn ystod pob cam.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r adroddiad yn cael ei nodi.