Agenda item

Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru: Gwella gwasanaethau iechyd i bobl yng Ngogledd Cymru

Pwrpas:        Derbyn cyflwyniad gan Carol Williams, y Dirprwy Brif Swyddog a                 Linda Harper, Chadeirydd Pwyllgor Lleol Sir y Fflint.

 

Cofnodion:

Croesawodd a chyflwynodd y Cadeirydd Carol Williams, Dirprwy Brif Swyddog y Cyngor Iechyd Cymuned, a Linda Harper, Cadeirydd Pwyllgor Lleol Sir y Fflint, i’r cyfarfod. Fe’i gwahoddodd hwy i roi cyflwyniad ar y Cyngor Iechyd Cymuned:Gwella gwasanaethau iechyd i bobl yng Ngogledd Cymru. Pwyntiau allweddol y cyflwyniad oedd:

 

·         Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru

·         beth mae’r Cyngor Iechyd Cymuned yn ei wneud

·         sut mae’r Cyngor Iechyd Cymuned yn gweithio

·         enghreifftiau Sir y Fflint o waith y Cyngor Iechyd Cymuned

·         pwyntiau allweddol y Cyngor Iechyd Cymuned

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Dirprwy Brif Swyddog a Chadeirydd Pwyllgor Lleol Sir y Fflint am eu cyflwyniad a gwahoddodd Aelodau i godi cwestiynau.

 

Aeth y Dirprwy Brif Swyddog ati i godi ymwybyddiaeth yngl?n â’r ymgyrch am sganiau MRi ar gyfer y prostad a dywedodd fod nifer o gleifion wedi gorfod ariannu sganiau eu hunain.Dywedodd fod y Cyngor Iechyd Cymuned wedi gwneud sylwadau a bod costau nawr yn cael eu had-dalu i bobl.Dywedodd fod y Cyngor Iechyd Cymuned yn parhau i gefnogi teuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan ward Tawel Fan. Fe wnaeth y Dirprwy Brif Swyddog sylw ar yr angen i dâl a gaiff ei godi am barcio ceir mewn ysbytai i fod yn rhesymol ac am bwysigrwydd cadw canol trefi yn fywiog.Yn dilyn awgrym gan Gadeirydd y Pwyllgor cytunwyd fod llythyr yn cael ei anfon i Aelodau Cynulliad yng Ngogledd Cymru cyn i’r e-ddeiseb gael ei hystyried gan Lywodraeth Cymru ar 13 Chwefror yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd i sicrhau nad yw sganio am gancr y prostad yn destun loteri côd post yng Nghymru.

Fe wnaeth y Cynghorydd David Healey sylw ar y ddarpariaeth iechyd meddwl yn Sir y Fflint a dywedodd ei bod yn anodd ffurfio barn.Teimlai un ai fod yna fwy o ymwybyddiaeth neu fod yna gynnydd mawr yn y galw am wasanaethau iechyd meddwl. Gofynnodd sut mae'r ddarpariaeth o ran iechyd meddwl yn Sir y Fflint yn cymharu â gwasanaethau iechyd meddwl a gaiff eu darparu gan awdurdodau lleol eraill gan fod rhestrau aros iechyd meddwl ar gyfer gwasanaethau wyneb i wyneb yn bryder.Hefyd cyfeiriodd y Cynghorydd Healey at Parabl a dywedodd ei bod yn ymddangos fod yna amheuaeth a fyddai’r sefydliad hwn yn parhau. 

Cyfeiriodd y Dirprwy Brif Swyddog at y cyfarfod tîm iechyd meddwl ar y cyd a oedd wedi ei gynnal rhwng Cyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a dywedodd fod Parabl yn sefydliad trydydd sector a oedd yn cynnig therapïau siarad i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol.Roedd yn cydnabod fod yna restr aros hir i rai gwasanaethau iechyd meddwl a dywedodd fod hyn yn broblem barhaus.Dywedodd fod Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, yn dilyn trafodaethau rhwng Cadeirydd y Bwrdd Iechyd a'r Cyngor Iechyd Cymuned, wedi cytuno i ddarparu mwy o wybodaeth yn ymwneud â’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl o fewn BIPBC.

Cyfeiriodd Cadeirydd Pwyllgor Lleol Sir y Fflint at y mesurau arbennig a osodwyd ar y Bwrdd Iechyd a dywedodd fod iechyd meddwl yn rheswm a gyfrannai at hynny.Roedd yn cytuno fod “anghyson” fel disgrifiad  yn nhermau darpariaeth iechyd meddwl yn Sir y Fflint yn berthnasol ar lefel gynradd a chymunedol.Dywedodd fod Is Gadeirydd y Cyngor Iechyd Cymuned yn arwain ar Iechyd Meddwl ac roedd yn rhagweld y byddai newyddion mwy cadarnhaol i'w glywed yn y 12 mis nesaf.

Cyfeiriodd y Cynghorydd Kevin Hughes at wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc a rhestrau aros am wasanaethau.Gofynnodd hefyd pa ddylanwad oedd gan y Cyngor Iechyd Cymuned i fynd i’r afael ag amseroedd aros brys mewn ysbytai.

 

Eglurodd y Dirprwy Brif Swyddog fod adrannau brys wedi cymryd rhan mewn ymarfer cenedlaethol y llynedd ac roedd hapwiriadau wedi eu cynnal ar yr holl Adrannau Brys (gan gynnwys Gogledd Cymru). Dywedodd fod y sefyllfa yn achos pryder sylweddol ac na ellid dweud fod materion wedi eu datrys. Dywedodd fod cynrychiolwyr o’r Cyngor Iechyd Cymuned yn cyfarfod yn y dyfodol agos i adolygu’r sefyllfa yng Ngogledd Cymru.Awgrymodd y Dirprwy Brif Swyddog y byddai’r Cyngor Iechyd Cymuned yn awyddus i weithio gyda'r gwasanaethau cymdeithasol ac Aelodau lleol yn y dyfodol i graffu’r adrannau brys.

 

Gan gyfeirio at y sylwadau gan y Cynghorydd Kevin Hughes ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Lleol Sir y Fflint mai’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) oedd y prif sefydliad ond dywedodd nad oedd yn ymddangos fod digon o ddarpariaeth i ddiwallu’r galw.Dywedodd ei bod yn sefyllfa oedd yn faes o bryder cynyddol a bod y Cyngor Iechyd Cymuned yn ceisio cael mwy o wybodaeth ac eglurder yngl?n â sut yr oedd gweithredu’n gweithio.Mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl roedd yn teimlo’n gyffredinol fod yna angen am strategaeth greiddiol oedd yn cynnwys iechyd meddwl yn hytrach na’i roi ochr yn ochr.

Fe wnaeth y Dirprwy Brif Swyddog sylw ar yr oedi difrifol mewn atgyfeiriadau ar gyfer gwasanaethau awtistiaeth a gwasanaethau therapi lleferydd ar draws Gogledd Cymru.Dywedodd y Cyngor Iechyd Cymuned eu bod wedi codi pryderon yn ymwneud â’r oedi mewn atgyfeirio cleifion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gladys Healey mai’r Cyngor Iechyd Cymuned yw “llais y bobl” a bod angen iddo fod yn gryfach.Gofynnodd pam fod yna restr aros hir ar gyfer llawdriniaethau clun a phen-glin.  Hefyd fe wnaeth sylw ar wasanaethau iechyd meddwl a dywedodd fod yna angen am weithio a meddylfryd mwy cydgysylltiedig yn ymwneud â materion iechyd meddwl a chyfeiriodd at y problemau a gaiff eu creu gan dor-priodas, tlodi ayb. Dywedodd fod aros am amser hir am apwyntiad yn achosi straen ac yn gwaethygu problemau iechyd meddwl. 

Roedd y Dirprwy Brif Swyddog yn cydnabod y pwyntiau a wnaed a chynigiodd fynychu cyfarfod y Pwyllgor sydd i'w gynnal ar 18 Gorffennaf, cyfarfod mae cynrychiolwyr o BIPBC a gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi eu gwahodd iddo.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ian Smith a oedd rôl y Cyngor Iechyd Cymuned yn adnabyddus i’r cyhoedd.Ymatebodd y Dirprwy Brif Swyddog fod yna waith pellach i'w wneud bob amser i godi ymwybyddiaeth.Pwysleisiodd mai un o adnoddau mwyaf y Cyngor Iechyd Cymuned oedd gwirfoddolwyr a dywedodd fod gan y Cyngor Iechyd Cymuned gyllideb o £3m i ymdrin â gwariant ar draws Cymru.Soniodd am ddibyniaeth y Cyngor Iechyd Cymuned ar wirfoddolwyr a dywedodd y codir ymwybyddiaeth wrth i’r gair fynd ar led.Fe wnaeth sylw ar y defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol a dywedodd ei bod yn ymddangos fod pobl yn dod o hyd i’r Cyngor Iechyd Cymuned pan oeddent angen gwneud hynny.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn teimlo fod llais y Cyngor Iechyd Cymuned yn gryfach nac yr arferai fod ac roedd yn falch o glywed faint o waith oedd yn cael ei wneud ar ran y preswylwyr.Pwysleisiodd y Dirprwy Brif Swyddog fod y Cyngor Iechyd Cymuned yn cydweithio â BIPBC ond ei fod yn sefydliad annibynnol.

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Marion Bateman am amseroedd aros wedi brysbennu mewn adrannau brys a ph’run ai oedd cleifion yn cael eu dosbarthu yn unol â'u cyflwr tra'n aros wedi brysbennu, cytunodd y Dirprwy Brif Swyddog i ddarparu'r wybodaeth oedd ar gael o ganlyniadau arolwg diweddar.  

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Bateman sylw hefyd ar forâl y staff a mynegodd bryderon am les staff.Yn ystod ymweliad diweddar ag ysbyty, meddai, roedd staff yn gweithio oriau hir ac yn ymddangos fel pe baent o dan straen.Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog fod y mater yn ymwneud â morâl staff wedi ei godi gyda Chadeirydd BIPBC ac y byddai’n rhannu’r ymateb gyda’r Pwyllgor.Dywedodd ei fod wedi rhoi sicrwydd y byddai’n mynd i’r afael â’r mater.

 

Dywedodd y Cynghorydd David Mackie fod y Prif Weithredwr newydd, mewn sesiwn holi ac ateb yn ddiweddar, wedi gwneud sylw ar yr hyn roedd wedi ei ddysgu o’i gefndir fel prif gwnstabl ac y gallai gyflwyno hyn i roi gwybodaeth i wasanaethau fel iechyd meddwl.  

Fe wnaeth y Cynghorydd Dave Mackie sylw ar y rôl gadarnhaol a chwaraewyd gan y Cyngor Iechyd Cymuned i sicrhau fod gwasanaethau mamolaeth llawn yn parhau yng Ngogledd Cymru.O'r ymweliadau yr oedd wedi eu gwneud fel aelod o’r Cyngor Iechyd Cymuned, meddai, y prif fater oedd diffyg staff profiadol a staff wedi eu hyfforddi a holodd a oedd digon o bobl yn cael eu hyfforddi.

Awgrymodd y Cynghorydd David Healey fod cynrychiolwyr o’r Cyngor Iechyd Cymuned yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfod y Pwyllgor sydd i’w gynnal ar 18 Gorffennaf a bod BIPBC yn cael eu hysbysu o'r bwriad i wahodd cynrychiolwyr o'r Cyngor Iechyd Cymuned i'r cyfarfod hefyd.

 

Darllenodd y Cadeirydd gwestiwn ysgrifenedig oedd wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Cindy Hinds yn ymwneud ag asiantaethau gofal preifat.Cytunodd y Cyngor Iechyd Cymuned i ddarparu ymateb ysgrifenedig i’r Cyng Hinds.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Dirprwy Brif Swyddog a Chadeirydd Pwyllgor Lleol Sir y Fflint am eu presenoldeb a'u hymatebion i gwestiynau'r Aelodau.  Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog y byddai'r Cyngor Iechyd Cymuned yn croesawu'r cyfle am fwy o gydweithio yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn y cyflwyniad.

 

Dogfennau ategol:

  • Restricted enclosure