Agenda item

Isafswm Darpariaeth Refeniw 2019/20

Pwrpas:        Cymeradwyo polisi'r Cyngor ar gyfer Darpariaeth Isafswm Refeniw (ad-dalu dyled) ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw 2019/20 gan egluro bod gofyn i awdurdodau lleol neilltuo rhywfaint o’u hadnoddau refeniw bob blwyddyn fel darpariaeth ar gyfer ad-dalu dyled.

 

            Roeddyr adroddiad yn argymell i’r Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw y dylai’r polisi MPR 2019/20 aros yr un fath ag yr oedd yn 2018/19 yn dilyn dau adolygiad gefn wrth gefn.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr y cafodd hyn ei drafod mewn manylder yng nghyfarfod briffio'r holl aelodau'r wythnos flaenorol.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a’i argymell i’r Cyngor Sir ar gyfer dyledion Cronfa’r Cyngor:

 

·         Bod Opsiwn 3 (Dull Bywyd Ased) yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r MRP yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20 ar gyfer balans y gwariant cyfalaf sy'n ddyledus a ariennir o fenthyca fel yr oedd ar 31 Mawrth 2017.  Y cyfrifiad fydd y dull 'blwydd-dal' dros 49 o flynyddoedd.

·         Bod Opsiwn 3 (Dull Bywyd Ased) yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r MRP yn 2019/20 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf a noddir o fenthyca wedi’i gefnogi o 1 Ebrill 2016 ymlaen.  Bydd y cyfrifiad yn seiliedig ar y dull ‘blwydd-dal’ dros nifer priodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o gynhyrchu buddion.

·         Bod Opsiwn 3 (Dull Bywyd Ased) yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r MRP yn 2019/20 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf a noddir o fenthyca heb ei gefnogi (darbodus) neu drefniadau credyd.  Bydd y cyfrifiad yn seiliedig ar y dull ‘blwydd-dal’ dros nifer priodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o gynhyrchu buddion.

 

(b)       Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a’i argymell i’r Cyngor Sir ar gyfer dyledion dyledus y Cyfrif Refeniw Tai (HRA):

·          Opsiwn 2 (Dull Gofyniad Ariannu Capita) yn cael ei  ddefnyddio i gyfrifo MRP yr HRA yn 2019/20 ar gyfer yr holl wariant gyfalaf a ariennir drwy ddyledion

 

(c)        Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir, bod yr MRP ar fenthyciadau gan y Cyngor ar gyfer NEW Homes i ariannu tai fforddiadau drwy'r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) (safon fel gwariant cyfalaf mewn termau cyfrifyddu) fel a ganlyn:

 

·         Dim MRP i’w wneud yn ystod y cyfnod adeiladu (a fydd dros gyfnod byr) gan nad yw’r ased eto mewn defnydd a dim buddion yn dod ohono eto.

Unwaith y mae’r asedau mewn defnydd, bydd NEW Homes yn gwneud ad-daliadau cyfalaf.  Bydd MRP y Cyngor gyfwerth â'r ad-daliadau a wneir gan NEW Homes.  Byddyr ad-daliadau’n a wneir gyfwerth â’r ad-daliadau sy’n cael eu dosbarthu, mewn termau cyfrifeg, fel derbyniadau cyfalaf, y gellir eu defnyddio i ariannu gwariant cyfalaf neu ad-dalu dyledion yn unig. Byddyr ad-daliad/derbyniad cyfalaf yn cael ei neilltuo i ad-dalu dyled, a dyma yw polisi MRP y Cyngor ar gyfer ad-dalu’r benthyciad.

Dogfennau ategol: