Agenda item

CAIS AM DRWYDDED YRRU CERBYD HURIO PREIFAT / CERBYD HACNI (AR Y CYD)

Pwrpas:        Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais am Drwydded Yrru (Ar y Cyd) ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni, sy’n cael ei drwyddedu gan yr Awdurdod. 

 

Eglurodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol, fodd bynnag, nid oedd yr ymgeisydd wedi llenwi’r rhan hon o’r ffurflen gais.  Wedi derbyn cofnodion uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar yr ymgeisydd, gwelwyd euogfarn am guro. Atodwyd manylion yr euogfarn i’r adroddiad Gofynnwyd i’r ymgeisydd ddarparu eglurhad ysgrifenedig o’r euogfarn a hefyd pam y methodd lenwi adran 5 y ffurflen gais. Atodwyd ymateb yr ymgeisydd fel atodiad C i’r adroddiad. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is Bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn cymwys a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi eglurhad llawn am ei euogfarn flaenorol fel y manylwyd arni ar ddatgeliad cofnodion troseddol manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 

 

Cyfeiriodd yr ymgeisydd at ei eglurhad ysgrifenedig oedd yn manylu ar ei euogfarn a rhoddodd wybodaeth gefndir am sut y cyflawnwyd y drosedd. Atebodd y cwestiynau ynghylch pa mor hir roedd wedi byw yn y Deyrnas Unedig, ei amgylchiadau personol a theuluol, a’i gefndir gwaith.

 

Holodd y Cyfreithwyr yr ymgeisydd yn fanwl am ei euogfarn am guro a’i fethiant i ddatgelu hynny ar adran 5 y ffurflen gais. Dywedodd yr ymgeisydd fod arno gywilydd am ei drosedd ond nad oedd yn credu ei fod yn euog ac esboniodd ei fod yn groes i’w gymeriad ac wedi digwydd ar adeg o anghydweld domestig.  Ailadroddodd yr amgylchiadau a oedd wedi arwain at a dywedodd, er gwaetha’r euogfarn, ei fod yn parhau i gael bywyd teuluol sefydlog. Eglurodd yr ymgeisydd ei fod wedi gwneud camgymeriad drwy beidio â rhoi manylion ei euogfarn ar y ffurflen ond roedd o’r farn nad troseddwr mohono.

 

Cyn holi ymhellach gofynnodd y Cyfreithiwr i’r ymgeisydd a oedd yn deall yn llawn y cwestiynau oedd yn cael eu gofyn a thrafodion y gwrandawiad ac a oedd angen gwasanaeth cyfieithydd. Atebodd yr ymgeisydd ei fod yn gallu clywed a deall ac nad oedd angen cymorth gan gyfieithydd.

 

Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd am adran 7 y ffurflen gais a oedd yn gofyn am eirda a gofynnod pam nad oedd wedi rhoi manylion ei gyflogwr diwethaf fel canolwr. Cyfeiriodd y Cyfreithiwr hefyd at adran 4 a oedd yn gofyn am fanylion cyflogaeth a hefyd eglurhad am y rheswm dros adael. Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd mewn manylder am ei gyflogaeth flaenorol a’i reswm dros adael. Esboniodd yr ymgeisydd ei fod wedi cael ei ddiswyddo gan ei gyflogwr diwethaf  a rhoddodd fanylion yr amgylchiadau a arweiniodd at ei ddiswyddiad. Yn y fan hon, darparodd yr ymgeisydd wybodaeth ysgrifenedig a oedd yn rhoi manylion ei euogfarn am ymosodiad ar weithiwr arall a oedd wëid digwydd yn ei weithle. Datgelodd yr ymgeisydd hefyd ei fod wedi bod yn y llys yn ddiweddarach wedi derbyn dirwy a dedfryd ohiriedig, ac wedi cael ei rybuddio, pe bai’n cyflawni trosedd arall, y byddai’n cael dedfryd o garchar. Dosbarthodd yr ymgeisydd lythyr i’r Panel a oedd yn rhoi manylion y drosedd.

 

Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd mewn mwy o fanylder am ei euogfarn ddiweddar am ymosod a’r amgylchiadau a oedd wedi arwain ati. Dywedodd yr ymgeisydd ei fod yn ddieuog o’r cyhuddiad a’i fod ef wedi dioddef ymddygiad ymosodol tuag ato gan weithiwr arall. Dywedodd yr ymgeisydd ei fod wedi ceisio cyngor cyfreithiol ac y byddai’n apelio yn erbyn ei ddedfryd. Esboniodd fod recordiad CCTV o’r digwyddiad a oedd yn dystiolaeth nad oedd wedi cyflawni ymosodiad.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr i’r ymgeisydd a oedd wedi gwneud hawliad am ddiswyddiad annheg gyda thribiwnlys cyflogaeth. Gofynnodd y Cyfreithiwr i’r ymgeisydd hefyd pam iddo ddatgan ar adran 4 ei ffurflen gais mai ei reswm dros adael y gwaith oedd oherwydd yr “oriau anaddas”.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr i’r ymgeisydd ystyried sut byddai’n delio â phroblem ymddygiad heriol a gwrthdrawiadol gan gwsmeriaid yn ei gerbyd pe bai ei gais am drwydded yn llwyddiannus. Dywedodd yr ymgeisydd nad oedd yn berson treisgar neu ymosodol ei natur a bod ganddo fywyd teuluol sefydlog. Dywedodd ei fod wedi cael ei bryfocio yn y ddau achos ond nad oedd yn euog o ymosod.

 

Holodd aelod o’r Panel yr ymgeisydd a oedd unrhyw gysylltiad rhwng yr euogfarn flaenorol am drais domestig a’r euogfarn ddiweddar am ymosod. Mynnodd yr ymgeisydd nad oedd gan ddweud eu bod yn ddigwyddiadau cwbl ar wahân.

 

                        Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod y cwestiynau perthnasol i gyd wedi cael eu codi, gofynnodd i’r ymgeisydd ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra bod y cais yn cael ei benderfynu.    

 

 

3.1       Penderfynu ar y Cais  

 

                        Wrth benderfynu ar y cais, bu’r Is Bwyllgor yn ystyried canllawiau Cyngor Sir y Fflint ar drin euogfarnau, rhybuddiadiau, cyhuddiadau troseddol, neu gosbau eraill a gofnodwyd, a oedd wedi’u hategu at yr adroddiad. Talodd y Panel sylw arbennig at baragraff 4.18 a oedd yn ymwneud â thrais. Roedd y Panel yn bryderus iawn am adroddiadau anghyson yr ymgeisydd am ei euogfarn ddiweddar am ymosod. Roedd y Panel yn pryderu hefyd am ei fod wedi methu â datgelu ei euogfarn gynharach am guro ar adran 5 ei gis, a’i fethiant i ddatgelu ei fod wedi cael ei ddiswyddo o’i waith ar adran 4 y ffurflen fel y rheswm dros adael ei waith.

 

 

 

 

                        Roedd y Panel yn ymwybodol o’r ddyletswydd bennaf i warchod y cyhoedd, a daethant i’r farn, rhwng popeth, y byddai gwarchod y cyhoedd yn cael ei danseilio pe rhoddid trwydded i’r ymgeisydd.

 

                        Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd i ddod yn ôl fel bod y cyfarfod yn gallu ailddechrau.

 

3.2       Penderfyniad

           

                        Dywedodd y Cadeirydd wrth yr ymgeisydd fod yr Is Bwyllgor wedi ystyried yn ofalus yr holl sylwadau a wnaed, yn cynnwys yr hanesion am ei droseddau a’r wybodaeth ychwanegol a roddwyd yn y cyfarfod ynghylch euogfarn ddiweddar arall am drosedd dreisgar (a arweiniodd hefyd at gael ei ddiswyddo o swydd flaenorol oherwydd bod y drosedd wedi digwydd yn y gweithle yn ystod amser gwaith yn erbyn cyn gydweithiwr) nad oedd yr Is Bwyllgor yn gwybod amdani cyn y gwrandawiad hwn. Roedd y Panel yn bryderus iawn am esboniad yr ymgeisydd am ei euogfarnau yn cynnwys, er y nodwyd fod yr ymgeisydd yn bwriadu apelio i Lys y Goron yn erbyn yr euogfarn arbennig honno, yr euogfarn ddiweddar iawn a gafodd yn ystod wythnos y gwrandawiad hwn. Dywedodd y Cadeirydd mai prif ddyletswydd y panel oedd gwarchod y cyhoedd a gyda hynny mewn golwg, ei fod wedi dod i’r casgliad nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded yrru (ar y cyd) cerbyd hurio/hacni preifat ac felly fod y cais yn cael ei wrthod.

 

                        Esboniodd y Cadeirydd wrth yr ymgeisydd fod ganddo hawl i wneud cais newydd ar unrhyw adeg ac y byddai hyn yn arbennig o berthnasol pe bai unrhyw newid sylweddol yn ei amgylchiadau megis apêl lwyddiannus am euogfarn. Fodd bynnag, nid oedd hynny’n awgrymu y byddai unrhyw gais dilynol yn llwyddiannus (neu’n aflwyddiannus), dim ond y byddai’n cael ei ystyried eto gan yr Is-Bwyllgor. Dywedodd y Cadeirydd wrth yr ymgeisydd fod ganddo 21 diwrnod i apelio yn erbyn y penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y cais yn cael ei wrthod gan nad ystyrid fod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru (Ar y Cyd) ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat/Hacni o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.  

 

(Dechreuodd y gwrandawiad am 2.00 pm a daeth i ben am 3.30 pm)