Agenda item

Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) 2019/20, Naratif a Chrynodeb Cynllun Busnes HRA, Cynllun Busnes Ariannol 30 blynedd HRA

Pwrpas:        I ystyried Cynllun Busnes a Chyllideb arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad yn ystyried cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar gyfer 2019/20, naratif a chrynodeb Cynllun Busnes HRA a Chynllun Busnes ariannol 30 blynedd HRA.

 

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad a oedd yn cynnwys y canlynol:

 

·         Cyflawniadau HRA 2018/19

·         Rhaglen adeiladu tai y cyngor

·         Cynllun busnes 30 mlynedd

·         Cyllideb 2019/20

o   Incwm

o   Taliadau gwasanaeth 2019/20

o   Cynigion effeithlonrwydd HRA a’r defnydd o gyllid untro

o   Penderfyniadau buddsoddi HRA arfaethedig a phwysau o ran cost

·         Rhaglen gyfalaf y HRA 2019/20

·         Gweithgarwch HRA yn y dyfodol

 

Ymysg nifer o gyflawniadau allweddol oedd perfformiad y Cyngor ar brentisiaethau a safonau gwasanaethu nwy a gefnogwyd drwy Safon Ansawdd Tai Cymru a Rhaglen Adfywio a Thai Strategol.  Bydd darparu’r olaf yn cael ei wella ymhellach os llwydda’r Cyngor i ddenu cyllid grant Llywodraeth Cymru tuag at gynllun rhandai fforddiadwy yn Garden City.

 

Eglurodd y Cyfrifydd y rhagdybiaethau allweddol ar gyfer 2019/20 yn cynnwys cynnydd arfaethedig o £1 yr wythnos ar gyfer rhenti garejys a £0.20 yr wythnos ar gyfer rhenti plotiau garejys.  Ni chynigwyd newidiadau ar gyfer taliadau gwasanaeth tra'r oedd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gyflawni.  Rhoddwyd eglurhad dros y newidiadau i gyllid HRA ers y flwyddyn flaenorol a phenderfyniadau buddsoddi HRA arfaethedig a phwysau costau sy’n arwain at gyfraniad rhagamcanol o £0.158 miliwn i’r cronfeydd wrth gefn.

 

Darparodd Rheolwr Tîm Rhaglen Gyfalaf wybodaeth ar y mathau o waith o fewn Rhaglen Gyfalaf HRA lle'r oedd canolbwynt ar Safon Ansawdd Tai Cymru yn newid er mwyn cynnwys gwaith amgylcheddol.

 

Canmolodd y Cadeirydd gyflawniadau’r HRA a groesawyd gan y tenantiaid.

 

Cafodd hyn ei adleisio gan y Cynghorydd Shotton a ofynnodd i Aelodau dderbyn diweddariad ar Safon Ansawdd Tai Cymru.  Cytunodd y Prif Swyddog y bydd y rhaglen ar sail ardal yn cael ei rannu, unwaith y caiff ei ddiweddaru.  Ar gais i Aelodau gyfarfod â swyddogion Tai, awgrymodd y Cynghorydd Attridge y dylid trefnu sesiwn galw heibio ar ôl i’r adolygiad ddod i ben.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dolphin, darparodd y Prif Swyddog fanylion ar yr adolygiad o’r garejys.  Cytunodd i ddosbarthu ymateb ar y nifer o Brentisiaethau a benodwyd i swyddi llawn amser ac ymchwilio i adroddiadau am fan y Cyngor sydd wedi’i barcio yng Ngharmel.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorwyr Dolphin a Hardcastle, amlinellodd Rheolwr Tîm Gwaith Cyfalaf y dosbarthiadau amrywiol ar gyfer ‘methiannau derbyniol’ yn Safon Ansawdd Tai Cymru, a dywedodd bod gwiriadau’n cael eu cyflawni i asesu cyflwr yr eiddo hynny.  Mae’r ymarfer o wiriadau cyn asesu yn helpu i ganfod unrhyw gyflyrau meddygol sydd gan y tenant, fel y gellid cydlynu gwaith yn y ffordd fwyaf priodol.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Reece, cadarnhawyd bod eiddo brics soled wedi'u cynnwys yn y rhaglen waith allanol.

 

Canmolodd y Cynghorydd Davies y gwaith a gyflawnwyd yn Melrose Court.  Pan ofynnwyd am ganlyniad yr adolygiad garejys, gofynnodd y Cynghorydd Attridge i swyddogion rannu’r rhaglen waith gydag Aelodau.

 

O ran Safon Ansawdd Tai Cymru, gofynnodd y Cynghorydd Palmer sawl eiddo oedd wedi bodloni’r Safon a sawl un oedd ar ôl i’w gwblhau cyn 2020. Dywedodd y Rheolwr Tîm bod holl waith uwchraddio cydrannau wedi eu cwblhau mewn oddeutu 1,200 eiddo, a disgwylir i'r gweddill gael eu cwblhau erbyn y dyddiad cau.  Cytunodd y byddai’n rhannu’r ffigyrau a oedd yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn flynyddol.

 

Wrth groesawu’r gwaith ar y safleoedd garej, dywedodd y Cynghorydd Hughes bod hyn wedi arwain ar broblemau parcio mewn rhai ardaloedd.  Pan ofynnwyd am osod cyrbau is tu allan i eiddo, dywedodd y Cynghorydd Attridge bod preswylwyr preifat yn gallu trefnu eu contractwr eu hunain, yn amodol eu bod yn bodloni’r meini prawf sydd ar gael drwy Oruchwylwyr Strydwedd.

 

O ran y rhaglen SHARP, dywedodd y Cynghorydd Attridge bod safleoedd posibl eraill yn cael eu harchwilio ar gyfer datblygu, yn cynnwys Bwcle.  Anogodd y Prif Swyddog i Aelodau ddod ymlaen gydag unrhyw awgrymiadau am safleoedd addas.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi cyllideb y cyfrif refeniw tai a’r cynllun busnes ar gyfer 2019/20, fel y nodir yn yr adroddiad;

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd arfaethedig mewn rhent o hyd at 2.4% (a hyd at £2);

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnydd o £1 yr wythnos mewn rhenti garejys a chynnydd o £0.20 yr wythnos mewn rhenti plotiau garejys; a

 

 (d)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Rhaglen Gyfalaf Cyfrif Refeniw Tai arfaethedig ar gyfer 2019/20 fel y nodwyd yn Atodiad C.

Dogfennau ategol: