Agenda item

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 - Arolygon Diweddar a Phroses ar gyfer Cam 3 Gosod Cyllideb (Llafar/Cyflwyniad)

Pwrpas:        (1) darparu arolygon cyllidebol diweddar ar gyfer 2019/20 yn dilyn cyhoeddiadau diweddar gan Llywodraeth Cymru a (2) nodi proses awgrymedig ar gyfer Cam 3 gan arwain at osod cyllideb gyfartal ar ddechrau 2019. (Nodwch fod disgwyl i Setliad Terfynol y llywodraeth leol gael ei gyhoeddi ar 19 Rhagfyr).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr eitem i adolygu sefyllfa gyfredol y gyllideb ar gyfer 2019/20 yn dilyn cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru a’r adroddiad i’r Cyngor Sir ar 11 Rhagfyr 2018, a chyn Setliad Terfynol Llywodraeth Leol ar 19 Rhagfyr.  Wrth ddynesu at Gam 3 y broses, roedd cyfle i'r Pwyllgor ddwyn ymlaen unrhyw opsiynau pellach i helpu i bontio’r bwlch cyllidol oedd ar ôl ar gyfer 2019/20 i'w argymell yn y Cabinet a chyn i’r Cyngor Sir gymeradwyo’r gyllideb derfynol ym mis Ionawr 2019. Ar ôl cytuno ar ddatrysiadau cyllidol Camau 1 a 2, doedd dim cynigion ar ôl i'w rhannu ag Aelodau os nad oedd swyddogion yn cael eu comisiynu i wneud hynny gan y Cabinet ar gyngor y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

I gynorthwyo, ail gylchredwyd y sleidiau cyflwyno a'r wybodaeth a rannwyd yng nghyfarfod y Cyngor Sir, yn amlygu’r ymgyrch #BacktheAsk am well Setliad.  Mewn ymateb i geisiadau blaenorol, rhannwyd nodiadau briffio ar arian wrth gefn a balansau, a benthyciadau drwy’r Cyfrif Buddsoddi a Benthyciadau Corfforaethol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at bryderon ymysg Aelodau am y cynnydd posib yn Nhreth y Cyngor, ac amlygodd y Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir a Strydwedd fel dau faes o orwariant parhaus o un flwyddyn i'r llall.  Dywedodd bod problemau penodol yn effeithio gwasanaethau anstatudol oedd wedi cael eu gosod o’r neilltu yn ystod y broses gyllido gan eu bod yn cael eu hystyried yn annerbyniol ar y cam hwn.    Yn absenoldeb unrhyw ddatrysiadau pellach ac ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru ar gyllid canlyniadol, dywedodd bod angen cyngor gan Weinyddiaeth y Cyngor ar adolygu dewisiadau gwasanaeth, cyn y Setliad Terfynol, er mwyn deall goblygiadau a dewisiadau amgen i godiad pellach yn Nhreth y Cyngor.

 

Enwodd y Prif Weithredwr Strydwedd fel un o’r portffolios oedd yn cael ei yrru fwyaf gan effeithlonrwydd, a dyletswydd gofal y Cyngor o ran Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir.  Tra bo rhai gwasanaethau yn statudol, roedd risgiau sefydliadol hefyd ar wasanaethau anstatudol.  Wedi ystyried a chynnal asesiadau risg ar bob dewis diogel oedd ar gael gan Trosolwg a Chraffu a'r Cabinet yn ystod y broses gyllido, dim ond oes oedd sicrwydd ar effaith ar y gyllideb a’r ddarpariaeth yn unol â'r drefn briodol y gellid ystyried unrhyw gynigion newydd ar y cam hwn.  Hyd nes roedd eglurder ar y Setliad Terfynol, yr unig opsiynau sydd ar gael i gyflawni cyllideb gytbwys – ar wahân i Setliad gwell gan Lywodraeth Cymru – oedd cynnydd mewn Treth y Cyngor, a defnydd cyfyngedig o arian wrth gefn a balansau ar gyngor proffesiynol y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn ei gapasiti fel Swyddog Adran 151.

 

Ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod lefel is o risg ariannol nag oedd ar y cam gosod y gyllideb ar gyfer 2018/19, gan bod amcanestyniadau costau wedi eu hadeiladu yn llawn i’r rhagolygon ar gyfer 2019/20 yn seiliedig ar weithgarwch presennol, er gwaethaf pa mor anwadal y galw am wasanaethau.

 

Wedi ymholiad gan y Cadeirydd, rhoddwyd eglurhad ar ad-daliad dyledion hir dymor (y mae rhai yn dyddio yn ôl i gyn awdurdodau) fel yr adlewyrchir yn adroddiadau Rheoli Trysorlys.  Dywedodd y Prif Weithredwr bod ymrwymiadau gwariant ar raglenni cyfalaf yn y dyfodol yn adlewyrchu buddion, gwerth am arian a’r arbedion refeniw er mwyn rhoi sicrwydd i Aelodau.

 

Ar sylwadau'r Cynghorydd Jones, rhannodd y Cynghorydd Shotton bryderon am y penderfyniad posib ar Dreth y Cyngor a fyddai’n aros os na fyddai Llywodraeth Cymru yn newid eu safle.  Roedd datganiadau cadernid ar gyfer yr holl gynigion arbedion effeithlonrwydd ar draws meysydd gwasanaethau wedi eu hystyried gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, oedd oll wedi dod i ganlyniad nad oedd datrysiadau newydd i ddarparu arbedion effeithlonrwydd ar y raddfa angenrheidiol.  Tra roedd rhai mân ddewisiadau wedi eu nodi yn yr adroddiad a gomisiynwyd gan y Cyngor a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (a drafodwyd yng nghyfarfod mis Hydref), y byddai angen datblygu rhai ohonynt dros amser, er enghraifft Cludiant Ôl-16, roedd adroddiad arno i’w ystyried yn fuan gan y Cabinet.  Awgrymodd y Cynghorydd Shotton bod Aelodau yn aros nes clywed y Setliad Terfynol cyn ystyried y camau nesaf gan taw'r unig opsiwn cyfreithiol ar ôl oedd cynnydd yn Nhreth y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones bod angen gwneud cyfrifiad cyn y Setliad Terfynol, fel dewis amgen ymarferol i ddangos goblygiadau dewisiadau anstatudol pellach pe byddai Aelodau yn dewis peidio cefnogi’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor.

 

Siaradodd y Prif Weithredwr am bwysigrwydd caniatáu digon o amser ar gyfer y drefn briodol fel rhan o’r broses gosod y gyllideb, gan gynnwys penderfyniadau democrataidd gan Aelodau wedi derbyn cyngor gan swyddogion.  Yn ogystal â thynnu sylw at ddyletswyddau statudol y Cyngor, rhoddodd enghreifftiau o oblygiadau cost o gyflwyno newidiadau sylweddol i wasanaethau anstatudol.

 

Cytunodd y Prif Weithredwr i gais gan y Cynghorydd Jones am ddadansoddiad mwy manwl ar Gyllid Corfforaethol a Chanolog yn y cyfarfod ym mis Ionawr.

 

PENDERFYNWYD:

 

Mai’r unig feysydd pryder y mae’r Pwyllgor am i’r Cabinet eu hadolygu yw cyllidebau Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a Strydwedd.