Agenda item
Cynllun y Cyngor 2018/19 – Monitro Canol Blwyddyn
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, Dydd Iau, 13eg Rhagfyr, 2018 10.00 am (Eitem 68.)
- Cefndir eitem 68.
Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad cynnydd canol blwyddyn ar berfformiad yn erbyn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar yr ychydig feysydd lle bu tan berfformio. Roedd adroddiad cryno lefel uchel wedi ei ystyried yn y cyfarfod blaenorol cyn cael yr adroddiad llawn hwn.
Wedi cwestiwn gan y Cynghorydd Jones ar y fenter ‘micro-ofal’, rhannwyd gwybodaeth ar gynlluniau i ddatblygu modelau mentrau cymunedol er mwyn cryfhau gwytnwch yn y sector gofal cymdeithasol. Rhoddwyd eglurhad hefyd ar gymorth i leihau tariffau ynni a ddarperir drwy raglen yn seiliedig ar ardal er mwyn targedu ardaloedd penodol o amddifadedd.
Ar y canran o aelwydydd sydd wedi eu hatal yn llwyddiannus rhag dod yn ddigartref, cytunodd swyddogion y byddai’r nifer o achosion yn cael eu dangos yn adroddiadau’r dyfodol er mwyn rhoi'r darlun llawn.
Mewn ymateb i sylwadau ar flaenoriaethau’r Cyngor sy’n Gwasanaethau, cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i gylchredeg gwybodaeth gryno ar oedran a gwerth yr hen ddyled sy’n daladwy i’r Cyngor, yn ogystal ag eglurhad o’r broses. Darparodd ddiweddariad bras hefyd ar ymgysylltu gyda Llywodraeth Cymru er mwyn annog dileu’r cap ar fenthyca i gefnogi Tai Cyngor.
Dywedodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol bod peth data’n absennol ar gyfer dangosyddion perfformiad Addysg oherwydd amseru y flwyddyn academaidd, ac na ellid asesu paratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd hyd nes byddai canllawiau newydd ar gael.
Wrth amlygu'r angen am drafodaeth bellach ar Gynllun y Cyngor, ategodd y Cynghorydd Heesom ei bryderon am feysydd risg ar y flaenoriaeth Cyngor Uchelgeisiol, a'r manteision i'r Sir i gyd. Mewn ymateb i’r sylwadau ar y rhwydwaith trafnidiaeth integredig, dywedodd y Cynghorydd Shotton y dylid cydnabod y llwyddiant o ran diogelu buddsoddiad yn lleol.
Rhoddodd y Prif Weithredwr eglurdeb ar gynnwys yr adroddiad sydd i’w drafod yn y cyfarfod nesaf fel y nodir yn yr argymhellion, er mwyn rheoli disgwyliadau. Atgoffodd bawb o’r gofynion statudol ar gyfer y Cynllun a dywedodd bod gwaith ar Gynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20 i fod i gychwyn yn y Flwyddyn Newydd gyda'r bwriad o fabwysiadu'r cynllun erbyn Mehefin 2019.
Mynegodd y Cynghorydd Johnson ei bryderon am effaith Brexit ar yr economi lleol, yr oedd yn teimlo y dylid ei nodi fel risg strategol. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y daflen gynghorol a gylchredwyd i’r Cyngor Sir ym mis Hydref oedd yn amlinellu amrywio rolau unrhyw gyngor wrth reoli trawsnewid drwy Brexit. Rhoddodd enghreifftiau o waith asesu risg cenedlaethol a rhanbarthol a dywedodd y byddai’n haws deall risgiau rhanbarthol a lleol yn hwyrach yn y broses.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn cymeradwyo:
- lefelau cynnydd a hyder cyffredinol yng nghyflawniad gweithgareddau o fewn Cynllun y Cyngor;
- y perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor;
- y lefelau risg presennol o fewn Cynllun y Cyngor;
(b) Bod y Pwyllgor wedi eu sicrhau gan gynlluniau a chamau gweithredu i reoli'r broses o ddarparu Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19; a
(c) Bod adroddiad pellach yn cael ei dderbyn fis Ionawr gyda darlun o'r cylch cynllunio ar gyfer cynllunio ariannol, busnes a pherfformiad, a gwybodaeth ar yr amrywiaeth o wybodaeth perfformio sydd ar gael lle gall Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu dynnu ohonynt er mwyn adrodd am berfformiad.
Dogfennau ategol:
- Council Plan 2018/19 Mid-year Monitoring Report, eitem 68. PDF 142 KB
- Enc. 1 - Mid year progress report against Council Plan 2018/19, eitem 68. PDF 750 KB