Agenda item

Diweddariad 6 Mis Taliadau Parcio Ceir

Pwrpas:        I gael diweddariad yn dilyn yr adolygiadau o daliadau parcio ceir

 

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) Chris Taylor a Ruth Cartwright oedd wedi bod yn gweithio ar y rhaglenni ar gyfer parcio ceir.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog bod y Strategaeth wedi ei chymeradwyo gan y Cabinet ym mis Mawrth 2017, gyda Strategaeth a Ffioedd newydd yn cael eu cyflwyno ym mis Mai 2018, ac mai adolygiad chwe mis ar ôl ei gyflwyno oedd yr adroddiad hwn.

 

            Soniodd wrth Aelodau am y ddau gyfyngiad yn 1.09 a’r newidiadau o fewn yr adroddiad yn 1.10. Rhestrwyd y ceisiadau am newidiadau gan Gynghorau Tref a Chymuned yn 1.10 ac ym mhwynt 1.11 oedd yr awgrymiadau nad oedd modd eu cyflwyno.  

 

Dangoswyd cais Cyngor Tref Bwcle am gyfnod estynedig o barcio am ddim pe byddai cyngor y dref yn darparu’r costau yn 1.11 (pwynt 9). Yn anffodus doedd hwn ddim yn cyrraedd y cyfyngiadau ond cytunwyd dod a hyn i’r pwyllgor er mwyn iddynt ystyried effaith yr argymhelliad, a allai olygu dim gorfodi, a mynediad am ddim i barcio. Gallai hyn olygu bod meysydd parcio yn cael eu defnyddio gan weithwyr siopau a pherchnogion busnes gan adael ond ychydig o leoedd parcio i siopwyr ac ymwelwyr. 

 

Rhestrwyd y Strategaeth a Rhagolygon Incwm yn Atodiad 1, gydag awgrymiadau am newidiadau i’r Strategaeth wedi eu rhestru yn Atodiad 2 a chanllawiau i gynorthwyo Cynghorau Tref A Chymuned yn Atodiad 4. Byddai unrhyw sylwadau a wnaed ar yr adroddiad yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ym mis Ionawr.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y daflen oedd wedi ei chylchredeg yn y cyfarfod gan Gyngor Tref Bwcle ac awgrymodd bod Aelodau yn cael amser i ddarllen y daflen, cyn parhau â'r cyfarfod. Cadarnhawyd mai dim ond y diwrnod cynt oedd Swyddogion wedi derbyn y daflen, a bod llawer o wybodaeth yn cael ei holi amdani yn y daflen oedd i’w chwblhau gan y Swyddogion cyn y cyfarfod.

 

Gohirio         

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson a oedd yn bosib cael dau le parcio penodedig i’r Heddlu yn Nhreffynnon a chytunodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad i ymchwilio i'r cais hwn. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Vicky Perfect bod ffioedd parcio yn gweithio yn dda yn Y Fflint ac wedi gwella lleoedd parcio ger y dref.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at y wybodaeth am incwm oedd yn yr adroddiad ac roedd o’r farn y dylai’r Strategaeth Parcio gael ei theilwra i bob ardal benodol. Cyfeiriodd at adroddiad yr MRUK (Asesu Effaith Ffioedd Parcio Ceir ar Nifer Yr Ymwelwyr  Chanol Tref) ar gyfer LlC a chyfeiriodd at yr argymhellion o fewn yr adroddiad oedd yn pwysleisio’r angen i awdurdodau lleol ddatblygu strategaethau parcio sy’n cymryd i ystyriaeth awgrymiadau lleol o safbwynt cynlluniau canol trefi a chynigion manwerthu.  Ychwanegodd y byddai’r cynigion a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar NNDR hefyd yn helpu'r awdurdodau lleol i wneud eu rhan. Aeth ymlaen drwy ddweud nad oedd ffioedd parcio ceir yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol trefi, yn enwedig pan oedd meysydd parcio Brychtyn am ddim a phan oedd mwy o ddewis yn Yr Wyddgrug. Roedd o’r farn y dylid gadael i drefi lleol benderfynu, yn hytrach nac awdurdodau lleol. Dywedodd y Cynghorydd Jones y dylid gwaredu'r ail gyfyngiad yn 1.09 er mwyn gadael i'n trefi dyfu. Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Jones, dywedodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad bod adroddiad Llywodraeth Cymru yn rhywbeth newydd ond bod yn rhaid dal i dalu costau cudd fel cyfraddau a chostau goleuo meysydd parcio.  Dywedodd bod nifer ymwelwyr eisoes wedi cwympo cyn sefydlu'r Strategaeth a chyfeiriodd at y gwelliannau yn Nhreffynnon. Dywedodd bod cydweithio yn allweddol ar gyfer hyn.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd David Evans ar gostau cynnal meysydd parcio, cytunodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) i ail gylchredeg y wybodaeth costau adfer llawn i Aelodau, ond ychwanegodd bod y costau cynnal a chadw sefydlog yn gyllideb o oddeutu £40,000 bob blwyddyn i gynnal a chadw pob maes parcio ond bod cyfraddau NNDR yn sylweddol uwch na hyn. Yngl?n â staff yn symud i Ewlo, byddai’n rhaid iddynt gael cerdyn parcio ac ni fyddai hyn yn golygu colli incwm. Aeth ymlaen drwy ddweud y byddai’r cynigion i osod peiriannau talu ac arddangos ar yr haenau uchaf yn creu mwy o le i ymwelwyr yn Neuadd y Sir, Llwynegrin a Theatr Clwyd.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin bod angen mwy o fuddsoddiad mewn meysydd parcio yn enwedig trwsio tyllau yn y tarmac yn y meysydd parcio.  Roedd yn cefnogi’r cais am lefydd parcio penodedig i'r Heddlu ac awgrymodd bod dau fae troli y gellid eu troi’n llefydd parcio penodedig yn Nhreffynnon.  Cyfeiriodd at ymweliad diweddar â’r Fflint lle mae llawer o barcio am ddim ar hyn o bryd, ond roedd maes parcio’r Ganolfan Hamdden yn wag.  Atebodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) drwy ddweud y dylai’r cydlynydd ardal leol fod wedi adrodd am y tyllau yn y tarmac ac y byddai’n ymchwilio pam na wnaethpwyd hynny.  O safbwynt meysydd parcio Fflint dywedodd bod nifer o feysydd parcio eraill, rhai ohonynt yn breifat ac eraill yn ddarostyngedig i geisiadau cynllunio ac a fyddai’n diflannu.

 

Cytunodd y Cynghorydd Mike Peers gyda’r Cynghorydd Jones a gofynnodd am ddileu'r ail gyfyngiad ar dudalen 29 a chyfeiriodd at waith sy’n cael ei wneud ym Mwcle i gynyddu'r nifer o ymwelwyr.  Roedd Bwcle wedi cynnig talu £46,000 a fyddai wedi bod yn ddigon ar gyfer colli’r incwm ond ni chafodd hyn ei dderbyn oherwydd yr ail gyfyngiad.  Cyfeiriodd at y ffioedd newydd yn Yr Wyddgrug oedd wedi eu newid cyn yr adolygiad 6 mis gan ychwanegu nad oedd yr holl drefi yn cael eu trin yr un fath   Cyfeiriodd at 1.08 yn yr adroddiad a’r colledion o £46,000 gan ddweud nad oedd y tocynnau cyfradd uwch wedi bod mor llwyddiannus â’r tocynnau 30 ceiniog yr awr, ac amlygwyd hyn yn Craffu fis Ionawr fel problem bosibl.   O safbwynt 1.10 codi ffioedd am leoedd anabl, dywedodd na ellid cytuno ar hyn.  Gyda’r gostyngiad mewn refeniw ar gyfer meysydd parcio, y cynnydd mewn problemau parcio ar y stryd a’r colledion refeniw beth a gynigir i fynd i’r afael â'r materion hyn.

 

Wrth sôn am ffioedd parcio ceir dywedodd y Cynghorydd Cindy Hinds, pan nad ydych yn gyrru ac yn defnyddio cludiant cyhoeddus neu dacsis fod hyn yn llawer drytach. Mewn ymateb dywedodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad nad oedd y gwasanaeth parcio ceir wedi bodloni targedau'r gyllideb eleni. Ychwanegodd bod angen strategaeth bys er mwyn sicrhau bod bysiau yn mynd i ganol y trefi. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin at y Gorchymyn Dros Dro yn Nhreffynnon a ddaeth i ben fis Rhagfyr a gofynnodd sut mae Treffynnon yn bwriadu cynnal parcio am ddim.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Owen Thomas at yr elw a wnaed yn Yr Wyddgrug a gofynnodd beth oedd yn cael ei fuddsoddi yn ôl i’r meysydd parcio. Awgrymodd bod dyddiau Mercher a Sadwrn yn broblem yn Yr Wyddgrug gan fod y dref yn llawn a bod problemau gyda pharcio ar y stryd yn enwedig ar Stryd Wrecsam. Pwysleisiodd fod Yr Wyddgrug yn llwyddiannus a bod angen buddsoddi mwy mewn meysydd parcio.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Sean Bibby at 1.11.3 yn yr adroddiad gan ei fod yn awgrymu byddai costau uwch ar Alexander Street a oedd yn ymddangos yn deg ond bod yr effaith ar drigolion ger y maes parcio yn broblem, gyda cheir yn parcio mewn strydoedd ochr drwy’r dydd, a thrigolion felly'n methu parcio. Roedd Gorsaf Y Fflint mewn ardal fasnachol ac nid oedd yn wynebu'r un problemau â Shotton. Dylid ystyried y materion yma sydd wedi eu hadrodd amdanynt nifer o weithiau dros y blynyddoedd gan drigolion ger yr orsaf cyn i’r ffi uwch gael ei ystyried. Awgrymodd y byddai tocynnau parcio ceir i drigolion yn datrys hyn.  Aeth ymlaen i ddweud bod problemau hefyd gyda pharcio ar gyffyrdd ac roedd yn deall bod y Tîm Gorfodi wedi archwilio’r ardal ond eu bod yn dîm bach, roedd pobl yn parcio yn unrhyw le yn hytrach na thalu am barcio.  

 

Cynhyrchodd y Cynghorydd Richard Jones graff oedd yn amlygu’r uchafbwyntiau ym mis Rhagfyr pan oedd y Cyngor Tref wedi talu am barcio am ddim, a roddodd gyfle i gwsmeriaid ymlacio a siopa mwy gan nad oeddynt yn poeni am barcio. Darllenodd bwynt rhif 2 yn 1.11 a dywedodd mai hyn oedd y cyfaddefiad bod parcio am ddim yn fanteisiol ac ni allai ddeall pam bod y Cyngor Tref yn cael eu gwahardd rhag talu tuag at barcio am ddim a chynnwys y Cynghorau Tref yn y penderfyniadau sy'n effeithio eu trefi. Anogodd y Cyngor i ddileu natur ragysgrifiadol y Strategaeth Parcio er mwyn defnyddio dull gweithredu wedi ei deilwra ar gyfer yr ardaloedd lleol. Yna cyfeiriodd at y Tîm Gorfodi a’r costau oedd dros £110,000, gyda’r un fath ar gyfer NDDR a dywedodd bod Yr Wyddgrug yn gwneud elw ond nad yw rhai trefi yn gwneud digon o incwm i dalu’r costau hyn. Ychwanegodd pe byddai cynghorau tref yn cael eu caniatáu i dalu tuag at barcio am ddim y byddai hynny yn cymryd peth o’r pwysau oddi ar yr Awdurdod Lleol. 

 

            Dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd bod ffioedd parcio ceir wedi bodoli yn Yr Wyddgrug ers dros 40 mlynedd ond nad oedd y fath beth a pharcio am ddim. Er mwyn talu costau’r byddai’n rhaid codi’r praeseptau ac yna'r Dreth Cyngor, oedd eisoes yn cynyddu oherwydd y gofynion statudol. Dim ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf y cyflwynwyd ffioedd parcio ac roedd Bwcle a Threffynnon eisoes yn ei chael hi’n anodd. Cytunodd fod siopwyr yn talu mwy yn Yr Wyddgrug ond roedd mwy o draffig yno, oedd yn effeithio ar y meysydd parcio. Dywedodd hefyd nad oedd parcio am ddim ym Mrychtyn, roedd yn cael ei dalu yn y nwyddau a brynwyd. Roedd caledi ariannol wedi codi’r pwysau ar yr Awdurdod.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton bod nifer o broblemau i’w canfod yma. Cyfeiriodd at golli’r diffyg adferiad a'r oedi o ran gweithredu mewn meysydd parcio yn Y Fflint a gobeithio byddai’r adferiad yn cael ei ddangos yn 2019/20. Cytunodd bod Canol Trefi yn chael hi’n anodd ond bu i lawer o unedau manwerthu mawr gau lawr, oedd wedi effeithio ar nifer ymwelwyr â chanol trefi. Cyfeiriodd at waith y Prince’s Trust o ran datblygu canol trefi a dylid edrych ar hyn a dylid ei roi ar gynllun gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter.   Mewn ymateb i bwynt y Cynghorydd Shotton eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) mai diffyg oedd colli’r incwm yn hytrach na cholled, ac y byddai’n gwella yn y dyfodol.  O ran cais y Cynghorydd Johnson byddai’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) yn siarad gyda'r Heddlu er mwyn gwneud trefniadau ar gyfer parcio penodedig.

 

            O ran y broblem dadleoli, eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) na ellid rhoi llinellau melyn dwbl heb reswm dilys ond os oedd pobl yn parcio yn anniogel gallai gorchmynion traffig fynd i'r afael â hyn.   O ran maes parcio Gorsaf Shotton, byddai'r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) yn siarad gyda'r Cynghorydd Bibby y tu allan i'r cyfarfod er mwyn datrys hyn.  Aeth ymlaen i ddweud o safbwynt meysydd parcio'r Wyddgrug ei fod wedi gweithio gyda’r cyngor tref i geisio gwella’r cynnig parcio a chytunodd fod angen i’r Tîm Gorfodi gael presenoldeb cryfach, fodd bynnag dim ond tîm bach ydynt sydd yn gweithio ar benwythnosau a diwrnodau prysur er mwyn delio gyda phroblemau.  Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) wedyn at Dreffynnon a soniodd am y gwaith caled oedd yn cael ei wneud i geisio gwella’r cynnig i’r dref a chyfeiriodd at y ffaith bod cais am grant cludiant wedi bod yn aflwyddiannus, yn anffodus, ond roedd opsiynau eraill yn cael eu hystyried ac roedd pwysau yn dal i gael ei roi ar Lywodraeth Cymru ar gyfer arian am gynllun gwerth chweil.   Amlinellodd y trefniadau pontio oedd yn cael eu cynnig.

 

Mewn ymateb i’r cwestiwn ar Orfodi Parcio, dywedodd y Prif Swyddog nad oedd y wybodaeth ganddo wrth law ond y byddai’n ei gylchredeg i Aelodau ar ôl y cyfarfod. O safbwynt sylwadau’r Cynghorwyr Peers a Jones am argymell dileu Cyfyngiad 2 gyda’r Strategaeth, dywedodd y Prif Swyddog mai ei rôl ef oedd cyflwyno’r ffeithiau ac i Aelodau’r Pwyllgor wneud argymhellion ac i’r Cabinet wneud penderfyniad.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at y llythyr oedd yn nodi y byddai’r Prif Swyddog yn argymell yr adolygiad chwe mis a dileu cyfyngiad 2. Yna cyfeiriodd at 1.10 a threialu taliadau di gyswllt a gofynnodd beth oedd y cynigion neu’r costau ar gyfer hyn. Ymatebodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) gan ddweud nad oedd geiriad y llythyr o reidrwydd yn hollol gywir.   O safbwynt y taliadau digyswllt nid oedd y rhain am ddim a byddai cost i ailosod y peiriannau. Byddai mwy o fanylion yn cael eu darparu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at gais Stryd Fawr Treffynnon i Lywodraeth Cymru, a fu’n aflwyddiannus, a gofynnodd pam - gan bod Gweinidog yr Amgylchedd a'r Ysgrifennydd Busnes o Sir y Fflint.  Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad ei bod wedi ysgrifennu at Ken Skates. Roedd wedi ymateb i ddweud nad oedd yn rhan o'r tîm asesu ond y byddai'n darparu gwybodaeth bellach ac roedd yn cymryd yn ganiataol nad oedd Treffynnon wedi bodloni’r meini prawf. Gofynnod hithau am adborth fel y gallai’r cais gael ei ail ysgrifennu i fodloni’r meini prawf. Cyfeiriodd wedyn at gais Llangollen am ardaloedd i gerddwyr, fu’n llwyddiannus, oedd yn cynnwys ceisiadau teithio llesol.  Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod llawer o waith ac ymdrech wedi mynd i'r cynnig hwnnw ond bod llawer gormod o geisiadau wedi eu gwneud nag oedd y cynllun yn gallu mynd i’r afael a nhw.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Peers y cynnig 1.09 ar dudalen 29 gyda dileu'r ail faen prawf "Bydd unrhyw gais yn bodloni egwyddorion strategaeth meysydd parcio'r cyngor ac yn hyrwyddo rheolaeth y rhwydwaith parcio ceir er mwyn darparu lleoedd ac felly mynediad at ganol trefi." Pan gafwyd pleidlais, collwyd y bleidlais hon

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bibby am 1.10 pwynt 3, na ddylid cael cynnydd yn y ffi hyd nes byddai parcio stryd wedi cael ei ystyried. Pan gafwyd pleidlais, collwyd y bleidlais hon

 

            Gofynnodd y Cadeirydd wedyn i’r Pwyllgor ystyried yr argymhellion fel yr amlinellwyd yn y adroddiad, a gafwyd eu cynnig a'u heilio. Pan gafwyd pleidlais defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw i gefnogi’r argymhellion a gynigwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)    Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys adolygiad 6 mis y drefn ffioedd meysydd parcio newydd a gyflwynwyd ym mis Mai 2018; a

 

 (b)    Bod y Pwyllgor yn argymell i'r Cabinet gymeradwyo'r newidiadau cysylltiedig i'r trefniadau ffioedd, fel yr amlinellir yn yr adroddiad hwn, yr ystyrir eu bod o fewn ffiniau a chyfyngiadau'r strategaeth yn gyffredinol.

Dogfennau ategol: