Agenda item

Cynllun Drafft Gwella Hawliau Tramwy 2018-2028 (RoWIP)

Pwrpas: Ymgynghori gydag aelodau’r pwyllgor ar y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2018-2028 newydd fel rhan o’r cyfnod ymgynghori statudol o 3 mis.

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) adroddiad ar Gynllun Gwella Hawliau Tramwy newydd 2018-2028 yn rhan o'r ymgynghoriad statudol 3 mis o hyd.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr ail CGHT hwn yn asesu rhwydwaith 2018 ac yn gwerthuso'r cynnydd a wnaed ers 2008.  Mae'r cyd-destun cyfredol (2018) o ran polisi yn cael ei archwilio, meysydd â blaenoriaeth yn cael eu nodi a Datganiad Gweithredu o arddull newydd yn cael ei gyflwyno. Gofynnodd y Prif Swyddog i'r Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol gyflwyno'r adroddiad.

 

                        Eglurodd y Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol fod y CGHT cyntaf wedi nodi sawl maes fel blaenoriaethau allweddol ar gyfer 2008-2018.  O'r 22 o dasgau a nodwyd, yr oedd 7 wedi'u cwblhau, neu gynnydd sylweddol wedi'i wneud yn gysylltiedig â hwy, ni chafwyd ond ychydig o gynnydd os o gwbl gyda 7 arall, a bu cynnydd rhannol yn gysylltiedig ag 8 ohonynt. Fodd bynnag, canfuwyd bod y data a gofnodwyd yn anghyson ac weithiau'n brin, gan olygu ei bod hi'n anodd nodi cynnydd mewn rhai meysydd. 

 

            Adroddodd y Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol ar y prif ystyriaethau, fel y'u nodwyd yn yr adroddiad.  Dywedodd fod llyfryn Polisi a Gweithdrefn eisoes wedi cael ei lunio fel blaenoriaeth.  Byddai'r polisïau a'r gweithdrefnau'n cael eu defnyddio'n sail ar gyfer llyfryn a fyddai ar gael i ddefnyddwyr y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus ac i dirfeddianwyr er mwyn sicrhau dealltwriaeth eang a thryloywder ynghylch yr hyn y mae Cyngor Sir y Fflint yn ei wneud a'r modd y mae'n mynd ati i wneud hynny. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at y 1800 o lwybrau cyhoeddus unigol a oedd yn ffurfio'r rhwydwaith hawliau tramwy yn 2018, a dywedodd fod rheoli a chynnal a chadw'r rwydwaith yn golygu llawer iawn o waith, gan sôn pa mor bwysig oedd cymorth gwirfoddolwyr yn hynny o beth.  Awgrymodd y gallai gwirfoddolwyr gymryd mwy o ran yn y gwaith hwnnw yn y dyfodol.  Cydnabu'r Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol rôl bwysig gwirfoddolwyr wrth gynorthwyo ceidwaid, a chyfeiriodd hefyd at grwpiau lleol a oedd yn cyflawni gwaith gwirfoddol i gynorthwyo'r gwasanaeth cefn gwlad.  Mewn ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Shotton ynghylch arwyddbyst, esboniodd y Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol fod cynnydd pellach wedi'i wneud a'r gwaith yn parhau. Mewn ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd Shotton, esboniodd y byddai'r ymgynghoriad ar y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy drafft yn dod i ben ym mis Ionawr 2019. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at dudalen 56 yr adroddiad a'r ffaith bod rhwystrau yn peri anhawster i bobl mewn cadeiriau olwyn trydanol wrth iddynt geisio cael mynediad at Lwybr Arfordir Cymru. Gofynnodd am y camau a gymerwyd i ymdrin â'r broblem hon, a siaradodd am bwysigrwydd cadw rhwystrau ac at broblemau a gafwyd yn y gorffennol mewn mannau penodol.   Eglurodd y Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol fod safbwynt yr Awdurdod yn gyfreithiol, ond yr oedd yn adolygu ei safbwynt o ran y rhwystrau, ac yn ystyried cynnal ymgynghoriad ehangach ar y mater hwnnw yn y Flwyddyn Newydd.  Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod angen sicrhau mynediad cyfartal i bawb i Lwybr Arfordir Cymru. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd David Evans am y newyddion diweddaraf ynghylch y Fforwm Mynediad Lleol. Dywedodd y Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol fod y Fforymau Mynediad Lleol yng Nghyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cyfuno i greu fforwm ar y cyd a oedd yn cynnwys 15 o aelodau.  Yr oedd yn rhagweld y byddai cyfarfod y Cyd-Fforwm Mynediad Lleol newydd yn cael ei gynnal yn y Flwyddyn Newydd.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Owen Thomas at y ffaith bod cynifer o lwybrau cyhoeddus unigol i'w cael, a dywedodd fod llawer o'r llwybrau hynny yn ei Ward nad oeddent yn cael eu defnyddio na'u cynnal a'u cadw.  Gofynnodd a ellid gorfodi gwaith cynnal a chadw ac ailystyried yr angen i gadw pob llwyr troed ar agor.   Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) fod gan dirfeddianwyr ddyletswydd a chyfrifoldeb i gadw llwybrau troed ar agor.  Cyfeiriodd at bwysigrwydd y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus fel adnodd gwerthfawr i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw, ac o gynnig mynediad yn wirfoddol i gefn gwlad.  Dywedodd fod cynllun gweithredu yn cael ei greu er mwyn sicrhau y byddai'r rhwydwaith llwybrau cyhoeddus yn cael ei gynnal a'i gadw yn y dyfodol.  

 

            Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y byddai angen dilyn proses gyfreithiol gadarn er mwyn dileu llwybr cyhoeddus nad yw'n cael ei ddefnyddio mwyach, ac ailbwysleisiodd mai dyletswydd a chyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw cynnal a chadw llwybr cyhoeddus ar ei dir.

 

            Cododd y Cynghorydd Haydn Bateman gwestiynau ynghylch yr wybodaeth sydd ar gael i reolwyr tir a defnyddwyr llwybrau, ac ynghylch datblygu GIS fel offeryn rheoli a phenderfynu rhagweithiol.  Ymatebodd y Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol i'r cwestiynau am wybodaeth a hyrwyddo, ac o ran GIS, dywedodd fod pecyn ychwanegol wedi cael ei dreialu a'i ddatblygu, a bod gwaith ar y gweill yn gysylltiedig â hynny. 

 

            Rhoddodd yr Arweinydd Tîm - Mynediad, Cynllunio a'r Amgylchedd, y newyddion diweddaraf am y System Rheoli Mynediad i Gefn Gwlad (CAMS), a dywedodd fod trafodaethau eisoes wedi cychwyn â Chynghorau Tref a Chymuned a grwpiau cerdded ynghylch y cynllun. Awgrymodd y Prif Swyddog Cynllunio a'r Amgylchedd y gellid darparu sesiwn wybodaeth am CAMS cyn dechrau un o'r cyfarfodydd nesaf.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Veronica Gray at y broblem yn gysylltiedig â'r cyfrifoldeb i gynnal a chadw llwybrau cyhoeddus mewn ardaloedd trefol sy'n croesi'r ffin o'r naill awdurdod lleol i awdurdod arall, gan nodi llwybr cyhoeddus yn ei Ward fel enghraifft.  Esboniodd y Rheolwr Mynediad a'r Amgylchedd Naturiol fod yr Awdurdod yn cydweithio'n agos ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, a chyfeirio at Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych fel enghreifftiau. Cytunodd i ymchwilio ymhellach i'r mater a godwyd gan y Cynghorydd Gay, ac ymateb i hynny.

 

            Mynegodd y Cynghorydd Paul Shotton ddiolch i'r Cynghorydd Carolyn Thomas am fod yn bresennol mewn cyfarfod â defnyddwyr cadeiriau olwyn a Fforwm Mynediad Anabledd Sir y Fflint er mwyn ceisio canfod dull o ddatrys y problemau'n gysylltiedig â mynediad i gadeiriau olwyn mwy mewn rhai ardaloedd. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylid cefnogi'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy drafft a'r llyfryn polisi a gweithdrefnau yn rhan o'r ymgynghoriad tri mis statudol; a

 

(b)       Cyflwyno adroddiad pellach gerbron y Pwyllgor ym mis Mawrth 2019.

 

Dogfennau ategol: