Agenda item

Cynigion Cam 2 Cyllideb 2019/20

Pwrpas:        Ystyried cynigion cam 2 y gyllideb ar gyfer y Portffolio                                                 Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2019/20

Cofnodion:

            Cyn cyflwyno’r adroddiad, rhoddodd y Cadeirydd sylw ar fanylder yr adroddiad a gofynnodd a fyddai unrhyw wybodaeth ychwanegol yn cael ei dosbarthu yn y cyfarfod.  Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y datganiadau dull a’r datganiadau gwytnwch sy’n cefnogi pwysau cyllidebol 2019/20 a chynigion effeithlonrwydd wedi’u cynhyrchu fel dogfennau cefndir a bod copïau ar gael ar gais.  Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod bod y cynigion effeithlonrwydd a nodwyd yn yr adroddiad yn fychan ac yn risg bychan neu ddim risg o gwbl.  

 

            Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i roi gwybod am y pwysau ariannol ac effeithlonrwydd a nodwyd ar gyfer y portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer cyllideb 2019/20.   Rhoddodd wybod bod gweithdai Aelodau wedi’u cynnal ar 13 a 23 Gorffennaf ac 18 Medi, 2018 lle darparwyd gwybodaeth ar y rhagolwg ariannol lleol diweddaraf yng nghyd-destun y sefyllfa genedlaethol gyffredinol.  Cynhaliwyd gweithdy ychwanegol yn benodol ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 10 Hydref 2018 a roddodd gyfle i Aelodau ddeall y cyllidebau portffolio mewn rhagor o fanylder ac ystyried lefelau risg a gwytnwch bob maes gwasanaeth.

 

            Rhoddodd y Prif Swyddog a’r Uwch Reolwr – Diogelu a Chomisiynu esboniad manwl ynghylch pwysau a buddsoddiadau portffolio, ynghyd ag effeithlonrwydd cynllunio busnes portffolio a’r rhai sy’n deillio o bolisi Llywodraeth Cymru (LlC), fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Pwysleisiodd y Prif Swyddog yr angen i barhau i ddarparu gwasanaethau gofal fforddiadwy ac o ansawdd i breswylwyr yn Sir y Fflint.

 

            Rhoddodd y Cynghorydd David Healey sylw ar y pwysau ariannol o leoliadau y tu allan i’r sir a gofynnodd a yw’r Bwrdd Iechyd yn gwneud unrhyw gyfraniad ariannol os yw’r lleoliad o ganlyniad i anghenion iechyd yr unigolyn.  Esboniodd y Prif Swyddog bod cyfraniadau ariannol yn cael eu gwneud gan y Bwrdd Iechyd, y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Addysg os yw’n briodol.  Roedd angen i’r Bwrdd Iechyd gyfrannu swm teg i sicrhau nad oedd y Cyngor yn cael ei adael gydag unrhyw faich ariannol.       

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie ar y cyfanswm a ddangoswyd ar gyfer lleoliadau y tu allan i’r sir, esboniodd y Prif Swyddog bod y cyfanswm a ddangoswyd yn cynnwys y pwysau ariannol ar y portffolio addysg ar gyfer elfen addysgol y lleoliadau y tu allan i’r sir. 

 

            Diolchodd y Cynghorydd Kevin Hughes i’r swyddogion yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd wedi parhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol.  Rhoddodd sylw ar bwysau ariannol y lleoliadau tu allan i’r sir a gofynnodd a oedd dewisiadau i gydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi’u harchwilio er mwyn lleihau’r pwysau.  Diolchodd y Prif Swyddog i’r Cynghorydd Hughes am ei sylwadau a bydd yn eu pasio ymlaen i'r holl swyddogion yn dilyn y cyfarfod.  Dywedodd bod potensial ar gyfer gwaith pellach ar y cyd gyda Wrecsam a Chynghorau eraill Gogledd Cymru ond bod gwaith ar y gweill drwy’r Uwch Reolwr – Plant a Gweithlu i gynorthwyo darparwyr gofal cymdeithasol cyfredol gyda’r sgiliau angenrheidiol i ehangu eu busnes yn Sir y Fflint.        

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynghylch cydweithio ag awdurdodau cyfagos, esboniodd y Prif Swyddog bod gwaith ar y cyd wedi bod yn barhaus ond bod y cais ariannol llwyddiannus drwy’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Anabledd yn galluogi cyfleoedd gwell i’r dyfodol. 

 

            Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod bod yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig, a nodwyd yn yr adroddiad, yn fychan, a dywedodd nad oedd y cyfanswm effeithlonrwydd yn y portffolio ar gyfer y cyfnod 2015/16 - 2017/18 sef £4.223m yn ansylweddol gan ddiogelu'r cyllidebau Gofal Cymdeithasol ac Addysg.  Bydd yr argymhellion ar effeithlonrwydd cam 2 arfaethedig gan yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor ym mis Tachwedd.    

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dewisiadau effeithlonrwydd portffolio, fel y      dangoswyd yn yr adroddiad; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn llongyfarch y Tîm Gwasanaethau Cymdeithasol cyfan am yr holl waith a wnaed yn yr amgylchiadau ariannol presennol.          

 

DIWEDDARIAD CYLLIDEB CENEDLAETHOL

 

            Rhoddodd y Prif Weithredwr yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor yn dilyn cyhoeddi Setliad Dros Dro Llywodraeth Cymru (LlC) ar 2 Hydref a chyhoeddiad Cyllideb Llywodraeth y DU ar 29 Hydref 2018.

 

            Ar 2 Hydref 2018, cyhoeddodd LlC ei gyllideb ddrafft amlinellol ar gyfer 2019/20 (Setliad Dros Dro) a gynyddodd bwlch cyllidebol y Cyngor i £13.7m ac nad oedd yn darparu unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer dyfarniad cyflog yr athrawon.   Cyflwynodd Canghellor y DU ei ddatganiad cyllideb ar 29 Hydref, a oedd yn cynnwys £554m ychwanegol ar gyfer Cymru, sy’n cynnwys £486m refeniw a £68m cyfalaf.  Roedd hyn yn hafal i £33m o ‘arian newydd’ a gobeithiwyd yn dilyn sylwadau blaenorol y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Leol yn ‘gyntaf yn y ciw’ ar gyfer unrhyw gyllid a ddaw o ddatganiad y Canghellor, y bydd yn ei basportio i Awdurdodau Lleol.

 

            Roedd pwysau parhaus yn cael ei roi ar LlC i ddarparu’r canlynol:-

 

·             Y £30m sy’n cael ei gadw ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru i’w dalu i Gynghorau (sydd werth tua £1.3m ar gyfer Sir y Fflint);

·             Talwyd yr £15m ychwanegol oedd yn cael ei gadw ar gyfer ysgolion yng Nghymru i’r Cynghorau (gwerth tua £0.800m ar gyfer Sir y Fflint a’n hysgolion);

·             Daethpwyd o hyd i £13m ychwanegol fel nad oes unrhyw gyngor yn wynebu lleihad blynyddol yn eu grant gan y llywodraeth (gwerth tua £1.9m ar gyfer Sir y Fflint); a

·         Talwyd y cyllid ‘canlyniadol' o £33m a ddaw i Gymru o ganlyniad i gyllideb y Canghellor i’r cynghorau yn unol ag ymrwymiad LlC (gwerth tua £1.6m i Sir y Fflint).

 

            Esboniodd y Prif Weithredwr bod dewisiadau wedi’u harchwilio i gynyddu lefelau Treth y Cyngor ond atgoffwyd yr Aelodau y bu ychydig iawn o awydd ar gyfer hyn yn y gweithdai ond efallai y bydd angen ystyried hyn er mwyn gosod cyllideb cytbwys a chyfreithlon. 

 

            Rhoddodd y Cynghorydd Kevin Hughes sylw ar y pwysigrwydd bod pob Aelod yn cydweithio i roi gwybod i’r cyhoedd beth y mae’r Cyngor wedi’i wneud, a beth y byddant yn parhau i’w wneud, i ddiogelu gwasanaethau er gwaethaf y lleihad parhaus mewn cyllid, ac hefyd i esbonio'r rhesymeg y tu ôl i gynnydd Treth y Cyngor uchel, os oes angen.  Siaradodd nifer o Aelodau gan gefnogi sylwadau'r Cynghorydd Hughes, gan gytuno y byddai gwybodaeth i’r Aelodau ei chynnwys yn eu newyddlenni misol yn ddefnyddiol.

 

            Esboniodd y Prif Weithredwr bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), gyda chefnogaeth lawn ei aelodau, wedi sôn bod y Setliad Dros Dro yn annigonol i ddiwallu anghenion Llywodraeth Leol yng Nghymru.  Ochr yn ochr â CLlLC, mae'r Cyngor wedi bod yn anfon llythyrau ac yn lobïo Aelodau Cynulliad lleol i arddangos y risgiau i wasanaethau cyhoeddus.  Roedd y swyddogion wrthi’n gweithio ar becyn cyfryngau ar gyfer yr Aelodau i’w cynorthwyo i drosglwyddo’r neges i’r cyhoedd, sy’n cynnwys dulliau digidol.  Gofynnodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau hefyd beidio amcangyfrif yn rhy isel b?er cyfryngau cymdeithasol a fydd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o ymgyrch y Cyngor.     

  

            Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson ei fod wedi mynychu cyfarfodydd hysting yn ddiweddar ar gyfer etholiad Prif Weinidog newydd LlC a rhoddodd wybod bod nifer o gwestiynau wedi’u codi ynghylch arian ychwanegol ar gyfer Awdurdodau Lleol.  Rhoddodd y 3 ymgeisydd ymrwymiad y byddai cyllid ychwanegol ar gyfer Awdurdodau Lleol yn flaenoriaeth.  Nododd y Prif Weithredwr bod diddordeb gwirioneddol gan LlC i ddarparu cyllid ychwanegol, a bod hyblygrwydd yn eu cyllideb i wneud hyn.      

 

            Diolchodd y pwyllgor i’r Prif Weithredwr am ei ddiweddariad ar sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb.

Dogfennau ategol: