Agenda item

Cynigion Cam 2 Cyllideb 2019/20

Pwrpas:        Ystyried cynigion cam 2 y gyllideb ar gyfer y Portffolio Addysg ac                 Ieuenctid ar gyfer 2019/20

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad ar gam 2 cynigion y gyllideb ar gyfer y Portffolio Addysg ac Ieuenctid ar gyfer 2019/20. Rhoddodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at y rhagolwg ariannol a chynigion cam 1 a Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a oedd yn trafod gostyngiad o 1% ac y byddai hyn yn cael effaith negyddol ar y bwlch a ragwelir ar gyfer 2019/20. Gwnaeth y Prif Swyddog sylw ar y datganiad cyllideb diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Canghellor yr wythnos hon a’r posibilrwydd o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru.

 

Gwahoddodd y Prif Swyddog y Rheolwr Cyllid i adrodd ar risgiau a lefelau gwytnwch y meysydd gwasanaeth o fewn y portffolio Addysg. Gwnaeth y Rheolwr Cyllid sylw ar y datganiadau gwytnwch manwl a baratowyd ar gyfer pob maes gwasanaeth yn ystod yr haf a dywedodd fod hyn wedi cadarnhau bod cwmpas cyfyngedig ar gyfer unrhyw arbedion gweithredol pellach o fewn y portffolio.   Eglurodd fod yr Awdurdod ar hyn o bryd yn wynebu gostyngiad o 1% (£1.9m) yn y dyraniad cyllid gan Lywodraeth Cymru, ac o ganlyniad nid oedd unrhyw ychwanegedd ar gyfer pwysau ar y gyllideb, yn cynnwys dyfarniad cyflog yr athrawon.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog a’r Rheolwr Cyllid at y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, ac adroddodd y ddau ar bwysau a buddsoddiadau portffolio, dyfarniad cyflog athrawon, pensiynau athrawon ac arbedion cynllunio busnes portffolio. 

 

Yn dilyn y sylwadau gan aelodau yn diolch i aelodau'r Tîm Addysg ac Ieuenctid am eu gwaith caled yn ystod yr heriau ariannol, cytunodd y Prif Swyddog i gyfleu eu sylwadau yn dilyn y cyfarfod.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes a oedd yr Awdurdod yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill er mwyn cyflawni arbedion ar leoliadau y tu allan i'r sir. Dywedodd y Prif Swyddog fod cost lleoliadau y tu allan i'r sir yn fater cenedlaethol ac eglurodd fod trafodaethau yn cael eu cynnar ar lefel ranbarthol  ynghylch y posibilrwydd o greu darpariaeth ranbarthol. Dywedodd fod y brif her yn ymwneud ag ymddygiad heriol ac emosiynol a chyfeiriodd at gost y staff sydd eu hangen i ddarparu cymorth un i un a gofal 24 awr. Yn ystod y drafodaeth, dywedodd y Prif Swyddog fod atal ac ymyrraeth yn allweddol a chyfeiriodd at y gwaith a wnaed i gefnogi ysgolion ag adnabod ac ymyrryd yn gynnar. Cyfeiriodd hefyd ar rôl yr Uned Cyfeirio Disgyblion a’r gwaith estyn allan a gwblhawyd.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ian Roberts sylw ar effaith y toriadau i gyllid a oedd yn golygu bod llai o adnoddau ar gael ei ddarparu cefnogaeth i ysgolion. Cyfeiriodd hefyd at y pwysau ar athrawon a oedd yn gorfod ymdopi ag ymddygiad heriol rhai o’r disgyblion yn ddyddiol.

 

Gan gyfeirio at gost lleoliadau y tu allan i'r sir, awgrymodd y Cynghorydd Paul Cunningham y dylid gofyn i Lywodraeth Cymru osod cap ariannol ar ddarparwyr lleoliadau y tu allan i'r sir.  Awgrymodd y Prif Swyddog y dylai Pennaeth y Gwasanaeth Cynhwysiant godi’r mater yn ystod y cyfarfod rhanbarthol nesaf â chydweithwyr awdurdodau cyfagos a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru.

 

Gofynnodd Mrs Rebecca Stark a oedd tystiolaeth o gydberthynas rhwng y cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau plant ar adeg y toriadau i gyllid ysgolion. Wrth gydnabod y pwynt, dywedodd y Prif Swyddog er na fu cynnydd sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau, nid dyma oedd yr unig ffactor a chyfeiriodd at yr heriau yr oedd pobl ifanc yn wynebu ac amharodrwydd staff addysgu i ymgymryd â rôl fugeiliol gan ymgysylltu â sefydliadau a theuluoedd. Parhaodd gan ddweud fod ysgolion ar lefel genedlaethol yn cael eu hannog i ysgrifennu at eu Haelodau Cynulliad er mwyn eu gwahodd i ymweld â’u hysgolion er mwyn iddynt allu gweld effaith y penderfyniadau a wnaed ynghylch cyllid. 

 

Mewn ymateb i bryder a godwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey ynghylch mynd i’r afael ag ymddygiad heriol rhai disgyblion mewn ysgolion uwchradd, sicrhaodd y Prif Swyddog fod ysgolion cynradd yn gweithio’n galed â phlant ifanc i addasu ymddygiad a chyfeiriodd at y strategaethau a’r ymyriadau a ddefnyddiwyd gan ysgolion i wella ymddygiad heriol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Kevin Hughes at y sylwadau a wnaed yn ystod cyfarfod diweddar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, a’r angen am gyd-ymgyrch Cysylltiadau Cyhoeddus barhaol i sicrhau fod y cyhoedd wedi deall yr heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor.   

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dewisiadau arbedion portffolio, fel y dengys yn yr adroddiad; a

 

 (b)     Bod Aelodau yn cytuno i geisio codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o oblygiadau’r heriau ariannol presennol ar gyfer gwasanaethau.

Dogfennau ategol: