Agenda item
Safle diweddaraf ar Gyllidebau Llywodraeth Cymru a'r DU a Chynllunio'r Gyllideb Lleol 2019/20
Pwrpas: Derbyn diweddariad ar lafar.
Cofnodion:
Rhoddodd y Prif Weithredwr y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar am y sefyllfa ariannol ddiweddaraf yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru (LlC) ynghylch Setliad Dros Dro’r Llywodraeth Leol ar gyfer 2019/20 a oedd yn destun ymgynghori ffurfiol. Cyn y Setliad terfynol a ddisgwylir ar 19 Rhagfyr, byddai Cyhoeddiad Cyllideb Hydref y Canghellor ar 29 Hydref yn hanfodol bwysig wrth sefydlu unrhyw symiau canlyniadol i Gymru. Roedd hyn o ganlyniad i ymrwymiad a roddwyd gan LlC y byddai unrhyw symudiadau cadarnhaol newydd (er enghraifft, cyllid ychwanegol ar gyfer addysg a gofal cymdeithasol) yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer llwyodraeth leol fel cydnabyddiaeth o'r dyraniad ychwanegol sydd eisoes wedi'i flaenoriaethu ar gyfer y sector Iechyd.
O ran ffigwr y Setliad Dros Dro, dywedodd y Prif Weithredwr, yn ogystal â'r ffaith bod Sir y Fflint yn gyngor cyllid isel, golyga amrywiadau dosbarthiad ei fod yn un o dri awdurdod yng Ngogledd Cymru sy’n derbyn y gostyngiad mwyaf o 1%, sy’n cyfateb i golled o £1.9miliwn i Sir y Fflint (gan gynnwys y dyfarniad cyflog blynyddol i athrawon na chaiff ei ariannu).
Fel un o’r risgiau mwyaf ar lefel y DU, roedd cadarnhad gan LlC am sut fydd costau ychwanegol ar gyfer cyfraniadau cyflogwyr i bensiynau athrawon yn cael eu hariannu yn dal heb ddod i law.
I Sir y Fflint, roedd hyn yn risg ychwanegol posibl o £3.5miliwn yn ystod y flwyddyn.
Roedd rhaid i'r Cabinet wneud penderfyniad yn ymwneud â chyflwyno dyfarniad cyflog athrawon yn ystod y flwyddyn, roedd Sir y Fflint yn disgwyl derbyn £0.409 miliwn o’r dyraniad gan LlC sy’n tua hanner y cyfanswm. Roedd rhai sylwadau yn mynegi nad oedd y Setliad yn cynnwys ychwaneged ar gyfer 2019/20 sy’n rhoi pwysau pellach o o leiaf £1.3miliwn.
Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi gwneud eu hachos cylluniadol yn seiliedig ar dystiolaeth i LlC wella sefyllfa’r Setliad tra roedd hyblygrwydd o fewn ei gyllidebau ar y cam hwn. Fel rhan o’r ymgyrchu hir a pharhaus, roedd pryderon ynghylch yr effaith a gaiff diffyg cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol ar Iechyd oherwydd dylid ystyried y ddau faes ochr yn ochr â’i gilydd. Yn dilyn trafodaethau blaenorol, awgrymwyd bod Aelodau yn gohirio unrhyw gamau gweithredu pellach nes y gellir sefydlu effaith Datganiad y Canghellor.
O ran yr ansicrwydd ynghylch grantiau penodol, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol wybod eu bod yn aros am fanylion pellach ynghylch cyhoeddiad LlC o £30miliwn yn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol a £15 miliwn ar gyfer addysg.
Roedd y Cynghorydd Heesom yn pryderu'n arw am ddigonolrwydd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a phortffolio sydd wedi’u strwythuro i wella sefyllfa ariannol y Cyngor. Dywedodd bod y gwasanaethau dan bwysau sylweddol ac na ellir eu darparu yn y fframwaith presennol. Aeth ymlaen i gwestiynu ymateb y Cyngor i gyfres o argymhellion o fewn adroddiad a gafodd ei rannu.
O ran y pwynt olaf, eglurodd y Prif Weithredwr y cefndir y tu ôl i'r adroddiad gan weithiwr cyllid proffesiynnol a gafodd ei gomisiynu gan y Cyngor gyda chyllid CLlLC mewn ymateb i gynnig y Cyngor i rannu ei strategaethau a’i risgiau i gefnogi’r achos am gyllid tecach. Cafodd nifer o faterion a godwyd gan y Cyngor eu dilysu yn y canfyddiadau, a daeth i’r amlwg bod ddiffyg atebion i'r rheiny a oedd eisoes wedi'u nodi. Cyfeiriwyd at yr adroddiad yn flaenorol wrth argymell newidiadau i’r polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw. Cytunodd Swyddogion i gylchredu’r adroddiad a’r cynllun gweithredu cysylltiedig i Aelodau.
Mewn ymateb i sylwadau eraill, bu i’r Prif Weithredwr atgoffa’r Pwyllgor o'r prif gyfrifoldebau yn ymwneud â gosod cyllideb a disgrifiodd ddifrifoldeb yr her ariannol. Rhannwyd llawer o wybodaeth yn y gweithdai cyllideb diweddar i helpu Aelodau ddeall risgiau a gwytnwch, a bu swyddogion yn ymgymryd â gwaith archwilio i feysydd pellach a nodwyd. Er nad oedd unrhyw gynlluniau wedi cael eu cynnig i fynd i’r afael â’r bwlch cyllideb yn y gweithdai, rhoddwyd y cyfle i Aelodau gynnig opsiynau newydd ar unrhyw gam.
Atgoffodd y Cynghorydd Mullin bod bob cyngor mewn sefyllfa ariannol tebyg a bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cydnabod Sir y Fflint fel cyngor sy'n cael ei reoli'n dda. Cyfeiriodd at y llwyddiannau yn Sir y Fflint wrth gyflwyno strwythur rheoli symlach ynghyd â llwyddiannau mewn Modelau Darpariaeth Amgen, Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol ac adeiladu tai Cyngor.
Mewn ymateb i’r sylwadau ynghylch arian wrth gefn, atgoffodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol o’r angen i neilltuo swm digonol o arian i ymdrin ag unrhyw oddefiannau gan gynnwys buddsoddi er mwyn creu effeithlonrwydd a bodloni gwobrau tâl annisgwyl. Rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch balans yr arian wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn, fel yr adroddir dan eitem nesaf yr agenda.
Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod yn bwysig bod Aelodau Trosolwg a Chraffu yn gallu herio gwybodaeth fel rhan o’u rôl. Wrth gyfeirio at y gwahaniaeth yn y dosbarthiad cyllid rhwng llywodraeth leol ac Iechyd, dywedodd y dylai LlC gydnabod yr angen i Iechyd a Gofal Cymdeithasol weithio â’i gilydd oherwydd bod y ddau yn cefnogi ei gilydd. Nododd bod Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn faes sydd mewn perygl lle nad oes gan gynghorau unrhyw reolaeth drosto, ac o’r herwydd, dylid ei ariannu’n genedlaethol. Dywedodd y Prif Weithredwr bod CLlC wedi cytuno i gynnwys hyn fel rhan o bwysau gofal cymdeithasol yn ei sylwadau i LlC, yn hytrach na chyllid penodol.
Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd McGuill ynghylch monitro cost-effeithlonrwydd o fewn y Cyngor, dywedodd y Prif Weithredwr y dylid codi unrhyw awgrymiadau yn uniongyrchol â’r swyddogion.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Johnson ynghylch cyfraniad Aelodau i’r broses gyllidebu, cadarnhaodd y Prif Weithredwr y gall Aelodau gyflwyno cynigion newydd ar unrhyw gam heb wrthdroi unrhyw benderfyniadau sydd wedi’u gwneud eisoes.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r diweddariad ar lafar; a
(b) Diolch i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion am eu cyfraniadau agored.