Agenda item

Adolygu Archwiliad a Lefel Ymyrraeth Diogelwch Priffyrdd a Meysydd Parcio ac Ymateb i’r Polisi

Adolygu’r polisi uchod yn unol â’r canllawiau cenedlaethol diwygiedig.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i adolygu’r Polisi uchod yn unol â’r canllawiau cenedlaethol diwygiedig yn dilyn gweithredu’r cod ymarfer newydd ym mis Hydref 2018. Rhoddodd wybodaeth gefndir a rhoddodd sylw ar gydnabyddiaeth yn y cyhoeddiad cyllideb diweddar o bwysigrwydd y rhwydwaith priffyrdd a darparu twf cynaliadwy ac economaidd a dywedodd y byddai cyllid 3 blynedd ar gael i ailwynebu ffyrdd. Roedd y Prif Swyddog wedi gwahodd Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i roi trosolwg o’r prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Mike Peers sylw at ddyletswydd statudol y Cyngor fel ‘Awdurdod y Briffyrdd’ i gynnal priffyrdd sydd wedi’u mabwysiadu gan gynnwys strwythurau priffyrdd o fewn y Sir, a’r posibilrwydd i hawliau godi yn erbyn y Sir gan ddefnyddwyr priffyrdd oherwydd anaf bersonol neu golled yn codi o ddigwyddiadau neu ddamweiniau oherwydd nad yw dyletswyddau wedi’u cadw atynt. Dywedodd bod rhaid i ddiogelwch y cyhoedd fod yn flaenoriaeth a nid ‘dosbarth’ y ceudyllau. Gofynnodd os oedd yr Awdurdod yn cyfeirio at ei adroddiadau archwilio wrth ddelio â hawliau sy’n codi o ddigwyddiadau neu ddamweiniau a oedd wedi digwydd ar y rhwydwaith priffyrdd a fabwysiadwyd, ac a oeddynt ar gael i’r Aelodau eu gweld.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers i'r polisi arfaethedig i archwiliadau diogelwch priffyrdd a meysydd parcio, meini prawf ymyriadau ac amseroedd ymateb a oedd wedi'u hatodi yn yr adroddiad. Dywedodd bod y meini prawf adnabod diffygion a mynegodd bryderon bod y categori lle byddai diffygion yn ddibynnol ar ddehongliad. Dywedodd bod angen darparu mwy o fanylion ar y categori coch.

 

Mynegodd y Cynghorydd Peers bryderon ynghylch amseroedd ymateb ac i roi adborth ar faterion a godwyd gan Aelodau a phreswylwyr mewn perthynas â  diffygion, a rhoddodd enghraifft o ddiffyg a oedd wedi’i riportio am geudwll ar ei Ward. Tynnodd sylw at amser ymateb a nodwyd yn y polisi arfaethedig. Ymatebodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i’r ymholiadau a godwyd gan y Cynghorydd Peers, ac eglurodd bod yr asesiadau risg yn cael eu cyflawni gan y Cydlynydd Ardal Strydwedd yn unol â’r cod ymarfer. Cytunodd i ddarparu cofnodion ar sail pob achos i Cynghorydd Peers. Gofynnodd Cynghorydd Peers bod y Cydlynydd Ardal Strydwedd yn darparu diweddariadau rheolaidd i’r Aelodau ar gyflwr y ffyrdd, llwybrau cerdded a meysydd parcio yn eu Wardiau.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton os dylid rhoi ystyriaeth at ddefnydd o drôn i gynorthwyo Cydlynwyr Ardal Strydwedd i gyflawni eu harchwiliadau diogelwch neu i atgyweirio ceudyllau. Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod cyfarpar electronig yn cael ei ddefnyddio yn barod i gynorthwyo archwiliadau diogelwch a chytunodd i edrych ar y defnydd posibl o drôn.

 

Gan gyfeirio at archwiliadau o strwythurau a waliau cynnal, soniodd y Cynghorydd David Evans ar y broblem o reiliau wedi’u torri a gofynnodd os oedd hyn yn cael ei gynnwys yn yr archwiliadau. Hefyd dywedodd nad oedd unrhyw amserlenni wedi’u nodi yn y polisi arfaethedig ar gyfer atgyweirio neu amnewid unrhyw ddiffygion a nodwyd yn ystod yr archwiliad o’r strwythurau a’r waliau. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Evans at y meini prawf adnabod diffyg a dudalen 21 yr adroddiad, a mynegodd y safbwynt y dylid symud llwybrau beicio i'r un categori a llwybrau cerdded. 

 

Roedd y Rheolwyr Rhwydwaith Priffyrdd yn cydnabod y pwyntiau a godwyd ynghylch arwyddion, strwythurau, waliau, rheiliau, amseroedd atgyweirio a llwybrau beicio a dywedodd y byddai'n ystyried awgrymiadau yn y drafft terfynol i’r Cabinet.

 

Soniodd y Cynghorydd Owen Thomas am amserlenni ar gyfer atgyweirio ceudyllau a dywedodd bod tystiolaeth yn ei Ward eu bod yn aros am fisoedd i'w ceudyllau gael eu trwsio.   Hefyd cyfeiriodd at gyflwr drwg rhai o balmentydd sydd yn anniogel i gerddwyr eu defnyddio oherwydd mwsogl ar yr arwyneb a choed a chloddiau sy'n hongian drosodd. Mynegodd y Cynghorydd Thomas ei bryderon ynghylch diogelwch cyhoeddus a dywedodd y dylai preswylwyr fod yn gyfrifol am unrhyw ganghennau a deiliach sydd yn hongian dros lwybrau cyhoeddus. 

 

Mewn ymateb i faterion a godwyd, eglurodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd bod y Polisi Gorfodi Amgylcheddol yn mynd i’r afael â’r mater o gloddiau yn hongian drosodd a diffygion ar balmentydd, a lle bo’n briodol roedd preswylwyr yn cael eu cynghori o’u cyfrifoldeb i gynnal eu ffiniau o ran tyfiant yn hongian drosodd.

 

Gan gyfeirio at waith atgyweirio ceudyllau, eglurodd y Prif Swyddog bod matrics ar gyfer gwaith ailwynebu ond nid ar gyfer atgyweirio ceudyllau, ac mai’r Cydlynydd Ardal Strydwedd oedd y pwynt cyswllt ar gyfer adnabod a blaenoriaethu diffygion.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin, cytunodd y Prif Swyddog i ddosbarthu’r dolen i’r ap riportio ar gyfer ceudyllau ar wefan Sir y Fflint.

           

            Canmolodd y Cynghorydd Christopher Dolphin y polisi a holodd am ragor o wybodaeth am y broses i sicrhau bod y gwaith atgyweirio yn cael ei wneud ar ôl ei riportio.  Gan roi sylw ar ffordd gyda mwy na 100 o geudyllau, teimlai bod angen hysbysu'r Aelodau lle’r oedd y gwaith atgyweirio ar y rhestr ac a oedd angen cymryd camau gweithredu neu peidio.  Ailadroddodd y Prif Swyddog bod yr Aelodau angen cysylltu â’u Cydlynwyr Ardal Strydwedd a fyddai’n diweddaru ar y cynnydd.  Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Cynghorydd Dolphin, cynghorodd y Prif Swyddog bod y rhaglen cyweirio yn parhau ac yn cael ei arwain gan y Cydlynwyr Ardal. Cytunodd y Prif Swyddog a’r Cynghorydd Carolyn Thomas i gyflawni archwiliad o’r ardaloedd problemus gyda Chynghorydd Dolphin yn ei Ward. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Derek Butler sylw y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyfaint y traffig yn ogystal â hyd ffyrdd Sir y Fflint wrth dyrannu adnoddau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet gymeradwyo Polisi Archwilio Priffyrdd a Meysydd Parcio diwygiedig (Atodiad 1) sydd yn amlinellu dull y Cyngor i holl archwiliadau diogelwch, meini prawf archwilio diffygion ac amseroedd ymateb.

Dogfennau ategol: