Agenda item

Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH)

Adroddiad Prif Swyddog (Tai ac Asedau) - Dirprwy Arweinydd y Cyngor Aelod a'r Cabinet dros Dai

 

Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:

 

·         Copi o adroddiad y Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH)

·         Copi o’r Cofnod o Benderfyniad

·         Copi o’r Hysbysiad Galw i Mewn

 

Cofnodion:

Fel y rhai a gychwynnodd y broses Galw i Mewn, gwahoddwyd y Cynghorwyr Haydn Bateman, Helen Brown, Patrick Heesom a Tony Sharps i annerch y Pwyllgor yn gyntaf.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Helen Brown nifer o bryderon ynghylch gofynion yr ystafelloedd gwely fesul math o aelwyd, fel y manylir arnynt yn y Polisi SARTH. Teimlai fod yr adran hon o'r Polisi yn anghyson ac amlinellodd enghraifft lle gellid gosod gwraig feichiog mewn eiddo 1 ystafell wely, dim ond i'r person hwn gael ei symud yn dilyn geni’r plentyn, a fyddai yn ei dro yn dod â chost ddiangen i'r tenant a'r Cyngor. Soniodd am y nifer uchel o achosion lle byddai eiddo 2 ystafell wely yn cael ei gynnig i ymgeisydd ond mynegodd bryder nad oedd digon o eiddo 2 ystafell wely ar draws Sir y Fflint i gefnogi hyn. Roedd hi o'r farn y dylai'r Cabinet ailystyried y Polisi, yn enwedig yr adrannau sy'n ymwneud â maint ystafelloedd gwely a math o aelwydydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom, er ei fod yn cydnabod y pwysau a roddwyd ar y Cyngor oherwydd y cynnydd parhaus yn y galw am dai cymdeithasol, roedd angen i'r Cabinet ailystyried y system fandio fel y manylwyd o fewn Polisi SARTH. Soniodd am y pwysau cyllidebol y mae'r Cyngor yn dod ar ei draws trwy ddefnyddio llety dros dro / amgen oherwydd bod diffyg tai addas ar gael ledled Sir y Fflint, a dywedodd nad oedd y Polisi yn lliniaru'r pwysau hwn. Hefyd, mynegodd bryderon ynghylch y camau gweithredu brys a nodwyd fel rhan o archwiliad o'r SARTH, yr oedd yn teimlo a oedd yn dangos fod angen diwygio'r Polisi, ac ynghylch y Polisi Gosod Lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Haydn Bateman am y straen a roddwyd ar ymgeiswyr a oedd wedi'u cartrefu i ffwrdd oddi wrth deulu a ffrindiau a holodd sut roedd hyn yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

            Cytunodd y Cynghorydd Tony Sharps â'r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Heesom ynghylch lleoliaeth a siaradodd i gefnogi atgyfeirio'r Polisi SARTH yn ôl i'r Cabinet i’w ailystyried gan ei fod o'r farn ei fod yn anodd ei ddeall a'i esbonio i ymgeiswyr. 

 

Ymatebion gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau

 

            Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Dai ei fod wedi bod yn Aelod o'r Cabinet ers Mai 2017. Dywedodd fod y Cynghorydd Brown wedi bod yn y rôl hon cyn hynny ac wedi cyflwyno'r Polisi SARTH, ac roedd wedi parhau i’w gefnogi.

                                                            

            Mewn ymateb i'r sylwadau a chwestiynau manwl a godwyd gan y rhai a gychwynnodd y broses galw i mewn, eglurodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid bod adolygiad o'r Polisi SARTH, a gynhaliwyd yn 2017, wedi nodi bod angen diweddaru'r Polisi i sicrhau cydymffurfio â Deddf Tai (Cymru ) 2014. Roedd y Polisi presennol yn rhoi blaenoriaeth uchel i ymgeiswyr â chysylltiad lleol ag ardal ac roedd gwybodaeth am berfformiad a rheoli’r gofrestr yn cael ei fonitro. Canfu'r ystadegau diweddaraf yr amserau aros cyfartalog canlynol:-

 

·         eiddo 1 ystafell wely - amser aros o 16½ mis;

·         eiddo 2 ystafell wely - amser aros o 15 mis; a

·         eiddo 3 ystafell wely - amser aros o 13 mis.

 

Roedd y data ar amseroedd aros cyffredinol wedi nodi amserau aros hirach ar gyfer eiddo 1 a 2 ystafell wely ond roedd y Rhaglen Tai a Datblygiad Strategol (SHARP) yn mynd i'r afael rhywfaint â'r angen ychwanegol ar gyfer y mathau hyn o eiddo.     

 

O ran y mater o ddefnyddio llety dros dro, dywedodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid fod cost defnyddio llety dros dro yn is na'r hyn a fu yn y 3 blynedd diwethaf a bod Polisi SARTH wedi chwarae ei ran wrth ddod â'r gost hon i lawr.

 

Roedd yr archwiliad o SARTH, a gynhaliwyd yn ystod Medi 2017, wedi nodi camau brys, yr oedd pob un ohonynt wedi cael ei weithredu ers hynny. Nid oedd yr un o'r camau gweithredu yn ymwneud â'r ddogfen Bolisi, ond roeddent yn ymwneud â materion gallu a hyfforddiant ar gyfer y timau. O ran cynnal SARTH ar gyfer Sir Ddinbych, roedd hwn yn gofrestr ar wahân heb unrhyw geisiadau a rennir ac felly ni chafwyd unrhyw effaith ar ymgeiswyr Sir y Fflint.   

 

Roedd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yn cydnabod y pwysau sylweddol a roddwyd ar stoc tai y Cyngor oherwydd diffyg eiddo sydd ar gael ond dywedodd fod y Cyngor yn ymateb yn gadarnhaol i'r galw hwn trwy adeiladu cartrefi ar draws Sir y Fflint drwy'r SHARP. Dywedodd fod y Polisi SARTH yn deg ac yn ecwitïol wrth ymdrin â'r pwysau presennol. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai ei fod yn parhau i gefnogi'r Polisi SARTH yn llawn a dywedodd nad oedd yn teimlo bod y materion a godwyd gan y rhai a alwodd y mater i mewn yn gwarantu'r Cabinet i ddiwygio'r Polisi.

 

            Gwahoddodd y Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor i roi sylwadau a gofyn cwestiynau.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin a oedd y Cyngor yn dal i ddarparu cymorth ariannol i denantiaid a oedd yn tanfeddiannu eiddo. Dywedodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid bod cymorth ariannol yn cael ei ddarparu drwy'r Taliad Tai Dewisol ond nid oedd hwn yn ateb hirdymor. Dywedodd y Prif Swyddog ei fod yn bwysig sicrhau bod yr ymgeiswyr yn cael eu cymhathu â'r math o eiddo priodol fel nad yw tenantiaid yn cael eu rhoi mewn sefyllfa sy’n si?r o fethu ac yn cwympo i ôl-ddyledion rhent.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton fod y Pwyllgor yn cefnogi Opsiwn 1, fel y dangosir yn y ddogfen Trefniadau Galw i Mewn, gan ei fod yn fodlon â'r ymatebion a roddwyd i'r pryderon a'r cwestiynau a godwyd gan y rhai a ddechreuodd y broses galw i mewn. Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Ron Davies.

 

            Siaradodd y Cynghorydd George Hardcastle o blaid Opsiwn 3, i gyfeirio'r Polisi SARTH yn ôl i'r Cabinet er mwyn darparu'r cyfle i fynd i'r afael â phryderon y rhai a ddechreuodd y broses galw i mewn. Awgrymodd hefyd y dylid trefnu gweithdy er mwyn rhoi cyfle i bob Aelod ystyried y Polisi. Ailadroddodd yr Aelod Cabinet dros Dai ei sylwadau nad oedd yn teimlo bod y materion a godwyd yn gwarantu newid i'r Polisi SARTH.  

 

            Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks ei fod wedi bod yn fodlon â'r ymatebion gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Soniodd y Cynghorydd Ray Hughes am y rhaglen adeiladu tai Cyngor (SHARP) o fewn ei ward ei hun a gafodd groeso gan drigolion lleol, a dywedodd y byddai'n parhau i gefnogi'r Polisi SARTH cyfredol. Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin ei fod wedi bod yn fodlon â'r ymatebion a ddarparwyd gan y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid.

 

            Gwahoddodd y Cadeirydd y rhai a ddechreuodd y broses galw i mewn i grynhoi.

 

            Ymatebodd y Cynghorydd Brown i'r sylwadau ei bod wedi dod â'r Polisi SARTH i'r Cabinet yn ystod ei hamser fel Aelod Cabinet dros Dai ond teimlai bod angen diwygio'r Polisi yn awr. Dywedodd nad oedd yr holl denantiaid yn hawlio budd-daliadau, felly ar gyfer y rheiny sy’n tanfeddiannu eiddo o ganlyniad i'r Cymhorthdal ??Ystafell Sbâr, ni fyddent yn gymwys i wneud cais am y Taliad Tai Dewisol i'w cynorthwyo. Eglurodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid pan fyddent yn cael cynnig eiddo byddai'r ymgeisydd yn cael ei hysbysu'n llawn o effaith y Cymhorthdal ??Ystafell Sbâr pe baent yn tanfeddiannu eiddo.

 

            Mynegodd y Cynghorydd Heesom ei siom gyda'r drafodaeth. Teimlai nad oedd y Polisi SARTH cyfredol yn gweithio er lles gorau'r ymgeiswyr ar draws Sir y Fflint a gofynnodd am gefnogaeth y Pwyllgor wrth ddiwygio'r Polisi gyda mewnbwn gan yr Aelodau. Soniodd am faterion yn ymwneud ag ymgeiswyr nad oedd â chysylltiad lleol yn ei ward ei hun a dywedodd y byddai'r galw am dai cymdeithasol yn parhau i gynyddu, felly roedd angen Polisi diwygiedig i ateb y galw hwn. 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Sharps ynghylch y Polisi Gosod Tai Lleol, eglurodd yr Aelod Cabinet dros Dai fod y Polisi yn rhan o'r SHARP i sicrhau bod eiddo newydd y Cyngor yn cael eu cynnig i ymgeiswyr â chysylltiad lleol ag ardal. 

 

            Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Brown yngl?n â chymhathu ymgeiswyr ag eiddo yn unol â'r Cymhorthdal ??Ystafell Sbâr, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid bod yr adran 'gofyniad ystafelloedd gwely yn ôl math o aelwyd' y Polisi SARTH yn cael ei ddyfynnu i'r Cyngor trwy Ddeddfwriaeth Tai, ond dywedodd mai'r Cyngor oedd yr unig sefydliad i ddarparu hyblygrwydd o gwmpas y cyfle i danfeddiannu eiddo lle y bo'n briodol.

 

            Diolchodd y Cadeirydd i’r rhai a alwodd y penderfyniad i mewn am eu presenoldeb a diolchodd i'r rhai a wnaeth benderfyniadau am ymateb i'r sylwadau a'r cwestiynau.

 

            Cyn cymryd pleidlais, atgoffodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y pwyllgor am y weithdrefn bleidleisio mewn cyfarfod galw penderfyniad i mewn. Gan fod opsiwn wedi'i gynnig a'i eilio, dylid pleidleisio arno cyn y gellid ystyried opsiwn amgen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried yr esboniadau a gafodd, bod y Pwyllgor yn fodlon, a bod y penderfyniad i barhau i gefnogi rheoli’r polisi Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) yn cael ei weithredu ac i gefnogi'r ddogfen bolisi diwygiedig wedi’i diweddaru.

Dogfennau ategol: