Agenda item

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Ystyried unrhyw Hysbysiadau o Gynnig a dderbyniwyd.

Cofnodion:

Derbyniwyd dau Rybudd o Gynnig:

 

(i)         Cynllun Cyfnewid Rhentu - Y Cynghorydd Andy Dunbobbin

 

‘Hoffwn i’r Cyngor ystyried cyflwyno’r gwasanaeth sy’n adnabyddus fel Cyfnewid Rhentu sydd yn gynllun cenedlaethol yn cael ei fabwysiadu gan nifer gynyddol o landlordiaid cymdeithasol fel ffordd o gefnogi tenantiaid i allu gwella eu statws credyd.

 

Mae wedi dod i fy sylw bod tenantiaid y Cyngor sydd yn talu rhent ar amser ddim yn cael cydnabyddiaeth am hynny ar eu hadroddiad cyfeirnod credyd.  Credaf fod anghydraddoldeb yma gan fod y rheiny gyda morgais ar eu heiddo ac sy'n gwneud taliadau ar amser gyda thystiolaeth o hynny ar ei ffeil credyd.

 

Trwy gymryd rhan yn y gwasanaeth a gweithio gydag asiantaethau cyfeirnod credyd, byddai’r Cyngor yn gallu cynnig y cyfle i denantiaid i ddatblygu hanes credyd cadarnhaol,  yn ogystal â chael eu gwobrwyo am dalu eu rhent ar amser - Credaf hefyd ei fod yn golygu buddion sylweddol ar gyfer pethau fel gwneud cais am nwyddau a gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau ariannol cyfrifol a fforddiadwy, siopa ar-lein neu hyd yn oed helpu tenant sydd eisiau gwneud cais am forgais fel rhan o bontio i'r cam o brynu cartref eu hunain.

 

Dyma gynllun a fyddai’n helpu i gefnogi tenantiaid y Cyngor ac fel Cyngor blaengar, gofynnaf i chi ystyried a gweithredu’r cynllun?

 

Fel Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai, dyma'r Cynghorydd Attridge yn diolch i'r Cadeirydd Dunbobbin am ei Rybudd o Gynnig.  Dywedodd bod y mecanwaith ar gyfer landlordiaid tai cymdeithasol i gytuno i’r cynllun yn helpu tenantiaid i gael mynediad i gredyd fforddiadwy ac i gynnig buddion ariannol hirdymor.  Byddai’n annog tenantiaid i gadw at eu taliadau rhent a’u talu ar amser yn ogystal â chefnogi strategaethau’r Cyngor.  Gofynnodd bod y Cabinet yn ystyried adroddiad ar ddichonoldeb gweithredu'r cynllun yn Sir y Fflint gyda gwybodaeth ar sefydlu costau ac amserlenni.

 

Eiliwyd y Cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

Cynigodd y Cynghorydd Peers newid bychan i'r geiriad yn nhrydydd paragraff y Cynnig gan newid y gair ‘gwobrwyo’ i ‘cydnabod’ fel ei fod yn fwy eglur.  Mynegodd y Cynghorydd Dunbobbin ei fod yn fodlon gyda’r diwygiad.  Wrth fynd i’r bleidlais, pleidleisiwyd yn unfrydol o blaid y Rhybudd o Gynnig.

 

Meddai’r Prif Weithredwr ei fod ef a’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) i’ll dau yn croesawu’r cynllun mewn egwyddor a byddai adroddiad i’r Cabinet yn cael ei flaenoriaethu.

 

(ii)          Refferendwm Brexit – Y Cynghorydd Kevin Hughes

 

Ar 23 Mehefin 2016 pleidleisiodd pobl y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd trwy Refferendwm Brexit.  O’r pleidleisiau, pleidleisiodd 51.8% i adael gyda 48.11% yn pleidleisio i aros.Yn Sir y Fflint pleidleisiodd 56.4% i adael gyda 43.6% yn pleidleisio i aros.  Galwodd Llywodraeth San Steffan ar Erthygl 50 ar Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd gyda’r Prif Weinidog yn arwyddo llythyr ar 28 Mawrth 2017. Cafodd y llythyr ei anfon y diwrnod canlynol gan Lysgennad Prydeinig yr Undeb Ewropeaidd  at Lywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk.   Ers hynny mae trafodaeth barhaus heb unrhyw arwydd o gytundeb y gellir cytuno arno yn y Senedd neu un sy'n dderbyniol i bobl Prydain.

 

Yn y cyfamser mae Prif Swyddog Gweithredol Airbus wedi rhybuddio y gallai’r cwmni adael y DU os bydd yn gadael y farchnad sengl Ewropeaidd a’r undeb tollau heb gytundeb trosiannol.  Byddai hynny’n cael effaith distrywiol ar weithwyr di-rif yn Sir y Fflint sydd wedi'u cyflogi gan Airbus a miloedd o gwmnïau llai sydd yn ei gyflenwi â nwyddau, offer a gwasanaethau.

 

Yn ogystal, mae Is-lywydd Gweithredol Toyota, Didier Leroy, wedi dweud y gallai ansicrwydd gyda Brexit beryglu buddsoddiad y cwmni yn y dyfodol yn y DU a fyddai unwaith eto’n cael effaith negyddol ar weithwyr Sir y Fflint a ffyniant parhaus y sir.

 

Mae Hazel Wright, uwch swyddog polisi Undeb Ffermwyr Cymru yn cynghori ffermwyr Cymru, gan gynnwys y rheiny sy’n ffermio yn Sir y Fflint bod Cynllun Y Taliad Sylfaenol o dan Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE yn dod i ben ar ôl Brexit ac yn symud i gynllun Llywodraeth Cymru yn 2021 yn seiliedig ar ffactorau amgylcheddol.

 

Byddai hynny’n golygu y bydd ffermwyr Sir y Fflint yn cael eu trin yn wahanol i’w cystadleuwyr yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban, Lloegr a gweddill Ewrop gan adael llawer yn ofni am eu bywoliaeth ac ni fydd eu ffermydd yn ariannol hyfyw mwyach.

 

Nawr ein bod yn gwybod y gwir ffeithiau a chanlyniadau Brexit a’i effaith tebygol ar economi, swyddi a ffyniant Sir y Fflint ynghyd â gallu San Steffan i drafod cytundeb addas efallai ei bod yn amser i roi ail gyfle i'r etholaeth ddweud ei dweud ar ganlyniad terfynol Brexit?  Byddai'n gwbl annheg ac yn sarhad i ddemocratiaeth i beidio â rhoi’r cyfle i bobl Prydain i ddweud eu barn ar y cytundeb terfynol a ninnau bellach yn gwybod y canlyniadau'n llawn.

 

Mae’r cyngor felly yn galw ar Lywodraeth San Steffan i roi’r cyfle i’r cyhoedd bleidleisio ar y cytundeb Brexit terfynol a fydd yn gweld y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.  A dylai’r bleidlais honno gynnwys tair elfen:

 

1)    I dderbyn y cytundeb terfynol a gytunwyd arni gan y Llywodraeth.

2)    I adael yr Undeb Ewropeaidd, ei undeb tollau a’i farchnad sengl heb gytundeb a gytunwyd arni.

3)    I aros yn aelod llawn o'r Undeb Ewropeaidd, ei undeb tollau a’i farchnad sengl.’

 

Wrth gyflwyno ei Rybudd o Gynnig, dywedodd y Cynghorydd Hughes mai nod ei Rybudd o Gynnig oedd peidio creu trafodaeth ar sut y mae unigolion yn pleidleisio nac i'w hannog i newid eu meddyliau.  Yn hytrach mae’r Cynnig yn cymryd i ystyriaeth y sefyllfa bresennol ar p’un ai fod y cytundeb yn rhywbeth y mae pobl ei heisiau a’r goblygiadau i genedlaethau iau yn Sir y Fflint.

 

Eiliwyd y Cynnig gan y Cynghorydd Bithell oedd o'r farn bod y refferendwm UE yn achos cymhleth na ellir ei ddatrys drwy ateb ‘ie’ neu ‘na’.  Cyfeiriodd at y problemau fel mewnfudo, swyddi a thwristiaeth na wyddid amdanynt yn ystod refferendwm yr UE ac amlygwyd pryderon am y diwydiant a’r economi leol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Legg o blaid y Cynnig gan dynnu sylw at y ddyletswydd ar unigolion i ddefnyddio eu hawl i bleidleisio.  Siaradodd y Cynghorydd Phillips o blaid hefyd.  Cafodd ei ddiwygiad arfaethedig i gael gwared ar y tri dewis o fewn y Cynnig ei wrthod gan y Cynghorydd Hughes.  Tynnodd y Cynghorydd Phillips ei ddiwygiad yn ôl.   Dywedodd y Prif Weithredwr mai cyfrifoldeb y Comisiwn Etholiadol oedd geirio cwestiwn ar gyfer refferendwm.

 

Siaradodd y Cynghorydd Carver yn erbyn y Cynnig gan ei fod yn credu bob pobl wedi deall yr hyn yr oedd yn ei olygu wrth bleidleisio yn y refferendwm cyntaf.  Mynegodd y Cynghorydd Woolley ei fod yntau yn erbyn y Cynnig ac fe gwestiynodd y Cynghorydd Rita Johnson p’un ai fyddai llais y Cyngor yn cael ei glywed.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peers y dylai telerau’r cytundeb terfynol ar Brexit fod yn ddarostyngedig i ymgynghoriad cyn derbyn neu wrthod pleidlais gyhoeddus.

 

Safbwynt tebyg yn cael ei rannu gan y Cynghorydd Butler a oedd yn teimlo fod achosion sefydliadol o'r fath bwys yn cael ei benderfynu ar bleidleisiau etholiadol o leiafswm o 70%.

 

Wrth groesawu’r ddadl, dywedodd y Cynghorydd Heesom nad oedd yn gallu cefnogi’r Cynnig gan ei fod yn bwysig cydnabod ewyllys y bobl a bleidleisiodd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ellis nad oedd gan Aelodau fandad trigolion Sir y Fflint i newid eu pleidlais.

 

Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton fod Aelodau o’r blaid Lafur yn cymryd pleidlais rydd ar yr achos hwn.  Tra’n cydnabod egwyddorion y Cynnig, teimlai fod gwneud cynrychiolaethau o'r fath ar y cam tyngedfennol hwn o drafod yn beryglus.

 

Mynegodd y Cynghorydd Paul Johnson, oedd wedi cymryd rhan yng ngorymdaith Pleidlais Pobl ar refferendwm Brexit, ei fod o blaid y Cynnig.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at gostau ariannol Brexit ac roedd y Cynghorydd Ian Roberts o blaid y bleidlais a'r gwirionedd o adael Brexit.

 

O'i roi i bleidlais, collwyd y Cynnig.

 

Meddai’r Prif Weithredwr er nad oedd gan y Cyngor farn ffurfiol ar Brexit, roedd gwaith yn mynd rhagddo ar baratoi ar gyfer y risgiau o newid i gael ei adrodd yn y dyfodol i gyfarfod o'r Cabinet a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.  Dosbarthodd daflen fel papur cefndirol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Dunbobbin, fel y diwygiwyd gan y Cynghorydd Peers yn cael ei gefnogi.   Bod y trydydd paragraff yn darllen fel hyn: ‘Trwy gymryd rhan yn y gwasanaeth a gweithio gydag asiantaethau cyfeirnod credyd, byddai’r Cyngor yn gallu cynnig y cyfle i denantiaid i ddatblygu hanes credyd cadarnhaol,  yn ogystal â chael eu cydnabod am dalu eu rhent ar amser - Credaf hefyd ei fod yn golygu buddion sylweddol ar gyfer pethau fel gwneud cais am nwyddau a gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau ariannol cyfrifol a fforddiadwy, siopa ar-lein neu hyd yn oed helpu tenant sydd eisiau gwneud cais am forgais fel rhan o bontio i'r cam o brynu cartref eu hunain.’ a

 

(b)       Bod y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Hughes ar refferendwm Brexit yn cael ei wrthod.

Dogfennau ategol: