Agenda item

Rhaglen Gyfalaf Safonau Ansawdd Tai Cymru – y wybodaeth ddiweddaraf ar yr Adolygiad Cyflenwi

Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd Safonau Ansawdd Tai Cymru, a gyflenwir gan y Cyngor drwy ei Raglen Buddsoddiad Cyfalaf

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad i roi diweddariad ar gynnydd SATC a ddarparwyd gan y Cyngor drwy ei Raglen Buddsoddi Cyfalaf.  Eglurodd fod Rhaglen Waith SATC wedi cyrraedd ei charreg filltir hanner ffordd, ac yn symud i’r tair blynedd olaf o ddarpariaeth.  Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar beth a ddarparwyd hyd yn hyn a beth oedd ar ôl i’w gwblhau cyn dyddiad cau 2020.

 

            Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad ar Raglen SATC.  Rhoddodd wybod fod tîm prosiect SATC bron â chwblhau'r rhaglen Gwaith Mewnol (ceginau ac ystafelloedd ymolchi) a bod yr eiddo a oedd yn weddill naill ai’n 'wrthodiadau gan denantiaid' neu'n 'ddim mynediad', a ddosbarthwyd fel 'methiannau derbyniol' gan Lywodraeth Cymru o ran cyflawni SATC.  Roedd tîm prosiect SATC hefyd wedi caffael pob prif Gontract SATC wrth symud i Flwyddyn 4 (2018/19) o’r Rhaglen Gyfalaf, ac o flaen y targed gyda nifer y cydrannau a osodwyd, ac yn bwriadu gweithredu'r Ateb Cymhorthydd Digidol Personol (PDA) yn Chwarter 4 o’r flwyddyn ariannol hon.  Aeth y Prif Swyddog ymlaen i ddweud fod tîm prosiect SATC wedi darparu sawl contract, yn amrywio o waith uwchraddio mewnol i waith ailwampio allanol mawr, a chynlluniau amgylcheddol.  Roedd y Cyngor wedi buddsoddi tua £60m hyd yn hyn o fewn ei stoc dai, ac ar hyn o bryd o flaen y targed wrth fodloni dyddiad cau SATC o 2020.

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog at Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a rhoddodd wybodaeth gefndir, fel y manylwyd yn yr adroddiad.  Dywedodd fod yr archwiliad wedi cwmpasu nifer o feysydd yn ymwneud â defnyddwyr gwasanaeth yr Awdurdod, ac ar ôl cynnal arolygon, ystyried adborth defnyddwyr a chymedroli eu canfyddiadau, daeth  SATC i'r casgliad "at ei gilydd, roedd y Cyngor yn gwneud cynnydd da tuag at gyflawni SATC ac roedd y rhan fwyaf o denantiaid y Cyngor yn fodlon gydag ansawdd y gwasanaeth a'u cartrefi".

 

            Llongyfarchwyd y Prif Swyddog a'i dîm gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Paul Shotton ar eu llwyddiannau gyda SATC hyd yn hyn ac am roi adroddiad da.   

 

            Rhoddodd y Cynghorydd Patrick Heesom sylw ar yr angen i sicrhau bod contractwyr lleol a llafur yn cael eu defnyddio yn rhaglen waith SATC.  Rhoddodd y Rheolwr Gwaith Cyfalaf wybod fod contractwyr a llafur lleol ynghlwm wrth bob t? newydd a adeiladir a dywedodd fod angen bodloni trothwyon wrth gontractio gwaith ar gyfer rhaglen SATC.  Eglurodd am bob £1m o wariant, roedd yr Awdurdod wedi gorfod sicrhau bod nifer benodol o gyfleoedd swyddi lleol a phrentisiaethau wedi'u rhoi, a dywedodd y rhagorwyd ar y targed hyd yn hyn. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin at eiddo nad oedd wedi’u huwchraddio oherwydd ‘gwrthodiadau gan denantiaid’ neu’n ‘ddim mynediad’, a holodd a oedd cyflwr yr eiddo wedi’u gwirio i sicrhau y cydymffurfiwyd â safonau tai.  Eglurodd y Rheolwr Gwaith Cyfalaf y byddai arolygiad cyflwr yn cael ei wneud pan fo’n briodol.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog y dylai'r Pwyllgor gael adroddiad diweddaru blynyddol ar ddarparu Rhaglen Gyfalaf SATC, i gynnwys gwybodaeth am ddefnyddio llafur lleol a nifer y prentisiaid a'r rhai sy'n gadael ysgol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cynnydd a wnaed i ddarparu Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf Tai.

Dogfennau ategol: