Agenda item
Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd, Dydd Mercher, 19eg Medi, 2018 10.00 am (Eitem 16.)
- Cefndir eitem 16.
Pwrpas: Cyfle i’r pwyllgor ddeall y gwaith a wneir ar hyn o bryd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cadeirydd Mr Nick Thomas, Rheolwr Gweithrediadau Gogledd-ddwyrain Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, i’r cyfarfod a’i wahodd i roi cyflwyniad ar y gwaith sy’n cael ei wneud yn awr gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Diolchodd Mr. Thomas i’r Pwyllgor am y cyfle i roi amlinelliad o waith CNC. Dywedodd bod CNC wedi’i sefydlu yn 2013 a’u bod yn gyfrifol am waith Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth a rhai o ddyletswyddau Llywodraeth Cymru. CNC yw’r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru, gyda 1750 aelod o staff a chyllideb flynyddol o tua £170 miliwn. Ei ddiben yw rheoli cyfoeth naturiol mewn dulliau cynaliadwy. Aeth Mr.Thomas ymlaen i roi cyflwyniad a oedd yn cwmpasu’r prif bwyntiau canlynol:
· Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – sut y byddwn yn cyflawni
· Egwyddorion Deddf yr Amgylchedd
· Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint
· Asesiad o Lesiant ar gyfer Sir y Fflint
· Rheoleiddio gwastraff
· Rheoleiddio diwydiant
· Prosiect cyfarwyddeb fframwaith d?r Afon Alun
· amaethyddiaeth
· Aber Afon Dyfrdwy
· mynediad, hamdden, iechyd
· newid yn yr hinsawdd
· ymateb i ddigwyddiadau
· rheoli’r risg o lifogydd
· cadwraeth
Diolchodd y Cadeirydd i Nick Thomas am ei gyflwyniad ac estynnodd wahoddiad i Aelodau godi cwestiynau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Owen Thomas at y mater o dipio anghyfreithlon a gofynnodd a oedd unrhyw ddiogelwch o amgylchedd safleoedd chwareli. Esboniodd Mr Thomas mai perchnogion chwareli oedd yn gyfrifol am reoli diogelwch ar eu safleoedd. Disgrifiodd y costau sylweddol sy’n gysylltiedig â chlirio tir gwastraff a oedd wedi’u storio heb drwydded neu esemptiad a chanlyniadau cyfreithiol diffyg cydymffurfiaeth. Fe anogodd yr Aelodau i roi gwybod i CNC am unrhyw ddigwyddiadau neu bryderon o ran rheoli neu dipio/storio gwastraff yn anghyfreithlon.
Yn ystod y drafodaeth cododd yr Aelodau nifer o bryderon yngl?n â gallu’r system garthffosiaeth i ymdopi â’r galw cynyddol o ganlyniad i ddatblygiadau tai newydd ac yn y dyfodol yn Sir y Fflint. Cyfeiriodd Mr Thomas at y gwaith a wnaed i arafu a dargyfeirio llif d?r wyneb i’r system garthffosiaeth. Esboniodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai D?r Cymru yn gwneud asesiad o’i system garthffosiaeth i weld a allai ymdopi â’r galw ychwanegol y byddai unrhyw adeiladau newydd yn ei greu mewn ardal a, pe byddai angen, ni fyddai unrhyw ddatblygiadau pellach yn cael eu hadeiladu nes y byddai’r system garthffosiaeth wedi’i huwchraddio. Dywedodd y Prif Swyddog bod rhai datblygiadau yn Sir y Fflint ‘wedi’u cloi’ o ganlyniad i’r broses hon.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog at system ddraenio drefol gynaliadwy ar gyfer pob datblygiad o fwy na 18 annedd, gan wahanu d?r budr a d?r wyneb.
Mynegodd y Cynghorydd Veronica Gay bryderon yngl?n â chynnal a chadw Balderton Brook, Saltney. Cytunodd Mr Thomas y byddai’n edrych ar y materion penodol a godwyd ar ôl y cyfarfod.
Yn ystod y drafodaeth fe ymatebodd Mr. Thomas i gwestiynau a phryderon pellach a godwyd gan Aelodau am lwybr arfordir Cymru, Aber Afon Dyfrdwy, carthu, ac ymateb i ddigwyddiadau.
PENDERFYNWYD:
Y byddai’r cyflwyniad gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei nodi.
Dogfennau ategol: