Agenda item

Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: Diweddariad Ariannol ac Ymgynghoriad 2019-20

Pwrpas:         I dderbyn cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tân i hysbysu'r Cyngor am gyllideb 2019-20 Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Simon Smith, Prif Swyddog, Helen McArthur, Prif Swyddog Cynorthwyol a Sian Morris, Prif Swyddog Cynorthwyol, Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.  Mynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad am y gwaith a wnaed gan Wasanaeth Tân Ac Achub Gogledd Cymru yn ystod y cyfnod hir o dywydd crasboeth a gafwyd yn ystod haf eleni. 

 

Manteisiodd y Cynghorydd Tony Sharps ar y cyfle i fynegi ei ddiolchiadau personol i’r Gwasanaeth Tân ac Achub oedd wedi mynychu tân yn ei eiddo a diolchodd am gyflymder yr ymateb gan y criw yng Ngorsaf Dân Queensferry a'r gwaith arbennig a wnaethant i reoli’r sefyllfa a diogelu ei eiddo.

 

Croesawodd  Mr Smith y cyfle i ddychwelyd i'r Cyngor a rhoddodd ymddiheuriadau ar ran Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd yr Awdurdod, a Peter Lewis, Is Gadeirydd yr Awdurdod, a mynegodd eu bod am ddymuno'n dda i'r Aelodau a'r  Awdurdod. Cyflwynodd  Mr Smith Helen McArthur, Prif Swyddog Cynorthwyol (â chyfrifoldeb dros Adnoddau Corfforaethol) a Sian Morris, Prif Swyddog Cynorthwyol (â chyfrifoldeb dros Gynllunio Corfforaethol a meysydd eraill). 

 

Cyfeiriodd  Mr Smith at ymgynghoriad blynyddol Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, a lansiwyd ar 11 Medi. Dywedodd fod yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar yr adnoddau sydd ar gael i’r Awdurdod Tân ac Achub, y gyllideb, ac effaith cyfyngiadau ariannol parhaol a oedd hefyd yn effeithio ar awdurdodau lleol Gogledd Cymru.  Dywedodd ei fod yn bwysig bod yr Awdurdod Tân ac Achub a’r awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd ac yn deall yr heriau parhaol yr oedd angen mynd i'r afael â nhw.  O fewn y cyd-destun a'r cefndir hwn dywedodd MrSmith ei fod yn bwysig bod yr Awdurdod Tân yn egluro'i sefyllfa gyfredol o safbwynt cyllideb yr Awdurdod Tân ac Achub a'i allu i ddarparu gwasanaethau. Aeth  Mr Smith ymlaen i ddweud mai’r bwriad, ar ôl y cyflwyniad, oedd cael adborth anffurfiol gan y Cyngor ar yr ymgynghoriad, gydag adborth ffurfiol wedyn gan y Cyngor Sir erbyn y dyddiad cau sef 2 Tachwedd 2018.

 

 Gwahoddodd Mr  Smith Ms Sian Morris i roi cyflwyniad ar Gynllunio’r Awdurdod Tân ac Achub ar gyfer 2019/20. Roedd prif bwyntiau’r cyflwyniad fel a ganlyn:

 

·         Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru:

·         beth mae’r Awdurdod yn ei ddarparu

·         gwariant cyfredol

·         ariannu gwasanaeth tân ac achub

·         symud i 2019/20 

 

Adroddodd Ms Morris ar ddyletswyddau allweddol yr Awdurdod Tân ac Achub oedd yno er mwyn sicrhau bod digon o adnoddau er mwyn bodloni gofynion arferol gweithredu a darparu’r gwasanaethau tân ac achub, er mwyn sicrhau bod digon o hyfforddiant a chyfarpar gan ymladdwyr tân, a bod pobl yn cael ateb ac ymateb wrth iddynt alw 999. Dywedodd Ms Morris fod yn rhaid i’r Awdurdod gydymffurfio gyda deddfwriaeth a rheoliadau a dyfynnodd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, safonau’r Iaith Gymraeg, deddfwriaeth Iechyd A Diogelwch, rheoliadau ariannol, a deddfwriaeth cydraddoldeb fel rhai enghreifftiau.

 

Cyfeiriodd Ms Morris at y gwaith o gynnal gwasanaeth mewn gorsafoedd tân ac eglurodd bod 44 o orsafoedd tân drwy Ogledd Cymru. Dywedodd mai un peiriant tân ac un criw tân oedd yn y rhan fwyaf o orsafoedd ac yn bennaf mai ymladdwyr tân wrth gefn oedd y staff ymladd tân. Dywedodd bod staff yng ngorsafoedd tân Glannau Dyfrdwy, Wrecsam a’r Rhyl 24 awr y dydd, a bod 5 gorsaf arall lle oedd staff yno drwy gydol y dydd oedd yn gweithredu fel gorsafoedd wrth gefn dros nos. Gorsafoedd tân wrth gefn yw’r 36 gorsaf arall.

 

Rhoddodd Ms Morris drosolwg o’r argyfyngau a fynychwyd yng Ngogledd Cymru. Dywedodd bod yr Awdurdod Tân ac Achub drwy ei waith atal tanau wedi bod yn llwyddiannus gan leihau’r nifer o danau sy’n digwydd yng Ngogledd Cymru. Aeth ymlaen i ddweud bod yr Awdurdod Tân, drwy newidiadau polisi a gweithdrefnol hefyd wedi lleihau’r nifer o weithiau yr anfonwyd criwiau tân i fynychu larymau ffug.  Fodd bynnag, eglurodd Ms Morris bod y nifer o argyfyngau nad oeddynt yn ymwneud â thân wedi cynyddu i adlewyrchu gwaith mwy amrywiol y gwasanaeth tân a chyfeiriodd at y gwaith ar y cyd â'r gwasanaeth ambiwlans fel enghraifft.

 

Ar ôl fideo byr ar Wasanaeth Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru daeth cyflwyniad Ms Morris i ben wrth iddi gynghori bod yr Awdurdod Tân ac Achub yn ddiweddar wedi adolygu ei weithrediadau ac wedi penderfynu peidio ymgynghori’r flwyddyn hon ar waredu unrhyw un o gerbydau'r gwasanaeth tân na lleihau criwiau tân.

 

Gwahoddwyd Ms Helen MacArthur, Prif Swyddog Cynorthwyol i roi cyflwyniad pellach ar ganlyniadau cyllid a chyllideb.  Dywedodd Ms MacArthur y byddai’n adrodd ar wariant a chostau sylfaenol yr Awdurdod Tân gan gynnwys cymariaethau gydag Awdurdodau Tân ac Achub eraill a chyrff sector cyhoeddus Gogledd Cymru .  Dywedodd y byddai hefyd yn manteisio ar y cyfle i amlinellu prosesau cyllido'r Awdurdod Tân ac Achub, eu defnydd o arian wrth gefn, ac amlygu’r heriau ar gyfer 2019/20. Gan gydnabod yr heriau ariannol yr oedd yn rhaid i awdurdodau lleol Gogledd Cymru hefyd fynd i’r afael â nhw, rhoddodd Ms MacArthur sicrwydd bod yr Awdurdod Tân ac Achub yn cymryd ei gyfrifoldebau ariannol o ddifrif, yn rheoli ei wariant gyda diwydrwydd a gofal priodol, a'i fod mor effeithiol â phosib.  

 

Dywedodd Ms MacArthur mai £33.3 miliwn oedd gwariant yr Awdurdod Tân ac Achub ar gyfer 2017/18. Rhoddodd fanylion gwariant a chyfeiriodd at brif feysydd costau gweithwyr (gwaith gweithredol rheng flaen, tân ac achub, atal, cymorth arbenigol), ariannu cyfalaf, a chyflenwyr (costau TGCh a chyfathrebu). Soniodd Ms MacArthur ar y pwysau gwaith sylweddol yr oedd yn rhaid i’r Awdurdod Tân ac Achub fynd i'r afael â nhw gan sôn am ddyfarniadau cyflog, gweithlu sy'n heneiddio, costau pensiwn, chwyddiant cyffredinol ym maes ariannu cyfalaf, a TGCh, fel enghreifftiau. Aeth Ms MacArthur ymlaen i gyflwyno adolygiad hanesyddol o wariant rhwng 2010/11 a 2018/19 a dywedodd bod gwariant wedi codi o 8%.   Adroddodd ar y camau gweithredu a gymerwyd er mwyn mynd i’r afael â chostau cynyddol a chyfeiriodd at yr arbedion a gyflawnwyd o gyllidebau staff a chyllidebau eraill, yr arbedion effeithlonrwydd a gyflawnwyd drwy newid polisi a phwyslais parhaol ar leihau galw (atal), peth enillion annisgwyl, a'r defnydd o gronfeydd wrth gefn.    

 

Adroddodd Ms MacArthur ar y data cymharu a gyflwynwyd ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yng nghyd-destun cyllidebau refeniw awdurdod lleol a chyllidebau'r sector cyhoeddus ar y wybodaeth meincnodi a ddarparwyd o’u cymharu ag Awdurdodau Tân ac Achub eraill yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru a De Cymru.

 

Aeth Ms MacArthur ymlaen i gyflwyno dadansoddiad o gyfraniadau’r Cyngor Sir a gwariant net a dywedodd bod costau rhedeg yr Awdurdod Tân ac Achub, am y 3 blwyddyn ariannol ddiwethaf wedi bod yn uwch na chyfansymiau'r lefi a roddwyd ar gynghorau unigol. Ar gyfer 2019/20 roedd yr Awdurdod Tân wedi cyrraedd y pwynt lle na ellid defnyddio mwy o’u harian wrth gefn a byddai’n rhaid i’r costau rhedeg gael eu paru gan gyfraniadau gan awdurdodau lleol. £1.9 miliwn fyddai’r cynnydd mewn cyfraniadau ar draws yr awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn (yn ôl asesiad cynllunio cyfredol) a byddai’r gost uniongyrchol i Sir  Fflint yn £420,000.  Dywedodd Ms MacArthur na ddisgwylir iddi fod yn bosib cwrdd y cynnydd mewn cyfraniadau i’r Awdurdod Tân o gronfeydd mewnol wrth gefn, oherwydd y cyfyngiadau ariannol ar y Cyngor, ac y byddai'n rhaid talu’r gost drwy gynnydd mewn treth cyngor. Byddai effaith y cynnydd ar gartref cyfartalog Band D gyfwerth â £6.53 ychwanegol yn 2019/20.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i Mr Simon Smith, Ms Sian Morris a Ms Helen MacArthur am eu cyflwyniad. Gwahoddwyd Aelodau i holi cwestiynau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Rita Johnson i swyddogion yr Awdurdod Tân ac Achub i ddarparu mwy o wybodaeth ar eu polisi diwygiedig yngl?n â mynychu galwadau i achub anifeiliaid mawr.  Rhoddodd Mr  Simon Smith wybodaeth gefndirol ac eglurodd taw dyletswydd anstatudol oedd achub anifeiliaid mawr ac oherwydd y cyfyngiadau ariannol ar yr Awdurdod Tân ac Achub, penderfynwyd dwyn y gwasanaeth hwnnw i ben.  Dywedodd na fu effaith wirioneddol ar gymuned Gogledd Cymru o ganlyniad.  Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Cynghorydd Clive Carver yngl?n ag achub anifeiliaid, eglurodd Mr Simon Smith y byddai'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn mynychu galwad lle'r oedd anifeiliaid mewn damwain traffig ar y ffordd, defnyddiodd gludiant gwartheg a cheffylau byw fel enghraifft.

 

Talodd y Cynghorydd Ian Roberts deyrnged i waith Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru a diolchodd i Mr  Smith am y sicrwydd a'r gefnogaeth a roddwyd i drigolion Fflint oedd yn byw mewn adeiladau uchel wedi trychineb T?r Grenfell yn Llundain y llynedd.   Diolchodd Mr  Smith i'r Cynghorydd Roberts am ei adborth cadarnhaol a dywedodd y dylid canmol y Cyngor hefyd am ei waith ar adeiladu’r adeiladau yn y lle cyntaf a’r monitro parhaus a'r defnydd o adeiladau uchel yn y Fflint.  Pwysleisiodd mai gwaith ataliol yw’r allwedd er mwyn cadw pobl yn ddiogel.

 

Soniodd Mike Peers am y gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud gan y rhaglen Phoenix ar gyfer troseddwyr ifanc a gofynnodd a oedd hyn yn dal yn mynd rhagddo ac a oedd wedi cyfrannu tuag at ostyngiad yn y nifer o danau a choswyd yng Ngogledd Cymru.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers hefyd at y data cymharu oedd wedi ei ddarparu ar Ganolbarth a Gorllewin Cymru, a De Cymru, a gofynnodd a fyddai’n bosib darparu data cymharu ar Gaer / Gorllewin Caer, a’r gost fesul pen fesul diwrnod. Cytunodd Mr  Smith i ddarparu’r wybodaeth hon i’r Prif Weithredwr ar ôl y cyfarfod. 

 

Diolchodd Mr  Smith i’r Cynghorydd Peers am ei sylwadau cadarnhaol ar y rhaglen Phoenix a dywedodd bod Aelodau Cyngor Sir Y Fflint ac Aelodau’r Awdurdod Tân ac Achub yn cefnogi'r rhaglen.  Rhoddodd amlinelliad bras o’r rhaglen Phoenix ac eglurodd bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r rhaglen drwy grant.  Dywedodd Mr  Smith bod LlC wedi bod yn gefnogol iawn i’r rhaglen yn y gorffennol ac yn rhannu’r farn ei fod yn rhaglen dda oedd yn cael effaith hirdymor, a byddent am ei gweld yn parhau, er na ellid gwarantu’r rhaglen ar gyfer y dyfodol.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Ian Dunbar a Paul Shotton yn gefnogol am Raglen Phoenix a'i llwyddiant, a hefyd am y prosiect Cymorth Cymunedol.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at waith y tîm Cymorth Cymunedol a mynegodd ei siom fod arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith gwerthfawr wedi ei dynnu yn ôl a dywedodd y dylid adolygu'r sefyllfa.

 

Yn ei sylwadau wrth gloi atgoffodd y Prif Weithredwr yr aelodau mai’r Awdurdod Tân ac Achub oedd â'r penderfyniad terfynol ar y gyllideb a osodwyd a byddai angen i Sir y Fflint dalu’r cyfraniad lefi oedd yn ofynnol gan awdurdodau lleol. Cyfeiriodd at y gweithdai cyllideb oedd i’w cynnal yr wythnos nesaf, a’r cymhlethdod ynghylch sut byddai'r Cyngor yn cyllido’r cyfraniad ychwanegol o £420,000 y dywedodd y gellid ei gyllido yn llawn neu'n rhannol gan Dreth Cyngor ychwanegol uwch ben gofyniad y Cyngor ei hun.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at ymgynghoriad yr Awdurdod Tân ac Achub ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019/20 cyn iddi gael ei gosod ym mis Rhagfyr 2018, ac anogodd Aelodau i wneud cyfraniadau unigol i’r ymgynghoriad fel trigolion.  Dywedodd y byddai staff, trigolion lleol a phartneriaid yn cael eu hannog i roi sylwadau ar yr ymgynghoriad er mwyn cael ymateb da gan ardal Sir y Fflint. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai ymateb corfforaethol hefyd yn cael ei roi i’r ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cyflwyno ymateb corfforaethol i ymgynghoriad Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

ar y gyllideb ddrafft erbyn 2 Tachwedd 2018.